Llewod 2009

Does dim rhieni gan y reffarî

Cymedrolwr: eusebio

Rheolau’r seiat
Croeso i chi drafod unrhyw chwaraeon o beldroed neu rygbi i didliwincs! Plîs peidiwch â chreu unrhyw edefyn pêl-droed v rygbi. Mae'r math yma o edefyn yn ddiflas tu hwnt ac wedi arwain yn y gorffenol at ffraeo a checru hurt. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Llewod 2009

Postiogan Duw » Llun 29 Meh 2009 7:59 pm

Dwi ddim yn meddwl bo mwy o ymladd nawr - cofio ware yn yr 80au yn erbyn mochandra fel y Hirwaun, Llwchwr, Tymbl a Phorth Tywyn - wel bron pob tim i fod yn onest. Gwarant o gael cwpwl o belts. Doedd dim cerdyn coch nol pryd hynny heb law dy fod wedi gwneud rhywbeth ffiaidd cachu fel stampo ar ben rhywyn, cnoi, gywjo neu gwneud ychydig o 'bag snatching'.

Roedd rheole hyd yn oed i'r ymladd - roedd rhai pethe jest ddim yn cael eu gwneud. Wylle bod kids dyddie 'ma'n cael eu codi heb yr egwyddorion hyn. Swno'n hurt, ond roedd rhyw faint o anrhydedd i ymladd yn lan. Colles i ddant yn ware erbyn Llandeilo pan yn 19, gan prop yn twli dwrn achos palles i ei adael i fynd digon cyflym o'r sgrym. Digon teg. Yfed gyda'n gilydd yn y clwb wedyn. Allen i byth ag yfed gyda mochyn a oedd wedi mynd i sgrabyn fy llygaid mas.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Llewod 2009

Postiogan finch* » Gwe 03 Gor 2009 11:26 am

Mr Gasyth a ddywedodd:Ai fi sy'n dychmygu, ynteu ydi hyn yn digwydd yn fwy aml yn ddiweddar?


Yw e achos bod ffilmio chwaraeon wedi gwella, super slo-mo etc, ma'n haws gweld be sy'n mynd mlan mewn rycs? Hefyd dwi'n credu bod lot mwy o strwythur yn ardal y dacl ers i'r gem fynd yn broffesiynol (plys gwella safon dyfarnu?) yn atal cymaint o 'mess' ar y llawr, pan ma fe yn digwydd, ma'n fwy amlwg. Mae timau/officials yn gallu llygadu(?, beth yw term BBC Cymru am 'sighting' Eusebio?) chwaraewyr gyda tystiolaeth fideo sydd eto'n neud pethau'n amlycach.
Jeff Tarango - There must be two, three thousand people here!
Michael Stich - Well is it two or three?
Rhithffurf defnyddiwr
finch*
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2090
Ymunwyd: Gwe 03 Medi 2004 12:38 pm
Lleoliad: Yn cuddio

Re: Llewod 2009

Postiogan Duw » Gwe 03 Gor 2009 7:10 pm

finch* a ddywedodd:Mae timau/officials yn gallu llygadu(?, beth yw term BBC Cymru am 'sighting' Eusebio?) chwaraewyr gyda tystiolaeth fideo sydd eto'n neud pethau'n amlycach.


Dwi'n meddwl y term yw 'citing' fel 'to cite'. Efallai fy mod yn rong.

Eniwei - Llewod - bydd yn rhaid iddynt ennill Dydd Sadwrn neu weden i bo amheuaeth dros ddyfodol y brand. Sawl gem brawf wedi'i golli'n olynol??
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Nôl

Dychwelyd i Chwaraeon

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron