Dwi ddim yn meddwl bo mwy o ymladd nawr - cofio ware yn yr 80au yn erbyn mochandra fel y Hirwaun, Llwchwr, Tymbl a Phorth Tywyn - wel bron pob tim i fod yn onest. Gwarant o gael cwpwl o belts. Doedd dim cerdyn coch nol pryd hynny heb law dy fod wedi gwneud rhywbeth ffiaidd cachu fel stampo ar ben rhywyn, cnoi, gywjo neu gwneud ychydig o 'bag snatching'.
Roedd rheole hyd yn oed i'r ymladd - roedd rhai pethe jest ddim yn cael eu gwneud. Wylle bod kids dyddie 'ma'n cael eu codi heb yr egwyddorion hyn. Swno'n hurt, ond roedd rhyw faint o anrhydedd i ymladd yn lan. Colles i ddant yn ware erbyn Llandeilo pan yn 19, gan prop yn twli dwrn achos palles i ei adael i fynd digon cyflym o'r sgrym. Digon teg. Yfed gyda'n gilydd yn y clwb wedyn. Allen i byth ag yfed gyda mochyn a oedd wedi mynd i sgrabyn fy llygaid mas.