Tudalen 6 o 7

Re: Cymru v Ffindir

PostioPostiwyd: Maw 31 Maw 2009 3:15 pm
gan joni
Ray Diota a ddywedodd:beth yw'r myth ma bo rhaid cal beanpole striker er mwyn chwarae peli hir?? ian wright ac arsenal adeg george graham oedd y meistri...

Paid anghofio Alan "Smudger" Smith.

Re: Cymru v Ffindir

PostioPostiwyd: Maw 31 Maw 2009 5:05 pm
gan Josgin
Diom ots be di ei faint -y peth pwysig yw ei fod yn dda iawn. (Tydi da ddim digon da - dyna pam tydi o ddim yn gweithio gyda Bellamy ).
Mae angen chwaraewyr canol y cae arbennig o dda hefyd , a rhai sy'n gallu hedfan i mewn i'r bocs . Koumas ? Fletcher ? Robinson ?

Re: Cymru v Ffindir

PostioPostiwyd: Maw 31 Maw 2009 9:02 pm
gan Dai dom da
Macsen a ddywedodd:
Dai dom da a ddywedodd:stadiwm rygbi yw'r Millenium.

Mae'n res o seti o amgylch cae. Sdim byd wedi ei gynllunio yn arbennig ar gyfer rygbi na phel-droed amdano.

Ti'n cymryd y piss neu be? Cafodd y stadiwm ei adeiladu ar gyfer Cwpan Rygbi y Byd 1999, mae'r lle yn plastered gyda'r tair pluen, mai unrhyw lun neu darlun bob tro yn cynnwys pysts rygbu, ac ar pob gwefan chwaraeon mae'n cael ei labeli fel 'home of the welsh rugby team'. Paid boddran dod a ryw dadl bach patronising shit fel 'na, beth mae'r lle yn cynrychioli sy'n bwysig - a rygbi yw hwnna.

Re: Cymru v Ffindir

PostioPostiwyd: Mer 01 Ebr 2009 9:02 am
gan Ger27
Dai dom da a ddywedodd:ar pob gwefan chwaraeon mae'n cael ei labeli fel 'home of the welsh rugby team'.

Heblaw am gwefan swyddogol y stadiwm hynny yw:
"the Stadium is a multi-purpose, all round venue."/"The spiritual home of Welsh sport"

Eniwe, be 'di'r ots. Mewn gemau rhagbrofol, dim ond un canlyniad wirioneddol dda mae Cymru erioed wedi ei gael yn Stadiwm y Mileniwm (Yr Eidal). Dyna sy'n cyfrif a dyna pam da ni angen gadael y lle.

Paul Abbandonato yn disgwyl y tim canlynol ar gyfer y gem heno:

Hennesey

Ricketts - Williams - Collins - Nyatanga - Bale

Ramsey - Koumas - Ledley

Bellamy - Earnshaw

Re: Cymru v Ffindir

PostioPostiwyd: Mer 01 Ebr 2009 10:35 am
gan Macsen
Dai dom da a ddywedodd:Ti'n cymryd y piss neu be? Cafodd y stadiwm ei adeiladu ar gyfer Cwpan Rygbi y Byd 1999, mae'r lle yn plastered gyda'r tair pluen, mai unrhyw lun neu darlun bob tro yn cynnwys pysts rygbu, ac ar pob gwefan chwaraeon mae'n cael ei labeli fel 'home of the welsh rugby team'. Paid boddran dod a ryw dadl bach patronising shit fel 'na, beth mae'r lle yn cynrychioli sy'n bwysig - a rygbi yw hwnna.

Ydi'r ffaith bod y Stade de France wedi cael ei adeiladu ar gyfer Cwpan y Byd Pel-droed 1998 yn stopio'r tim rygbi rhag ennill a llenwi'r lle efo cefnogwyr bob tro mae nhw'n chwarae yno? Nagydi, so stopia siarad drwy dy het.

Cae chwaraeon aml bwrpas ydi o - dydi cefnogwyr bocsio/ralio/pel-droed cwpan FA ddim wedi rhoi toss ei fod o wedi ei aeiladu yn wreiddiol ar gyfer pencampwriaeth rygbi. Does dim rheswm pam ddylai ffans pel-droed Cymru gael jaman am y peth. Stadiwm cenedlaethol Cymru ydi Stadiwm y Mileniwm, dim byd arall.

Ti'n awgrymu symud i'r Liberty? Ond mae'r Gweilch yn chwarae fan 'na fyd, a bydd stadiwm newydd FC Caerdydd yn gartref i'r Gleision! Oes yna gae chwarae yng Nghymru sydd heb ei halogi gan y bel hirgron dwed?!

Re: Cymru v Ffindir

PostioPostiwyd: Mer 01 Ebr 2009 11:08 am
gan Gwahanglwyf Dros Grist

Gad e. Mae'r boi yn moron.

Re: Cymru v Ffindir

PostioPostiwyd: Mer 01 Ebr 2009 4:14 pm
gan Josgin
Bellamy a Koumas allan. Am syndod !

Re: Cymru v Ffindir

PostioPostiwyd: Iau 02 Ebr 2009 9:28 am
gan Dai dom da
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:
Macsen a ddywedodd:
Dai dom da a ddywedodd:Ti'n cymryd y piss neu be? Cafodd y stadiwm ei adeiladu ar gyfer Cwpan Rygbi y Byd 1999, mae'r lle yn plastered gyda'r tair pluen, mai unrhyw lun neu darlun bob tro yn cynnwys pysts rygbu, ac ar pob gwefan chwaraeon mae'n cael ei labeli fel 'home of the welsh rugby team'. Paid boddran dod a ryw dadl bach patronising shit fel 'na, beth mae'r lle yn cynrychioli sy'n bwysig - a rygbi yw hwnna.

Ydi'r ffaith bod y Stade de France wedi cael ei adeiladu ar gyfer Cwpan y Byd Pel-droed 1998 yn stopio'r tim rygbi rhag ennill a llenwi'r lle efo cefnogwyr bob tro mae nhw'n chwarae yno? Nagydi, so stopia siarad drwy dy het.

Cae chwaraeon aml bwrpas ydi o - dydi cefnogwyr bocsio/ralio/pel-droed cwpan FA ddim wedi rhoi toss ei fod o wedi ei aeiladu yn wreiddiol ar gyfer pencampwriaeth rygbi. Does dim rheswm pam ddylai ffans pel-droed Cymru gael jaman am y peth. Stadiwm cenedlaethol Cymru ydi Stadiwm y Mileniwm, dim byd arall.

Ti'n awgrymu symud i'r Liberty? Ond mae'r Gweilch yn chwarae fan 'na fyd, a bydd stadiwm newydd FC Caerdydd yn gartref i'r Gleision! Oes yna gae chwarae yng Nghymru sydd heb ei halogi gan y bel hirgron dwed?!

Gad e. Mae'r boi yn moron.

Aye, joies i hwn whareteg. Dadle bach lyfli. 8) Moron ife? Wedi cyffwrdd nerf bach. Gret.

Re: Cymru v Ffindir

PostioPostiwyd: Iau 02 Ebr 2009 3:40 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Dai dom da a ddywedodd:Aye, joies i hwn whareteg. Dadle bach lyfli. 8) Moron ife? Wedi cyffwrdd nerf bach. Gret.

Nope. Ti'n dangos dy dwpdra.

Re: Cymru v Ffindir

PostioPostiwyd: Iau 02 Ebr 2009 4:29 pm
gan Dai dom da
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:
Dai dom da a ddywedodd:Aye, joies i hwn whareteg. Dadle bach lyfli. 8) Moron ife? Wedi cyffwrdd nerf bach. Gret.

Nope. Ti'n dangos dy dwpdra.

Twpdra? Dim o gwbwl. Mae'r barn dwi di rhoi lawr fan hyn am sefyllfa'r stadiwm yn gytun gyda' mwyafrif o'm ffrindiau sy'n cefnogi pel-droed, a hyd yn oed y niwtrals. Dwi'n sori os droeodd y pwnc mewn i rhyw fath o ffwti v rygbi, ond dy fai di o'dd e am gymryd rhywbeth wedes i 'in the heat of the moment' fel ymysodiad tuag at eich hoffus rygbi.