Llewod 2009

Does dim rhieni gan y reffarî

Cymedrolwr: eusebio

Rheolau’r seiat
Croeso i chi drafod unrhyw chwaraeon o beldroed neu rygbi i didliwincs! Plîs peidiwch â chreu unrhyw edefyn pêl-droed v rygbi. Mae'r math yma o edefyn yn ddiflas tu hwnt ac wedi arwain yn y gorffenol at ffraeo a checru hurt. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Llewod 2009

Postiogan Hedd Gwynfor » Iau 18 Meh 2009 1:42 pm

Stori llawn ar Golwg360: http://golwg360.com/UI/News/ViewNewsDet ... domainID=8

Golwg360 a ddywedodd:Bydd Lee Byrne, Jamie Roberts, Stephen Jones, a Mike Phillips ymhlith y cefnwyr, gydag Alun Wyn-Jones a Gethin Jenkins yn dechrau’r ymysg y blaenwyr. Mae pum Gwyddel a phedwar Sais yn y XV... Mae’r bachwr Matthew Rees a’r prop Adam Jones wedi eu cynnwys ar y fainc. Bydd blaenasgellwr y Gleision, Martyn Williams hefyd ar y fainc...


Dim byd ar BBC Cymru eto.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Llewod 2009

Postiogan joni » Iau 18 Meh 2009 1:47 pm

Hedd Gwynfor a ddywedodd:Dim byd ar BBC Cymru eto.

Nagoes?
soon, my pretties...soon...
alcoflog
Rhithffurf defnyddiwr
joni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3983
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 5:32 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Llewod 2009

Postiogan Hedd Gwynfor » Iau 18 Meh 2009 1:58 pm

:wps: Rhaid cyfaddef, dim ond ar yr hafan wnes i edrych - http://www.bbc.co.uk/cymru/ - a doedd dim byd yn yr adran uchafbwyntiau straeon chwaraeon yno...

bbc.jpg
bbc.jpg (14.47 KiB) Dangoswyd 4028 o weithiau
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Llewod 2009

Postiogan Macsen » Sad 20 Meh 2009 1:46 pm

Macsen a ddywedodd:Waaa pam fod Vickery yn y tim? Mae o yn debygol o gael sin bin nei roi penalties i ffwrdd mewn gem fydd yn dod lawr i un neu ddau cic os nad yw hi'n hamrad.

Grrrr...
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: Llewod 2009

Postiogan aled g job » Sad 20 Meh 2009 6:55 pm

Och a gwae mae'r Llewod wedi colli eu gem gyntaf..... Does ond gobeithio y bydd y clochdar ymffrostgar gan Eleri Sion a'i thebyg am Y Llewod ar Radio Cymru a S4c ychydig yn llai amlwg dros y dyddiau nesaf!

Rwan, yn bersonol, dwi am weld y Boks yn curo'r dair gem oherwydd yn anffodus mae yna ormod o'r hen ysbryd ymerodrol Prydeinig ar waith hefo'r Llewod ac angen sbaddu Prydeinod sydd nid ei swcro yn fy marn i. Wedi dweud hynny, mi wn i am Gymry pybyr sydd yn dweud eu bod yn cefnogi'r Llewod y tro hwn oherwydd bod cymaint o fois Cymru yn chwarae iddyn nhw ac mai cefnogi'r bois y mae nhw yn anad un peth arall. Dwi'n gallu parchu a derbyn y safbwynt hwnnw er nad ydi o'n safbwynt y medra'i rannu fy hun. Cytuno i anghytuno felly ar y pwnc hwn.

Ond yn fwy cyffredinol, efallai y byddai'n haws cytuno ar hyn o beth o leiaf: bod y sylw a roddir i'r Llewod ar Radio Cymru a S4C yn hollol ormodol ac eithafol. Bron nad oes modd mynd hanner awr ar Radio Cymru heb ryw son neu'i gilydd am y Llewod, ac mi fyddwn i'n dadlau bod y "coverage" y mae'r Cymro Cymraeg cyffredin sy'n gwrando ar Radio Cymru a S4C yn gorfod ei oddef yn llawer iawn mwy nag y byddai'r Sais cyffredin yn dod ar ei draws wrth ddilyn y cyfryngau yn Lloegr. Gyda'u polisi Llewod-addolgar, mae'r cyfryngau Cymraeg yn gwneud cam mawr a'r miloedd o Gymry sydd un ai'n gwbl wrthwynebus i fodolaeth y Llewod neu'n gwbl ddi-hid am yr holl beth.

Unwaith yn rhagor, mae'n dangos yr angen am Radio Cymru arall- ar donfedd arall- er mwyn cydnabod y ffaith bod gan y gynulleidfa Gymraeg ddiddordebau a blaenoriaethau gwahanol! Tydi pawb ddim yn gwirioni yr un fath chwedl TH!
Aled G Job
aled g job
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 102
Ymunwyd: Llun 26 Medi 2005 8:33 am

Re: Llewod 2009

Postiogan Cardi Bach » Maw 23 Meh 2009 6:59 pm

Druan a Shane - sdim byd yn mynd o'i blaid e ar y daith hyn.

Am gem wael - gan ystyried fod tim cyntaf y Llewod heb gael gem dda dydd Sadwrn, byddai rhywun yn meddwl y byddai'r tim heno yn chwarae o'u crwynau ermwyn ceisio cipio lle yn y tim cyntaf y sadwrn yma, ond doedd neb wedi disgleirio. Fi'n derbyn fod y tywydd yn ddifrifol wael hefyd, ond gallau'r pac wedi gwneud yn well.

Fi ddim yn dilyn y rhesymeg y tu ol i gicio'r bel i dir y byw pan fo'r tri ol yn eu lle yn barod i wrth ymosod.

Ar nodyn arall, fe soniodd sylwebywr heno fod y stadiwm bron yn llawn - 39,800, sydd 200 yn brin o'r mwyafrif, ac ro'n nhw'n hynod falch o hynny, ond o'r hyn oeddwn i'n weld ar y teledu odd y lle yn hanner gwag!
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Re: Llewod 2009

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Maw 23 Meh 2009 11:28 pm

Cardi Bach a ddywedodd:Druan a Shane - sdim byd yn mynd o'i blaid e ar y daith hyn.

Am gem wael - gan ystyried fod tim cyntaf y Llewod heb gael gem dda dydd Sadwrn, byddai rhywun yn meddwl y byddai'r tim heno yn chwarae o'u crwynau ermwyn ceisio cipio lle yn y tim cyntaf y sadwrn yma, ond doedd neb wedi disgleirio. Fi'n derbyn fod y tywydd yn ddifrifol wael hefyd, ond gallau'r pac wedi gwneud yn well.

Fi ddim yn dilyn y rhesymeg y tu ol i gicio'r bel i dir y byw pan fo'r tri ol yn eu lle yn barod i wrth ymosod.

Ar nodyn arall, fe soniodd sylwebywr heno fod y stadiwm bron yn llawn - 39,800, sydd 200 yn brin o'r mwyafrif, ac ro'n nhw'n hynod falch o hynny, ond o'r hyn oeddwn i'n weld ar y teledu odd y lle yn hanner gwag!


Fe wnaeth e'n ddigon da heno i ennill ei le yn fy marn i. Perfformiad safonol, yn ystyr cywir y gair.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Re: Llewod 2009

Postiogan joni » Mer 24 Meh 2009 8:22 am

Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Fe wnaeth e'n ddigon da heno i ennill ei le yn fy marn i. Perfformiad safonol, yn ystyr cywir y gair.

Sai'n credu alle fe di neud lot mwy. Yn enwedig gan fod Darcy yn gwrthod paso'r bel mas iddo fe am rhan helaeth o'r gem.
soon, my pretties...soon...
alcoflog
Rhithffurf defnyddiwr
joni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3983
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 5:32 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Llewod 2009

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Mer 24 Meh 2009 8:41 am

joni a ddywedodd:
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Fe wnaeth e'n ddigon da heno i ennill ei le yn fy marn i. Perfformiad safonol, yn ystyr cywir y gair.

Sai'n credu alle fe di neud lot mwy. Yn enwedig gan fod Darcy yn gwrthod paso'r bel mas iddo fe am rhan helaeth o'r gem.


Roedd O'Rosie, D'Arse a Maori'n chwarae iddyn nhw'u hunain. Fe chwaraeodd Shane a Martyn i'r tîm.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Re: Llewod 2009

Postiogan Mr Gasyth » Mer 24 Meh 2009 11:23 am

unrhywun yn gwybod pryd mae tim yr ail brawf yn cael ei gyhoeddi?
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

NôlNesaf

Dychwelyd i Chwaraeon

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 11 gwestai

cron