Tudalen 7 o 7

Re: Cymru v Ffindir

PostioPostiwyd: Iau 02 Ebr 2009 4:44 pm
gan dawncyfarwydd
Cwestiwn gwirion ella, ond oes gan y diffyg brwdfrydedd ar hyn o bryd rwbath i neud efo'r ffaith mai Sky Sports sy'n darlledu'r gemau? O blaen, oedd 'na hysbysebion am y gemau pêl-droed ar deledu normal, oedd yn help i greu heip. Dydi'r gemau ddim yn gymaint o achlysur rwan bod na ddim heip ar y teli.

Re: Cymru v Ffindir

PostioPostiwyd: Iau 02 Ebr 2009 4:51 pm
gan Mr Gasyth
dawncyfarwydd a ddywedodd:Cwestiwn gwirion ella, ond oes gan y diffyg brwdfrydedd ar hyn o bryd rwbath i neud efo'r ffaith mai Sky Sports sy'n darlledu'r gemau? O blaen, oedd 'na hysbysebion am y gemau pêl-droed ar deledu normal, oedd yn help i greu heip. Dydi'r gemau ddim yn gymaint o achlysur rwan bod na ddim heip ar y teli.


Taro'r hoelen ar ei phen dwi'n meddwl.

Re: Cymru v Ffindir

PostioPostiwyd: Iau 02 Ebr 2009 6:27 pm
gan Macsen
Mae wedi mynd yn bach o vicious cycle dw i'n meddwl - mae'n anodd fel cefnogwr i fagu'r brwdfrydedd i deithio lawr i weld y tim yn chwarae os nad yw'r chwaraewyr yn y tim i weld yn malio taten eu hunain am y canlyniad.

Y gwahaniaeth mawr rhwng Pel Droed a Rygbi rhyngwladol yw mai chwarae i'r tim cenedlaethol yw uchelgais chwarawyr rygbi tra yn pel-droed dyw gemau rhyngwladol yn ddim ond sideshow i'r gemau clwb lot pwysicach. Dw i'n siwr y byddai nifer o gefnogwyr a chwaraewyr pel droed yn llawer hapusach i weld eu clwb yn ennill yr Champions League na eu tim cenedlaethol yn ennill pencampwriaeth Ewrop.

Ac wrth i'r gem clwb rygbi ddechrau cynnig gemau sy'n well na'r rhai rhyngwladol fe wneith yr un peth ddigydd yn rygbi, dwi'n siwr.

Re: Cymru v Ffindir

PostioPostiwyd: Gwe 03 Ebr 2009 8:44 am
gan Sleepflower
Macsen a ddywedodd:Y gwahaniaeth mawr rhwng Pel Droed a Rygbi rhyngwladol yw mai chwarae i'r tim cenedlaethol yw uchelgais chwarawyr rygbi tra yn pel-droed dyw gemau rhyngwladol yn ddim ond sideshow i'r gemau clwb lot pwysicach.


Fi'n cytuno Macsen, mae gormod o bois yn chwarae dros Cymru er mwyn cael chwarae mewn gemau cyfeillgar yn erbyn Brasil, cael bach o hwyl, a shwrofod wthnos bant o'r wraig - Ben Thatcher, Paul Parry, Mark Crossley e.e.. Ond rhaid hefyd nodi bod rhai chwaraewyr pêldroed yn dal yn gweld chwarae dros Gymru fel yr anrhydedd fwyaf - Craig Bellamy, Gary Speed, Simon Davies, Ryan Giggs (er gwaetha polisi Fergie am gemau cyfeillgar), ac Earnie wrth gwrs.

Re: Cymru v Ffindir

PostioPostiwyd: Gwe 03 Ebr 2009 9:07 am
gan Ceiliog65
Macsen a ddywedodd:Y gwahaniaeth mawr rhwng Pel Droed a Rygbi rhyngwladol yw mai chwarae i'r tim cenedlaethol yw uchelgais chwarawyr rygbi tra yn pel-droed dyw gemau rhyngwladol yn ddim ond sideshow i'r gemau clwb lot pwysicach. Dw i'n siwr y byddai nifer o gefnogwyr a chwaraewyr pel droed yn llawer hapusach i weld eu clwb yn ennill yr Champions League na eu tim cenedlaethol yn ennill pencampwriaeth Ewrop.


Mae hyn yn wir i raddau, ond y prif rheswm bod y tîm rygbi yn llenwi'r stadiwm rhan fwyaf o'r amser yw bod y chwe gwlad yn 'ddigwyddiad' y mae pawb eisiau bod yn rhan ohono. Meddwad da. Ma nifer cefnogwyr 'hardcore' y tîm rygbi rhwbeth tebyg i'r un pêl-droed. (h.y. y rheini sy'n gwylio a cefnogi Cymru, dim yna i wylio gêm fawr yn erbyn Seland Newydd/De Affrica/Lloegr neu i wylio'r sgrin yn eu hetiau cowboi a chwifio fel ffwl pan ma nhw'n gweld eu hunain). Ma rhan fwyaf o bobl eisiau bod yna er mwyn dweud 'I was there' pan enillodd Cymru a gan fod tîm rygbi Cymru yn un o'r 8/9 tîm sy'n gallu chwarae rygbi i unrhyw lefel o werth ma gobaith y byddan nhw'n ennill fel arfer. Os oes gobaith mynd i gystadlaeuaeth fawr gyda'r tîm pêl-droed, bydd yr un pobl sy'n 'clingo' i'r bois rygbi eisiau tocyn i'r footie fel i'r gemau Lloegr, Rwsia a'r Eidal.

Cofiwch hefyd mai ond 40,000 odd yn y stadiwm i wylio Cymru v Japan yng Nghwpan Rygbi'r Byd. :lol: