Llewod 2009

Does dim rhieni gan y reffarî

Cymedrolwr: eusebio

Rheolau’r seiat
Croeso i chi drafod unrhyw chwaraeon o beldroed neu rygbi i didliwincs! Plîs peidiwch â chreu unrhyw edefyn pêl-droed v rygbi. Mae'r math yma o edefyn yn ddiflas tu hwnt ac wedi arwain yn y gorffenol at ffraeo a checru hurt. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Llewod 2009

Postiogan Hedd Gwynfor » Sad 13 Meh 2009 7:04 pm

ceribethlem a ddywedodd:Rhaid bod Cardi Bach a Hedd Gwynfor yn hollol Gutted ar ol heddi. Record cant y cant y Llewod yn parhau, a'r Cymry yn parhau i chwarae rhan blaenllaw yn y daith.


Mae'r daith yn amherthnasol i fi.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Llewod 2009

Postiogan Cardi Bach » Sul 14 Meh 2009 2:34 am

Cardi Bach a ddywedodd:
ceribethlem a ddywedodd:Rhaid bod Cardi Bach a Hedd Gwynfor yn hollol Gutted ar ol heddi. Record cant y cant y Llewod yn parhau, a'r Cymry yn parhau i chwarae rhan blaenllaw yn y daith.

:winc:
iei cymru whw! zipadidwda zipadidie mai o mai wot a wyndyrffwl dei!

na.

os nagyn nhw'n chwnarae rhan blaenllaw yn y daith ma nhw'n chwarae rhan eilradd, a beth yw'r point o gystadlu fel ailran? ddim yn deall. sori, fi wedi cal cwpwl o beints a ddim cweit o gwmpas y mhethe.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Re: Llewod 2009

Postiogan Mr Gasyth » Llun 15 Meh 2009 9:05 am

ceribethlem a ddywedodd:Rhaid bod Cardi Bach a Hedd Gwynfor yn hollol Gutted ar ol heddi. Record cant y cant y Llewod yn parhau, a'r Cymry yn parhau i chwarae rhan blaenllaw yn y daith.


Paid bod yn wirion Ceri, does dim Cymry ar y daith, dim ond Prydeinwyr Sais-garol imperialaidd sy'n canu God Save the Queen yn y gawod bob bore :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Re: Llewod 2009

Postiogan ceribethlem » Llun 15 Meh 2009 11:02 am

Hedd Gwynfor a ddywedodd:
ceribethlem a ddywedodd:Rhaid bod Cardi Bach a Hedd Gwynfor yn hollol Gutted ar ol heddi. Record cant y cant y Llewod yn parhau, a'r Cymry yn parhau i chwarae rhan blaenllaw yn y daith.


Mae'r daith yn amherthnasol i fi.

Wel, dyw hwnna ddim yn wir ydyw e'. Mae'r peth wedi dy gythruddo digon i stropan am yr holl beth yn yr edefyn yma, gan awgrymu fod pawb sy'n cefnogi'r Llewod yn Brits bach, ac yn son am brynu crys De'r Affrig i wisgo yn ystod y profion. Bydden i'n tybio fod hwnna'n awgrymu ei fod yn berthnasol iawn i ti.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Llewod 2009

Postiogan Cardi Bach » Llun 15 Meh 2009 11:31 am

Edrych fel mai Bowe a Monye fydd yr asgellwyr.

Wedi darllen rhai yn awgrymu fod PO'C wedi bod yn ddewis anghywir fel capten am fod AWJ a Hines wedi bod gymaint yn well nag e ar y daith.

Beth am Gethin? Ma'r wasg Seisng yn mynd mlan a mlan am Sheridan! Ma Gethin yn llawer gwell chwaraewr nag e!

(gyda llaw, wy ddim yn cofio sgwennu'r nege 'an am 3.30 fore sul :wps: )
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Re: Llewod 2009

Postiogan joni » Llun 15 Meh 2009 11:54 am

Tîm ar gyfer y gem yn erbyn Southern Kings dydd Mawrth.
K Earls, S Williams, R Flutey , G D'Arcy , L Fitzgerald , J Hook , M Blair;
A Sheridan, R Ford, E Murray, S Shaw, D O'Callaghan (capt), N Hines, J Worsley, A Powell.

Sybs: M Rees, A Jones, T Croft, D Wallace, H Ellis, R O'Gara, U Monye.

Awgrymu taw Alun-Wyn Jones (nodyn i Stuart Barnes: nid Wyn-Jones yw ei gyfenw) fydd yn yr ail reng gyda O'Connell ar gyfer y prawf cynta.
soon, my pretties...soon...
alcoflog
Rhithffurf defnyddiwr
joni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3983
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 5:32 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Llewod 2009

Postiogan ceribethlem » Llun 15 Meh 2009 12:38 pm

joni a ddywedodd:Tîm ar gyfer y gem yn erbyn Southern Kings dydd Mawrth.
K Earls, S Williams, R Flutey , G D'Arcy , L Fitzgerald , J Hook , M Blair;
A Sheridan, R Ford, E Murray, S Shaw, D O'Callaghan (capt), N Hines, J Worsley, A Powell.

Sybs: M Rees, A Jones, T Croft, D Wallace, H Ellis, R O'Gara, U Monye.

Awgrymu taw Alun-Wyn Jones (nodyn i Stuart Barnes: nid Wyn-Jones yw ei gyfenw) fydd yn yr ail reng gyda O'Connell ar gyfer y prawf cynta.


Ymddengys mai'r tim ar gyfer y prawf cyntaf bydd:
15: Byrne
14: Bowe
13: BOD
12: Roberts
11: Monye
10: Jones
9: Phillips

1: Gethin
2: Mears
3: Vickery
4: AWJ
5: POC
6:
8: Heaslip
7:

6 a 7 yw'r rhai mwyaf anodd i ddarogan, naill ai Croft a Wallace, neu Wallace a Williams yn fy marn i.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Llewod 2009

Postiogan Cardi Bach » Llun 15 Meh 2009 12:50 pm

ceribethlem a ddywedodd:
6 a 7 yw'r rhai mwyaf anodd i ddarogan, naill ai Croft a Wallace, neu Wallace a Williams yn fy marn i.


Licen i weld Williams yn hunan, ond wy'n ame mai Croft a wallace fydd hi.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Re: Llewod 2009

Postiogan ceribethlem » Llun 15 Meh 2009 1:08 pm

Cardi Bach a ddywedodd:
ceribethlem a ddywedodd:
6 a 7 yw'r rhai mwyaf anodd i ddarogan, naill ai Croft a Wallace, neu Wallace a Williams yn fy marn i.


Licen i weld Williams yn hunan, ond wy'n ame mai Croft a wallace fydd hi.

Croft yn fachan cyflym iawn, felly posib mai dod o'r fainc yn yr ugain olaf bydd y cynllyn.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Llewod 2009

Postiogan Hedd Gwynfor » Llun 15 Meh 2009 2:52 pm

ceribethlem a ddywedodd:
Hedd Gwynfor a ddywedodd:
ceribethlem a ddywedodd:Rhaid bod Cardi Bach a Hedd Gwynfor yn hollol Gutted ar ol heddi. Record cant y cant y Llewod yn parhau, a'r Cymry yn parhau i chwarae rhan blaenllaw yn y daith.


Mae'r daith yn amherthnasol i fi.

Wel, dyw hwnna ddim yn wir ydyw e'. Mae'r peth wedi dy gythruddo digon i stropan am yr holl beth yn yr edefyn yma, gan awgrymu fod pawb sy'n cefnogi'r Llewod yn Brits bach, ac yn son am brynu crys De'r Affrig i wisgo yn ystod y profion. Bydden i'n tybio fod hwnna'n awgrymu ei fod yn berthnasol iawn i ti.


Ti'n gallu peidio cymysgu rhwng un edefyn a'r llall plis? Mae'n gwneud pethe'n ddiflas iawn i bawb arall. Holl bwrpas yr edefyn yma yw rhoi cyfle i'r holl Brits bach o Gymru, sy'n hoffi chwifio Jac yr undeb, i drafod materion yn ymwneud á'r tím :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

NôlNesaf

Dychwelyd i Chwaraeon

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 29 gwestai