Llewod 2009

Does dim rhieni gan y reffarî

Cymedrolwr: eusebio

Rheolau’r seiat
Croeso i chi drafod unrhyw chwaraeon o beldroed neu rygbi i didliwincs! Plîs peidiwch â chreu unrhyw edefyn pêl-droed v rygbi. Mae'r math yma o edefyn yn ddiflas tu hwnt ac wedi arwain yn y gorffenol at ffraeo a checru hurt. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Llewod 2009

Postiogan ceribethlem » Gwe 12 Meh 2009 9:32 am

Y tim i wynebu Western Province fory:

15. Rob Kearney
14. Tommy Bowe
13. Keith Earls
12. Riki Flutey
11. Ugo Monye
10. Stephen Jones
9. Harry Ellis

1. Andrew Sheridan
2. Matthew Rees
3. Phil Vickery
4. Donncha O'Callaghan
5. Nathan Hines
6. Joe Worsley
7. Martyn Williams
8. Andy Powell.

Eilyddion: Ross Ford, Euan Murray, Simon Shaw, Tom Croft, Mike Blair, James Hook, Gordon D'Arcy.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Llewod 2009

Postiogan Cardi Bach » Gwe 12 Meh 2009 9:35 am

Wel, gyda rheng ol fel'na, gan ystyried y ffordd ma Worsley a Powell wedi bod yn chwarae ar y daith hyd yma, does dim lot o obeth gyda Martin w i fynd mewn i'r XV cynta. Cawn weld.

Cyfle arall i Donncha - dy'n nhw ddim yn credu fod AWJ yn ddigon 'abbrasive' yn ol bob tebyg.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Re: Llewod 2009

Postiogan ceribethlem » Gwe 12 Meh 2009 9:36 am

Duw a ddywedodd:Trueni - dwi'n meddwl bo McG wedi rhoi mwy na chyfle teg i Shane i brofi ei hun.

:lol: Odi cyfarwyddwr Terminator: Salvation ar daith y Llewod te?
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Llewod 2009

Postiogan ceribethlem » Gwe 12 Meh 2009 9:40 am

Cardi Bach a ddywedodd:Cyfle arall i Donncha - dy'n nhw ddim yn credu fod AWJ yn ddigon 'abbrasive' yn ol bob tebyg.


Delwedd
Cadwa bango Cardi, bydd dy hoff Ddonccha ddim yn agos at y tim prawf. Rhwng AWJ a Hines yw hi, a chyfle i Hunes i brofi ei hunan fory, llenwi lle bydd Doncha yn neud.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Llewod 2009

Postiogan Cardi Bach » Gwe 12 Meh 2009 10:12 am

Na, na, paid a nghamddeall, dim siarad o blaid Donncha ydw i yma, mond ail adrodd beth wy wedi ddarllen ydw i yn hyn o beth. Y farn gyffredin yw mai Matfield a Botha yw ail reng gorau'r byd, sydd yn bwerus, a ffyrnig.Yn hynny o beth, yn ol barn gyffredin yn y wasg, yw fod AWJ yn rhy debyg i PO'C, ac ddim yn ddigon ffyrnig a dinistriol. Nid fy marn i achos wy ddim yn deall digon am y stwff sy'n mynd mlan yn y rhan yna o'r gem. Yn fy marn i AWJ yw ail reng gore hemisffer o gogledd, am ei fod yn rheoli y lein, yn arweiniwr naturiol, a gyda sgiliau arbennig mas o'r dwylo.

Ond mae nealltwriaeth i, ac yn sicr fy niffyg profiad i (!) yn golygu mod i'n dueddol o wrando ar bobl fel Eddie Butler, Emyr Lewis ac eraill.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Re: Llewod 2009

Postiogan ceribethlem » Gwe 12 Meh 2009 6:04 pm

Ryan Jones braidd wedi cyrraedd De'r Affrig, ac mae'n mynd adre'n barod! Ar ol yr anaf i'w ben yn erbyn UDA, mae meddygon y Llewod wedi dweud ei fod yn rhy beryglus chwarae.
Beth ma hyn yn dweud am safon gofal meddygol URC?
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Llewod 2009

Postiogan Duw » Gwe 12 Meh 2009 7:39 pm

ceribethlem a ddywedodd:Ryan Jones braidd wedi cyrraedd De'r Affrig, ac mae'n mynd adre'n barod! Ar ol yr anaf i'w ben yn erbyn UDA, mae meddygon y Llewod wedi dweud ei fod yn rhy beryglus chwarae.
Beth ma hyn yn dweud am safon gofal meddygol URC?


Gwarthus
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Llewod 2009

Postiogan ceribethlem » Sad 13 Meh 2009 2:39 pm

Duw a ddywedodd:
ceribethlem a ddywedodd:Ryan Jones braidd wedi cyrraedd De'r Affrig, ac mae'n mynd adre'n barod! Ar ol yr anaf i'w ben yn erbyn UDA, mae meddygon y Llewod wedi dweud ei fod yn rhy beryglus chwarae.
Beth ma hyn yn dweud am safon gofal meddygol URC?


Gwarthus

Ondywe, bydd lot o sgwad Cymru yn colli hyder gyda nhw ar ol y penderfyniad hyn!
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Llewod 2009

Postiogan Cardi Bach » Sad 13 Meh 2009 5:23 pm

Pwt yn papur heddi yn gweud mai camddealltwrieth rhwng URC a'r Llewod odd e:

Guardian Heddi a ddywedodd:There were mixed messages here yesterday, with the Lions blaming a breakdown in communication with Wales over the decision to fly out Jones on Wednesday night without first seeing a specialist. The Welsh Rugby Union had arranged for the 28-year old to see a neurosurgeon in Cardiff this week. It was resolved to fly Jones out, with time pressing, and to assess him on arrival, though the Lions were provided with details of Jones's condition.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Re: Llewod 2009

Postiogan ceribethlem » Sad 13 Meh 2009 6:30 pm

Rhaid bod Cardi Bach a Hedd Gwynfor yn hollol Gutted ar ol heddi. Record cant y cant y Llewod yn parhau, a'r Cymry yn parhau i chwarae rhan blaenllaw yn y daith.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

NôlNesaf

Dychwelyd i Chwaraeon

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 31 gwestai