Tudalen 4 o 4

Re: Cymru v Iwerddon - ddy desaider - jydjment dei...ayb...ayb

PostioPostiwyd: Maw 24 Maw 2009 4:33 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Felly beth yn union mae D'Arcy wedi'i wneud i haeddu lle yn nhim Jiffy?

Re: Cymru v Iwerddon - ddy desaider - jydjment dei...ayb...ayb

PostioPostiwyd: Maw 24 Maw 2009 4:49 pm
gan Mr Gasyth
Unrhywun arall yn amau, er gwaethaf popeth, mai Peel fydd mewnwr y Llewod?

Re: Cymru v Iwerddon - ddy desaider - jydjment dei...ayb...ayb

PostioPostiwyd: Maw 24 Maw 2009 5:01 pm
gan joni
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Felly beth yn union mae D'Arcy wedi'i wneud i haeddu lle yn nhim Jiffy?

Gath e gem itha da yn erbyn ail dim y Gweilch i Leinster 3 wthnos 'nol.

Re: Cymru v Iwerddon - ddy desaider - jydjment dei...ayb...ayb

PostioPostiwyd: Maw 24 Maw 2009 5:03 pm
gan joni
Mr Gasyth a ddywedodd:Unrhywun arall yn amau, er gwaethaf popeth, mai Peel fydd mewnwr y Llewod?

Ma da fe cystal siawns ag unrhywun, weden i.

Re: Cymru v Iwerddon - ddy desaider - jydjment dei...ayb...ayb

PostioPostiwyd: Maw 24 Maw 2009 6:41 pm
gan osian
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:
ceribethlem a ddywedodd:
osian a ddywedodd:Pwy ydi Wellies? Un o ffrindiau Nugget mashwr :rolio:
Er budd y 90% sy ddim yn gwbod y petha 'ma...

Mae'n ffrindie da gyda Melon a HLF hefyd.


Beth wyt ti'n meddwl o siawns GSE o deithio, CDE? Fe wnaeth POC wneud iddo fe edrych yn bach o TIT ddydd Sadwrn.

Wancars. Pwy ydi TIT?


a peidiwch a meiddio nghymryd i o ddifri

Re: Cymru v Iwerddon - ddy desaider - jydjment dei...ayb...ayb

PostioPostiwyd: Maw 24 Maw 2009 7:20 pm
gan Hedd Gwynfor
Cadwch at y pwnc plis (h.y. Cymru v Iwerddon yn y 6 gwlad). Os chi ishe trafod y British & Irish Lions, gwnewch e mewn man wedi'i labeli'n amlwg fel nad oes rhaid i mi dod ar draws y fath gachu trwy gamgymeriad. Ond dwi ddim yn addo peidio dod mewn i'r fath edefyn i leisio fy marn, neu gychwyn edafedd yn lladd ar yr holl gysyniad. :winc: