)
crynwyr a ddywedodd:Beth yw hwn bod sel yr haf wedi dechrau lawr ym mhrifddinas y sipswn. Mae Gomez Ac Angle Wrangle (swno fel rhyw fath o gwis mathemateg) off i Celtic a'r Scotland off i Middlesboro. O diar,mae'n edrych fel yr olwynion yn cwympo off y carafan
Be sydd yn bod mewn byw mewn carafan????? Snob.
A - be sydd da ti di yn erbyn sipswrn??????????? Bydd yn ofalus be ti yn dweud boi........
Cytuno da Cynyr, no worries - byddwn ni yn iawn, players come and go... Dros y blynyddoedd ath Ricketts, Trundle, Robinson ac Anderson - y media yn dweud dyna diwedd hi et etc ac ers iddynt fynd...da ni wedi cael dyrchafiad a nawr ond 4 pwynt tu ol y 6ed safle gyda 3 gem i fynd..
Braf odd gweld Roberto yn dweud yn y Western Mail heddi bod e ishe mynd ir premiership yn y ffordd cywir sef chware pel droed y ffordd cywir dim trwy hoof the ball tactics mae rhai timau yn neud ( gelwir hyn yn ol nhw yn 'long pass'
)..
Dwi yn cofio dan dyddiau Kenny Jackett a oedd yn llwyddiannus iawn am 2 oi 3 blynedd da ni , roedd ffans Abertawe yn beirniadu yn hallt ei dacteg long ball (hyd yn oed pam oeddwn yn llwyddo!!!)...Da ni wedi cael ein cyhuddo o fod yn gul fel ffans, ond dyna fel ma ffans Abertawe demandio - pel droed, pert, stylish dim jyst cicio fe fyny a gobitho am y gorau. Ma ffans lot o glybiau jyst eisiau llwyddo pa bynnag ffordd - ond dim ni yn Abertawe.
Cofier be sydd yn cael ei ddweud yn gyson ar Sky, mai Abertawe yw'r tim pel droed gorau yn yr adran(trwy hynny dwi yn golygu 'the bets footballing team in the Championship') . Dim fi sydd yn dweud hyn ond Sky...Dwi yn meddwl mai ein nick name ni ar Sky yw y 'Style Kings'!
Tymor ffantastig tho - lot yn slagio ni off dechre y tymor ac yn bychanu ein siawnses...blydi hel, ma wy ar ein gwynebau nhw erbyn hyn.........
Premiership i fi??? Ie, ond fel dywedodd Roberto ,
'we dont wont to get promoted for the sake of it'
y perfformiadau sydd yn bwysig a neud er ffordd cywir...Os dyw e ddim yn llwyddo, no probs, mi wnawn ni drio to y flwyddyn nesa ...