Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Beth mae Worsley wedi neud i haeddu'i le felly? Ryan sydd wedi bod yn neud gwaith caib a rhaw Powell, ddyn!
Di hynna ddim yn egluro pan mae o wedi bod mor wael i'r Gweilch nadi.
Sa chdi'n mynd ar form flwyddyn dwytha, sa fo wedi bod yn gapten yn y marn i. Mae na rywbeth wedi digwydd iddo fo, a dydi o jesd ddim yr un chwaraewr ag oedd o. Dwi'n cofio pan ddoth o mlaen i chwarae i'r llewod yn yr ail brawf yn 2005(dwi'n meddwl) a dechrau rhedeg at y duon, oedd na 3 neu bedwar ohonyn nhw yn hongian oddi arno fo. Y fo oedd y chwaraewr gorau ar y daith heb os nac oni bai.
Oedd o'n dda iawn flwyddyn dwytha, ddim cystal ag oedd o cyn yr anaf i'w ysgwydd ond dal yr wythwr gorau ym mhrydain
Dwi di bod yn sbio ar ei berfformiadau fo'n ddiweddar, mae o'n derbyn y bel yn sefyll bron, mae o'n shyfflo'i draed chydig ac yn cerdded fewn i'r 'contact', dydi o ddim yn croesi'r llinell fantais fel oedd o. Dwim yn gweld dim angerdd gan y boi, odd o fatha llipryn yn erbyn Munster (ymysg eraill!)
Fo fethodd y dacl ar Harinordiquay am gais cynta Ffrainc, honna gostiodd y gem i ni'n diwedd. Sa ni di curo honna sai di bod yn grand slam diceidar, ella fysa ni wedi curo Werddon, a sa fo'n garantid ar yr awyren mwy na thebyg fel y capten ar ol curo O'Connell a O'Driscoll
Marjins bach dwi'n gwbod, ond fel na mae rygbi dyddiau yma.
Fysa chdi ar y funud yn rhoi Ryan o flaen Ferris, Heaslip, Wallace neu hyd yn oed Quinlan, swn i ddim a dyna pam dio ddim yn mynd.
Dwim yn gwbod am Powell. Dwi ddim yn gweld o'n dechrau yn y profion, ond dwi yn weld o yn dod odd ar y fainc ar ol awr i ddechrau gyrru at y Saffas pan mae nhw'n dechrau blino, impact player fel mae o wedi bod i'r Gleision ers i Rush gael ei le yn ol yn y tim
Dydi Worsley ddim yn haeddu mynd chwaith, ond mae o'n mynd i chwarae yr un gameplan a Lloegr sef sdopio rhywun rhag chwarae, boed o'n Spies, Burger, Butch etc
Not my fault. Monkey bastard hands!
WHAT!? Am I holding a crock of shit!? Tell me something. Is this hospital called "St. Crock of Shit"!?