Cymru v Iwerddon - ddy desaider - jydjment dei...ayb...ayb

Does dim rhieni gan y reffarî

Cymedrolwr: eusebio

Rheolau’r seiat
Croeso i chi drafod unrhyw chwaraeon o beldroed neu rygbi i didliwincs! Plîs peidiwch â chreu unrhyw edefyn pêl-droed v rygbi. Mae'r math yma o edefyn yn ddiflas tu hwnt ac wedi arwain yn y gorffenol at ffraeo a checru hurt. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Cymru v Iwerddon - ddy desaider - jydjment dei...ayb...ayb

Postiogan Macsen » Gwe 20 Maw 2009 2:09 pm

Pam fod Andy Powell yn y tim, yr oll mae'n ei wneud ydi mynd a'r bel mewn i ganol yr amddiffynwyr ar amseroedd gwirion. Mae fel petai fo'n meddwl bod profi ei hun i'r tim drwy gario'r bel mewn i'r sefyllfa mwya sticky bosib yn bwysicach na'r gem yn ei chyfanrwydd. Peryg bod o a fy arwr Chabal yn mynd lawr y heol hosan yma.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: Cymru v Iwerddon - ddy desaider - jydjment dei...ayb...ayb

Postiogan Ray Diota » Gwe 20 Maw 2009 3:27 pm

Macsen a ddywedodd:Pam fod Andy Powell yn y tim, yr oll mae'n ei wneud ydi mynd a'r bel mewn i ganol yr amddiffynwyr ar amseroedd gwirion. Mae fel petai fo'n meddwl bod profi ei hun i'r tim drwy gario'r bel mewn i'r sefyllfa mwya sticky bosib yn bwysicach na'r gem yn ei chyfanrwydd. Peryg bod o a fy arwr Chabal yn mynd lawr y heol hosan yma.


cymhariaeth dda 'da chabal... chwaraewyr unonglog (onedimensional??)

oes beirniadaeth o gatland yn y wasg?? wy'n teimlo bod e di taflu'r bencampwriaeth i ffwrdd 'da rhai penderfyniade leni... ac er bo fi'n lico'r ffordd ma fe'n weindio pobol lan mewn cyfweliade, ma rhai o'r pethe ma fe'n gweud ar hyn o bryd yn mynd i edrych yn hurt os gollwn ni...
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: Cymru v Iwerddon - ddy desaider - jydjment dei...ayb...ayb

Postiogan robertsben » Gwe 20 Maw 2009 3:41 pm

oes beirniadaeth o gatland yn y wasg?? wy'n teimlo bod e di taflu'r bencampwriaeth i ffwrdd 'da rhai penderfyniade leni... ac er bo fi'n lico'r ffordd ma fe'n weindio pobol lan mewn cyfweliade, ma rhai o'r pethe ma fe'n gweud ar hyn o bryd yn mynd i edrych yn hurt os gollwn ni...


Yn union be ddiawl oedd on trio profi yn erbyn yr eidal yn rhoi'r ail dim allan, dwi ddim yn gweld nin ennill y pencampwriaeth yfory os na fydd yr hogia yn rhoi ymdrech i mewn ir gem a fod gatland yn fod yn gall a stopio neud petha gwirion, 13 o pwyntia yn ormod ella?
ew caws
Rhithffurf defnyddiwr
robertsben
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 14
Ymunwyd: Iau 15 Meh 2006 8:26 pm
Lleoliad: Ffestiniog/Aberystwyth

Re: Cymru v Iwerddon - ddy desaider - jydjment dei...ayb...ayb

Postiogan Ray Diota » Gwe 20 Maw 2009 3:56 pm

robertsben a ddywedodd:
oes beirniadaeth o gatland yn y wasg?? wy'n teimlo bod e di taflu'r bencampwriaeth i ffwrdd 'da rhai penderfyniade leni... ac er bo fi'n lico'r ffordd ma fe'n weindio pobol lan mewn cyfweliade, ma rhai o'r pethe ma fe'n gweud ar hyn o bryd yn mynd i edrych yn hurt os gollwn ni...


Yn union be ddiawl oedd on trio profi yn erbyn yr eidal yn rhoi'r ail dim allan, dwi ddim yn gweld nin ennill y pencampwriaeth yfory os na fydd yr hogia yn rhoi ymdrech i mewn ir gem a fod gatland yn fod yn gall a stopio neud petha gwirion, 13 o pwyntia yn ormod ella?


deffinet. a galle unrhyw fath o fuddugoliaeth 'di neud y tro sen i di chware tim teidi yn erbyn yr eitals... ni di dangos diffyg parch i'r chwe gwlad a rhoi pencampwriaeth ar blat i iwerddon. nonsens.
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: Cymru v Iwerddon - ddy desaider - jydjment dei...ayb...ayb

Postiogan robertsben » Gwe 20 Maw 2009 3:59 pm

i ddeud y gwir, swnim n meindio gweld iwerddon yn ennill y grand slam i ddeud y gwir, gan bo nhw heb ennill o ers degawda, a gan bo nhw di rhoi 100% y 100% bob gem.
ew caws
Rhithffurf defnyddiwr
robertsben
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 14
Ymunwyd: Iau 15 Meh 2006 8:26 pm
Lleoliad: Ffestiniog/Aberystwyth

Re: Cymru v Iwerddon - ddy desaider - jydjment dei...ayb...ayb

Postiogan Macsen » Gwe 20 Maw 2009 4:05 pm

Wel mae o wedi cyfaddef ei fod o'n anghywir nawr, druan. Digon teg os ydi o eisiau gwella cryfder mewn dyfnder Cymru, all yr un XV ddim chwarae bob gem yn y Cwpan y Byd. Dyw'r Chwe Gwlad ddim yn bwysig mwyach, ai dim ond Lievremont gath y memo?
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: Cymru v Iwerddon - ddy desaider - jydjment dei...ayb...ayb

Postiogan Macsen » Gwe 20 Maw 2009 4:44 pm

Anaf i Andy Powell - mae gobaith o hyd!
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: Cymru v Iwerddon - ddy desaider - jydjment dei...ayb...ayb

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Gwe 20 Maw 2009 6:56 pm

robertsben a ddywedodd:i ddeud y gwir, swnim n meindio gweld iwerddon yn ennill y grand slam i ddeud y gwir, gan bo nhw heb ennill o ers degawda, a gan bo nhw di rhoi 100% y 100% bob gem.


O'n i'n gwbod eich bod chi mas 'na.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Re: Cymru v Iwerddon - ddy desaider - jydjment dei...ayb...ayb

Postiogan Ray Diota » Sul 22 Maw 2009 4:40 pm

robertsben a ddywedodd:i ddeud y gwir, swnim n meindio gweld iwerddon yn ennill y grand slam i ddeud y gwir, gan bo nhw heb ennill o ers degawda, a gan bo nhw di rhoi 100% y 100% bob gem.


:rolio:
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: Cymru v Iwerddon - ddy desaider - jydjment dei...ayb...ayb

Postiogan Doctor Sanchez » Sul 22 Maw 2009 9:31 pm

Fedraim diodda tim rygbi Werddon ond llongyfarchiadau, roeddwn nhw'n haeddu hi'n fwy na ni.

Mae rhaid i Gymru ddechrau meddwl ar eu traed chydig yn fwy, a sdopio sdicio i'r un 'game plan' doed a ddelo.

Roedd Jamie Roberts a Pwal yn wych yn erbyn yr Alban, felly be nath Lloegr oedd targedu'r ddau. Ddylia'r ddau yna fod wedi off-loadio i rei eraill i drio drysu chydig ar Worsley a'r amddiffyn. Mi natho ni iwsio union yr un plan yn erbyn Ffrainc, ac mi roeddan ni'n edrych yn 'predictable' uffernol!

Nes i'm gweld gem yr Eidal felly fedraim commentio ar honna.

Ond roedd ddoe yn engraifft arall. O'n i'n sgrechian drwy'r gem i Stephen Jones roi dinc fach dros amddiffyn Iwerddon i ni fedru fynd tu cefn iddyn nhw a rhoi cyfle i Shane bach neu Marc Jones, ond mi rydan ni'n mynnu trio chwalu trwy'r dacl a nath o ddim gweithio o gwbl ddoe. Er i O'Gara gael hunllef o hanner cyntaf mi ddechreuodd o weld bod ein dau asgellwr yn dod i fyny yn y blitz bob tro a trio'r dacteg yma ar ddechra'r ail hanner a dyna arweiniodd at ddau gais Iwerddon, ac ennill y gem iddyn nhw.

Mi roedden ni ychydig yn anlwcus efo bowns y bel etc a mi allen ni fod wedi curo efo cic ola'r gem, ond ro'n i'n teimlo fod Iwerddon wedi dangos fwy o uchelgais a'u bod nhw chydig yn fwy craff a clyfar na ni, ac mi roedd y rheng ol a Paul O'Connell yn gewri. Ac er bod gan O'Driscoll wyneb swn i wrth ym modd yn rhoi slap i, mae o'n ffwc o ganolwr ac yn haeddu dechrau i'r llewod efo O'Connell yn gapten

Congrats i'r Padis :|
Not my fault. Monkey bastard hands!

WHAT!? Am I holding a crock of shit!? Tell me something. Is this hospital called "St. Crock of Shit"!?
Rhithffurf defnyddiwr
Doctor Sanchez
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 160
Ymunwyd: Llun 10 Maw 2008 1:02 pm
Lleoliad: Ysbyty ManTywyll

NôlNesaf

Dychwelyd i Chwaraeon

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 10 gwestai