Cymru v Ffindir

Does dim rhieni gan y reffarî

Cymedrolwr: eusebio

Rheolau’r seiat
Croeso i chi drafod unrhyw chwaraeon o beldroed neu rygbi i didliwincs! Plîs peidiwch â chreu unrhyw edefyn pêl-droed v rygbi. Mae'r math yma o edefyn yn ddiflas tu hwnt ac wedi arwain yn y gorffenol at ffraeo a checru hurt. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Cymru v Ffindir

Postiogan joni » Iau 26 Maw 2009 9:31 am

Gem hynod bwysig dydd sadwrn. Ma'n debyg y bydd Bellamy yn ffit. Jyst gobeithio bydd Collins yna i rhoi rhywfaint o gadernyd i'r amddiffyn. "Biggest game in years" medde Earnshaw - c'mon Cymru!
Cymru i ennill 2-1.

Tim fi ddachre...

Hennessey
Williams - Collins - Nyatanga
Gunter Bale
Fletcher
Davies Koumas Ledley
Bellamy

Braid yn harsh ar David Edwards sydd wedi bod yn dda yn y gemau dwetha, ond fel hyn fi'n gweld hi ar hyn o bryd.
soon, my pretties...soon...
alcoflog
Rhithffurf defnyddiwr
joni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3983
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 5:32 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Cymru v Ffindir

Postiogan Ger27 » Iau 26 Maw 2009 10:03 am

Dyna dwi'n disgwyl i'r tim fod hefyd. Diolch byth fod Collins a Bellamy yn iawn i chwarae.

15,000 o docynnau wedi eu gwerthu. Rybish. Dwi'm yn meddwl bod bobl yn sylwi pa mor rhesymol ydi'r prisiau. Does dim dwy waith bod y chwaraewyr yn gweld hi'n anodd chwarae mewn stadiwm gwag - mae Gunter, Bale a Bellamy wedi crybwyll y peth wythnos yma.
Rhithffurf defnyddiwr
Ger27
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 343
Ymunwyd: Maw 30 Mai 2006 3:01 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Cymru v Ffindir

Postiogan Hedd Gwynfor » Iau 26 Maw 2009 10:09 am

Ger27 a ddywedodd:Dyna dwi'n disgwyl i'r tim fod hefyd. Diolch byth fod Collins a Bellamy yn iawn i chwarae.

15,000 o docynnau wedi eu gwerthu. Rybish. Dwi'm yn meddwl bod bobl yn sylwi pa mor rhesymol ydi'r prisiau. Does dim dwy waith bod y chwaraewyr yn gweld hi'n anodd chwarae mewn stadiwm gwag - mae Gunter, Bale a Bellamy wedi crybwyll y peth wythnos yma.


Ond hefyd, mae'r FAW yn rybish am hyrwyddo gemau. Dwi heb weld hysbyseb am y gem yn unman. Pam ddim cysylltu gyda holl ysgolion Cymru gyda chynigion dau docyn am bris un i bobl sy'n prynu tocynnau trwy'r ysgol? Mae llwyth o bethe galle nhw wneud!
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Cymru v Ffindir

Postiogan joni » Iau 26 Maw 2009 10:58 am

Hedd Gwynfor a ddywedodd:Pam ddim cysylltu gyda holl ysgolion Cymru gyda chynigion dau docyn am bris un i bobl sy'n prynu tocynnau trwy'r ysgol?

Dim ond £5 yw e i blant ta beth! Ond dwi yn cytuno 'da ti bod diffyg hyrwyddo di bod.
Dwi'n gweld sefyllfa tebyg i'r gem yn erbyn Azerbaijan (?) lle bydd pobl tu allan y stadiwm yn ciwio am docynnau tra bo'r gem wedi dachre y tu mewn. Os ydych chi am brynu tocyn ar y diwrnod - cyrhaeddwch yn gynnar!
soon, my pretties...soon...
alcoflog
Rhithffurf defnyddiwr
joni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3983
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 5:32 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Cymru v Ffindir

Postiogan Hedd Gwynfor » Iau 26 Maw 2009 11:33 am

joni a ddywedodd:
Hedd Gwynfor a ddywedodd:Pam ddim cysylltu gyda holl ysgolion Cymru gyda chynigion dau docyn am bris un i bobl sy'n prynu tocynnau trwy'r ysgol?

Dim ond £5 yw e i blant ta beth! Ond dwi yn cytuno 'da ti bod diffyg hyrwyddo di bod.
Dwi'n gweld sefyllfa tebyg i'r gem yn erbyn Azerbaijan (?) lle bydd pobl tu allan y stadiwm yn ciwio am docynnau tra bo'r gem wedi dachre y tu mewn. Os ydych chi am brynu tocyn ar y diwrnod - cyrhaeddwch yn gynnar!


Ie ti'n iawn, mae'r tocynnau yn uffernol o rhesymol, ond dyw'r FAW ddim wedi hyrwyddo'r ffaith yma ddigon.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Cymru v Ffindir

Postiogan Josgin » Iau 26 Maw 2009 10:27 pm

Tydi pris y tocyn ond yn ran bach o'r gost i fynd i Caerdydd am y diwrnod. Os ydach chi'n dod o'r Gogledd am benwythnos, tydi o ddim llawer o ots os ydi'r tocyn yn £10 neu £40. Mae angen chwarae'r gemau ar gaeau bach , llawn , lle mae yna fwy o awyrgylch a mwy o 'ddiawl' . Mae mwy . Tydi Stadiwm y Mileniwm yn ddim gwell na'r 'creche' mwyaf yn y byd. Fama mae dad yn mynd a'r plant tra mae mam yn gwario'i gyflog o yn y siopau .
Josgin
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 360
Ymunwyd: Sad 17 Chw 2007 11:21 pm
Lleoliad: Gogledd pell

Re: Cymru v Ffindir

Postiogan Lletwad Manaw » Gwe 27 Maw 2009 12:23 am

Clywch clywch Josgin.....llygad dy le!!
Lletwad Manaw
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 105
Ymunwyd: Sad 30 Hyd 2004 4:56 pm

Re: Cymru v Ffindir

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Gwe 27 Maw 2009 9:45 am

Yr hyn sydd angen ei wneud yw cael pedwar chwaraewr ychwanegol a newid siâp y bêl.

Dim ond syniad.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Re: Cymru v Ffindir

Postiogan Ceiliog65 » Gwe 27 Maw 2009 10:03 am

Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Yr hyn sydd angen ei wneud yw cael pedwar chwaraewr ychwanegol a newid siâp y bêl.


Ti'n meddwl byddai gêm rygbi'r gynghrair rhwng Cymru a'r Ffindir yn cael torf well? :?
(gan fod ychwanegu 4 at y 22 yn golygu 13 ar bob tîm :lol: )
Ceiliog65
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 7
Ymunwyd: Gwe 27 Maw 2009 9:57 am

Re: Cymru v Ffindir

Postiogan Hedd Gwynfor » Gwe 27 Maw 2009 10:21 am

Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Yr hyn sydd angen ei wneud yw cael pedwar chwaraewr ychwanegol a newid siâp y bêl.

Dim ond syniad.


A gwahodd y Prins of Wels, rhoi tri phluen tywysog o'r Almaen ar y crys, ac efallai ychwanegu'r gair 'British' neu 'Lions' o bosib at enw'r tîm 'WALES GB v FINLAND'? Dwi'n siwr byddai'r ffans rygbi yn tyrru i wylio wedyn! :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Nesaf

Dychwelyd i Chwaraeon

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron