gan Aberblue » Sad 28 Maw 2009 11:12 pm
Gêm ddigon tila unwaith eto. Roeddwn i'n ei chael hi'n anodd deall pam wnaeth Toshack ddefnyddio Earnshaw fel eilydd, pan oedd siap y tîm yn hollol anaddas i'w ddull ef o chwarae. Hefyd, newid Fletcher a Robinson - tweedledum & tweedledee - pam?
Fe wrandewais ar gyfweliad Toshack ar y radio, a'r hyn wnaeth achosi i'm calon suddo oedd y geiriau "I just signed a new contract last week". Da ni'n glwm i'r twpsyn boldew am dyn a wyr pa hyd! Doedd dim brwdfrydedd yn ei lais o gwbwl, roedd yn derbyn nad oes gobaith i ni fynd i Dde Affrica.
Da iawn, peneithiaid yr FAW. Unwaith eto, rheolwr anaddas yn cael estyniad i'w gytundeb. Tybed sut fudd paul Abandonato yn portreadu hyn fel prawf o lwyddiant Cymru o dan Toshack?