Tudalen 2 o 2

Re: Cymru v Almaen

PostioPostiwyd: Mer 01 Ebr 2009 4:17 pm
gan Josgin
Mae'n edrych yn dim cytbwys iawn , ond faint o daclwyr da sydd yn y tim yna ?

Re: Cymru v Almaen

PostioPostiwyd: Mer 01 Ebr 2009 7:14 pm
gan bartiddu
Cont! Cic or smotyn? ( gwrando ar y radio) Dangoswch e ar y sgrin fawr bois! Blydi hel ref! :ing:

Re: Cymru v Almaen

PostioPostiwyd: Mer 01 Ebr 2009 8:37 pm
gan Hedd Gwynfor
Perfformiad lot gwell gan Gymru heno. Dwi'n credu bod Fletcher, Robinson ac o bosib Koumas wedi chwarae eu gemau olaf i Gymru yn dilyn trychineb dydd Sadwrn.

Re: Cymru v Almaen

PostioPostiwyd: Mer 01 Ebr 2009 8:40 pm
gan Ray Diota
Hedd Gwynfor a ddywedodd:Perfformiad lot gwell gan Gymru heno. Dwi'n credu bod Fletcher, Robinson ac o bosib Koumas wedi chwarae eu gemau olaf i Gymru yn dilyn trychineb dydd Sadwrn.


meddwl, a gobitho, bo ti'n iawn am y ddau gynta... gobitho nad wyt ti'n iawn am koumas, ddo!

Re: Cymru v Almaen

PostioPostiwyd: Mer 01 Ebr 2009 9:25 pm
gan garynysmon
..son fod Koumas wedi ymddeol neithiwr.

Re: Cymru v Almaen

PostioPostiwyd: Mer 01 Ebr 2009 9:30 pm
gan Hedd Gwynfor
garynysmon a ddywedodd:..son fod Koumas wedi ymddeol neithiwr.


Wel, stwffo fe de. Yw hi'n wir nad oedd anaf Bellamy mor wael a hynny, a petasai Cymru wedi ennill dydd Sadwrn y byddai Bellamy wedi chwarae heno? Rhai pobl yn awgrymu mai cael ei adael allan o'r garfan gan Toshack oedd hanes Bellamy heno, a nad oedd anaf gyda fe o gwbl! Nonsens yw hynny gobeithio... :?

Re: Cymru v Almaen

PostioPostiwyd: Mer 01 Ebr 2009 9:46 pm
gan Ray Diota
o ddarllen dragon soccer, ma'n swnio fel rial shambls o ran bellamy a koumas...

wthnos uffernol, wir...

ond wedi gweud 'ny... mi odd cymru'n pasio'r bel yn weddol bach yn nghanol y cae heno... ma angen amser a llond berfa o amynedd ma arnai ofn, bois...