Cymru v Ffindir

Does dim rhieni gan y reffarî

Cymedrolwr: eusebio

Rheolau’r seiat
Croeso i chi drafod unrhyw chwaraeon o beldroed neu rygbi i didliwincs! Plîs peidiwch â chreu unrhyw edefyn pêl-droed v rygbi. Mae'r math yma o edefyn yn ddiflas tu hwnt ac wedi arwain yn y gorffenol at ffraeo a checru hurt. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Cymru v Ffindir

Postiogan Josgin » Sul 29 Maw 2009 1:11 pm

Wedi anobeithio go iawn ar ol bod yn y gem ddoe. Tydi'r chwaraewyr ifanc yma ddim cystal ac yr oedd pawb yn gobeithio. Ddoe, 'roedd o leiaf tri yn gwasgu i ochr chwith y cae i wneud gwaith un dyn, a neb yn fodlon ymosod ar flwch chwech y Ffindir. Yr oedd chwarae 4-5-1 yn drychineb, ac yr oedd sticio at hynny am dros awr yn anhygoel. Mae Bellamy wedi dangos sut grinc ydi o mewn gwirionedd unwaith eto. Petai'n gallu siarad gyda tomen o goliau tyngedfenol rhyngwladol, popeth yn iawn, ond arbenigwr mewn plannu nhw yn y gemau bach yw Craig .
O safbwynt Cymru,mae'n well i'n hogia fod yn chwarae 90 munud yn y bencampwriaeth na eistedd ar y mainc yn yr uwch gynghrair . Yn anffodus, o safbwynt hwythau , mae'r gyflog am wneud dim yn well.
Mi fuasai gennyf fwy o gydymdeimlad gyda'r tim petaent yn trio canu'r anthem, ond mae hynny y tu hwnt i'r trwch ohonynt . Ai i ddim i'r stadiwm dydd Mercher - job mynd o gwaith yn ystod yr wythnos, a gorfod gweithio dydd Iau .Yn anffodus, tydi o ddim ar y teledu . Rhywun yn gallu awgrymu linc ?
Josgin
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 360
Ymunwyd: Sad 17 Chw 2007 11:21 pm
Lleoliad: Gogledd pell

Re: Cymru v Ffindir

Postiogan Ray Diota » Sul 29 Maw 2009 3:28 pm

Aberblue a ddywedodd:Gêm ddigon tila unwaith eto. Roeddwn i'n ei chael hi'n anodd deall pam wnaeth Toshack ddefnyddio Earnshaw fel eilydd, pan oedd siap y tîm yn hollol anaddas i'w ddull ef o chwarae. Hefyd, newid Fletcher a Robinson - tweedledum & tweedledee - pam?

Fe wrandewais ar gyfweliad Toshack ar y radio, a'r hyn wnaeth achosi i'm calon suddo oedd y geiriau "I just signed a new contract last week". Da ni'n glwm i'r twpsyn boldew am dyn a wyr pa hyd! Doedd dim brwdfrydedd yn ei lais o gwbwl, roedd yn derbyn nad oes gobaith i ni fynd i Dde Affrica.

Da iawn, peneithiaid yr FAW. Unwaith eto, rheolwr anaddas yn cael estyniad i'w gytundeb. Tybed sut fudd paul Abandonato yn portreadu hyn fel prawf o lwyddiant Cymru o dan Toshack?


pwy ti'n awgrymu de, ffaro? jose mourinho??

odd hwn yn gem ddiflas ofnadw, ond y gwir yw bo ni mewn twll - dyw fletcher na robinson ddim digon da, ond pwy arall sy gal? owain tudur jones??? ffacinhel.

pawb yn gweud y dylse ched di dechre... ond dyw e ddim rili'n first teamer yn city nadi?

Wrth gwrs bo tosh yn derbyn nad oes gobeth mynd i SA - be ti moyn iddo fe weud??

Wedi gweud 'ny, dwi di cal llond bol o'r perfformiade diflas ma... a dwi rili, rili moyn gweld ni'n chware 442 rhwbryd!!!
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: Cymru v Ffindir

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Llun 30 Maw 2009 9:24 am

Dai dom da a ddywedodd:
Macsen a ddywedodd:
Dai dom da a ddywedodd:A ma RHAID symud or fuckin egg chasing stadiwm ma.

Paid beio'r egg chasers bod cefnogwyr pel droed Cymru methu llenwi'r stadiwm!


Dim y bwriad yw llenwi'r stadiwm beth bynnag. Ma pawb yn gwbod mai crowds llai sy'n mynd i'r pel droed so pam cynnal y gemau yn yr egg cup 'na bob tro?


Odi FAW wedi bod yn talu'u rhent i'r 'egg chasers' yn ddiweddar?
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Re: Cymru v Ffindir

Postiogan Sleepflower » Llun 30 Maw 2009 12:23 pm

Macsen a ddywedodd:Paid beio'r egg chasers bod cefnogwyr pel droed Cymru methu llenwi'r stadiwm!

Sa'i ishe ymateb i'ch hymdrechion i herwgipio'r drafodaeth yma er mwyn cychwyn trafodaeth plentynaidd pêldroed v rygbi. Fi'n ffan rygbi 'fyd, ac yn gwylio Cymru yn stadiwm yn selog.

Macsen a ddywedodd:Dwi'n cofio'r stadiwm yn llawn yn nyddiau Mark Hughes, felly mae'n amlwg bod na ddigon o ffans pe-droed allan fan 'na i lenwi'r stadiwm. Jesd yn anffodus mae fairweather fans ydi 90% ohonyn nhw


O fod yn ffan rygbi, fi'n gweld fod 90% o'r sawl sy'n mynychu stadiwm y mileniwm heb ddiddordeb mewn rygbi. Ma nhw yng Nghaerdydd er mwyn meddwi a chael rhyw - mor syml â 'ny.


Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Odi FAW wedi bod yn talu'u rhent i'r 'egg chasers' yn ddiweddar?


Rhent? Am beth? Am fod UN lle bwyd ar agor yn yr holl stadiwm? Am fod y tannoy wedi chware Oasis, Travis, wedyn yr un gân Oasis dros hanner amser? (erm, beth am Manics, 'Phonics ayb?). Y gwir yw dyw Stadiwm y Mileniwm ddim ishe ffans pêldroed Cymru yao, ac, a dweud y gwir, sa'i ishe bod 'na chwaith.

Os nad ydych chi'n lico pêldroed, pam hyd yn oed darllen pwnc sy'n ei drafod, heb sôn am gyfrannu?
Rhithffurf defnyddiwr
Sleepflower
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1442
Ymunwyd: Iau 20 Tach 2003 6:23 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Cymru v Ffindir

Postiogan Mr Gasyth » Llun 30 Maw 2009 12:39 pm

Rhent? Am beth? Am fod UN lle bwyd ar agor yn yr holl stadiwm?


Yup, roedd hyn yn warthus. Roedd rhaid cerdded bellter i ganfod un oedd ar agor a wedyn chanfod fod 22,000 o bobl erill yn y ciw o'ch blaen.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Re: Cymru v Ffindir

Postiogan Doctor Sanchez » Llun 30 Maw 2009 12:41 pm

Madrwyddygryf a ddywedodd:Dyma un o'r ffans yn y gem, roedd fo a'i met wedi syrthio i gysgu gydol hanner amser. Llaim beio fo chwaith. :x

Delwedd


Meic Pierce myn cont i!




Y broblem ar y funud ydi nad ydy digon o'n chwaraewyr ifanc ni yn cael gem i'w clybiau

Gunther a Bale yn Spurs, Ramsay yn Arsenal, Ched yn Man Shitty etc

Mae Bellamy a Collins yn ffwcd bob munud a methu cael run iawn heb frifo eto, a mae Collison allan ar hyn o bryd hefyd

Mae gynnon ni ar bapur y tim gora ers methu cwaliffeio i Ewro 2004, ond mi gymrith amser a ma'r bois ma dal yn ifanc

Dwim yn gweld y pwynt o gael rheolwr newydd ar y funud, mae Toshack yn reolwr da, mai record clybiau o yn profi hynna. Ond mae rhaid i rywun ddeutho fo am sdopio chwarae'r ffwcin 5-3-2 ma rownd ril. Hynny a assassinatio Carl Robinson cyn iddo gael chians i chwarae i Gymru eto
Not my fault. Monkey bastard hands!

WHAT!? Am I holding a crock of shit!? Tell me something. Is this hospital called "St. Crock of Shit"!?
Rhithffurf defnyddiwr
Doctor Sanchez
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 160
Ymunwyd: Llun 10 Maw 2008 1:02 pm
Lleoliad: Ysbyty ManTywyll

Re: Cymru v Ffindir

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Llun 30 Maw 2009 12:46 pm

Sleepflower - cer nôl a darllen 'to. Pwy ddechreuodd y digs bach plentynaidd, lled-idiotig am "egg chasers"?

O aye, ac mae'r rhent am y ffaith bod y gêm 'mlaen yn y stadiwm. Ti'n gwbod, y patshyn mawr 'na o wyrdd yn y canol. Rhent mae'r FAW yn aml yn anghofio'i roi i berchnogion y stadiwm.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Re: Cymru v Ffindir

Postiogan joni » Llun 30 Maw 2009 1:10 pm

Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Odi FAW wedi bod yn talu'u rhent i'r 'egg chasers' yn ddiweddar?

Sdim angen neud nawr bod David Collins ar y board of directors!
soon, my pretties...soon...
alcoflog
Rhithffurf defnyddiwr
joni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3983
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 5:32 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Cymru v Ffindir

Postiogan Dai dom da » Llun 30 Maw 2009 2:31 pm

Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Sleepflower - cer nôl a darllen 'to. Pwy ddechreuodd y digs bach plentynaidd, lled-idiotig am "egg chasers"?


Fi. A dim y bwriad oedd troi'r pwnc mewn i ddadl pel-droed v rygbi. Been there, done that. Diflas. Ond tra bo ni wrthi, ni'n entitled i gal dig. Ma'r holl beth yn ffars llwyr, ac mae angen iddo ddod i ben. Chi'n gallu dychmygu tim pel droed Lloegr yn chware yn Twickenham? Mae e gwmws yr un sefyllfa, stadiwm rygbi yw'r Millenium.
Rhithffurf defnyddiwr
Dai dom da
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3036
Ymunwyd: Gwe 05 Maw 2004 11:21 am
Lleoliad: Blaenffos / Caerfyrddin

Re: Cymru v Ffindir

Postiogan Josgin » Llun 30 Maw 2009 4:22 pm

4-5-1 oedd gan Toshack Dydd Sadwrn. Petai wedi bod yn llwyddiannus, buasai hyn wedi troi'n 5-4-1 yn erbyn yr Almaen.
Yr oedd Chelsea'n chwarae 4-5-1 am gyfnod helaeth yn aflwyddiannus.
Josgin
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 360
Ymunwyd: Sad 17 Chw 2007 11:21 pm
Lleoliad: Gogledd pell

NôlNesaf

Dychwelyd i Chwaraeon

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron