Dai dom da a ddywedodd:Ti'n cymryd y piss neu be? Cafodd y stadiwm ei adeiladu ar gyfer Cwpan Rygbi y Byd 1999, mae'r lle yn plastered gyda'r tair pluen, mai unrhyw lun neu darlun bob tro yn cynnwys pysts rygbu, ac ar pob gwefan chwaraeon mae'n cael ei labeli fel 'home of the welsh rugby team'. Paid boddran dod a ryw dadl bach patronising shit fel 'na, beth mae'r lle yn cynrychioli sy'n bwysig - a rygbi yw hwnna.
Ydi'r ffaith bod y Stade de France wedi cael ei adeiladu ar gyfer Cwpan y Byd Pel-droed 1998 yn stopio'r tim rygbi rhag ennill a llenwi'r lle efo cefnogwyr bob tro mae nhw'n chwarae yno? Nagydi, so stopia siarad drwy dy het.
Cae chwaraeon aml bwrpas ydi o - dydi cefnogwyr bocsio/ralio/pel-droed cwpan FA ddim wedi rhoi toss ei fod o wedi ei aeiladu yn wreiddiol ar gyfer pencampwriaeth rygbi. Does dim rheswm pam ddylai ffans pel-droed Cymru gael jaman am y peth. Stadiwm cenedlaethol Cymru ydi Stadiwm y Mileniwm, dim byd arall.
Ti'n awgrymu symud i'r Liberty? Ond mae'r Gweilch yn chwarae fan 'na fyd, a bydd stadiwm newydd FC Caerdydd yn gartref i'r Gleision! Oes yna gae chwarae yng Nghymru sydd heb ei halogi gan y bel hirgron dwed?!