Caerdydd v Abertawe ran 3

Does dim rhieni gan y reffarî

Cymedrolwr: eusebio

Rheolau’r seiat
Croeso i chi drafod unrhyw chwaraeon o beldroed neu rygbi i didliwincs! Plîs peidiwch â chreu unrhyw edefyn pêl-droed v rygbi. Mae'r math yma o edefyn yn ddiflas tu hwnt ac wedi arwain yn y gorffenol at ffraeo a checru hurt. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Caerdydd v Abertawe ran 3

Postiogan Rhods » Maw 31 Maw 2009 12:55 pm

Abertawe yn cipio'r 'braging rights' yn y gem gyntaf, ar ail gem yn cael ei rhannu..bydd Caerdydd felly yn ysu am revenge..

Tybiwn ni mai Caerdydd fydd y ffefrynnu clir da'r bwcis.. y gem yn cael ei chware yn ei cartre lle ma da nhw record penigamp leni...underdogs felly fydd y jacks (ond fel na fel i fi yn lico fe! Dyna pryd fel arfer da ni ar ein gore!!! :winc: )
Rhithffurf defnyddiwr
Rhods
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1266
Ymunwyd: Gwe 06 Ion 2006 2:17 pm

Re: Caerdydd v Abertawe ran 3

Postiogan Doctor Sanchez » Maw 31 Maw 2009 5:02 pm

C,mon Keeeeediff!
Not my fault. Monkey bastard hands!

WHAT!? Am I holding a crock of shit!? Tell me something. Is this hospital called "St. Crock of Shit"!?
Rhithffurf defnyddiwr
Doctor Sanchez
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 160
Ymunwyd: Llun 10 Maw 2008 1:02 pm
Lleoliad: Ysbyty ManTywyll

Re: Caerdydd v Abertawe ran 3

Postiogan Ger27 » Mer 01 Ebr 2009 9:12 am

Un mae'n rhaid i Abertawe ei guro felly dwi'n meddwl cawn ni gem dda gyda dipyn o goliau.

Bechod bod Gypes allan. Bydd rhaid chwarae Purse ( :ofn: ) neu McNaughton yng nghanol yr amddiffyn.

Ffwtbol am 11 ar fore sul. Mae'r heddlu yn bwriadu cael cefnogwyr Abertawe yn y stadiwm cyn 10! Pob lwc iddyn nhw.
Rhithffurf defnyddiwr
Ger27
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 343
Ymunwyd: Maw 30 Mai 2006 3:01 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Caerdydd v Abertawe ran 3

Postiogan Cynyr » Iau 02 Ebr 2009 12:00 pm

Ger27 a ddywedodd:Ffwtbol am 11 ar fore sul. Mae'r heddlu yn bwriadu cael cefnogwyr Abertawe yn y stadiwm cyn 10! Pob lwc iddyn nhw.


Ie, ma Cyngor Caerdydd wedi gofyn i ni ddod i helpu gyda'r demolition :winc:
" And Britain defeats the rest of the world to pick up the bronze medal."
Rhithffurf defnyddiwr
Cynyr
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 934
Ymunwyd: Llun 12 Gor 2004 10:37 am
Lleoliad: Clancrannock!!

Re: Caerdydd v Abertawe ran 3

Postiogan ceribethlem » Iau 02 Ebr 2009 3:44 pm

Rhods, os yw Ashley Williams yn ymarfer ei sgorio wthnos hyn, galle fe fod yn 15 - 0 i Gaerdydd! :lol:
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Caerdydd v Abertawe ran 3

Postiogan Rhods » Sul 05 Ebr 2009 7:43 pm

2-2 . Canlyniad teg ar y cyfan. Ie, fe all Monk & Co teimlo bod nhw ei twyllo da'r penalti yn diwedd, ond a fod yn onest, cafodd Caerdydd siawnses cyn ni, le dylsent wedi sgorio. Ffer resylt.

Gwnath Abertawe dechre yn wych, gyda'i pel droed slick a clever yn outwito Caerdydd yn yr 20 munud cyntaf. Ond, yna Caerdydd yn stoppo ni rhag chware a dechre bwlian fel roeddwn ni yn ofni cyn y gem....Rhaid gofyn tho, a dylswn ni rhoi nickname newydd i Caerdydd ai galw nhw nawr yn Cardiff 'long ball' City???!!!!! Son am root one,..sdim chware ar y llawr da nhw o gwbl ond mae nhw yn effeithiol. Rhaid cofio tho bod lot o clybiau wedi llwyddo trwy root one/long ball . Mae Caerdydd yn atgoffa fi lot o yr hen Wimbledon a lwyddodd am flynyddoedd...shwr fydd root one tactics effeithiol Caerdydd shwr o rhoi nhw mewn gwd stead ar gyfer y gemau ail - gyfle.

Roedd yn warthus be ddigwyddodd ir ref gyda'r ffan Caerdydd yn taflu coin ato. Disgrace. Rwyn falch o glywed bod Risdale wedi banio'r culprit yn barod o Gaerdydd. Er, o darllen adroddiadau ar BBC, mae'n debyg bod mwy nag un ffan Caerdydd wedi taflu coins ar y cae. Mae'n debyg bod yr heddlu yn neud investigation drylwyr i hyn. Roedd Dave Jones yn poeni or repurcussions i Gaerdydd...a all Caerdydd gwynebu y posiblrwydd o points deduction o ganlyniad i gambihafio gwarthus rai oi ffans? Roedd yn gem ffantastig, ond piti bod y digwyddiad hyn wedi spwylo'r gem i raddau.

Felly 3 gem leni. Abertawe yn ennill un, Caerdydd yn colli un gyda cyfartal yn y 2 gem arall.Tasai rhywun di rhoi hwnna i fi dechre tymor, byddwn wedi b od yn hapus iawn. Y 'bragging rights' yn cael ei cipio gan y Swans leni felly. :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Rhods
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1266
Ymunwyd: Gwe 06 Ion 2006 2:17 pm

Re: Caerdydd v Abertawe ran 3

Postiogan Ger27 » Llun 06 Ebr 2009 9:19 am

Daeth 2 gol Caerdydd o chwarae da ar yr asgell dde. Y cyntaf yn cynnwys McNaughton yn rhedeg tua 100 llath hefo'r bel. Dwn i ddim ble ti'n cael y busnes 'long ball' ma!

Bydd dim point deduction. £3,000 o ffein gafodd Newport County pan cafodd y leinsman ei daro gan ceiniog yn fano cwpwl o flynyddoedd yn ol.
Yn anffodus mae'r pethau ma'n digwydd. Cafodd na flare ei daflu at in bys ni yn y Liberty cyn y 'Dolig hefyd.

Gem gyfartal yn ok i Gaerdydd. Da ni wedi rhoi stop ar unrhyw obeithion oedd gan Abertawe o gymryd ein lle ni yn y play-offs. 3 gem arall da' ni angen ei guro i selio ein lle yn y gemau ail-gyfle. Hefo 3 gem gartref ar ol, dylie ni fod yn iawn.

Gomez a De Vries yn cael 9 allan o 10 gan y Western Mail. Bydd Abertawe yn gweld hi'n anodd ffeindio chwaraewr i gymryd lle Gomez tymor nesaf... chwaraewr gorau ar y cae ddoe.
Rhithffurf defnyddiwr
Ger27
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 343
Ymunwyd: Maw 30 Mai 2006 3:01 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Caerdydd v Abertawe ran 3

Postiogan Rhods » Maw 07 Ebr 2009 2:16 pm

Ger27 a ddywedodd:Daeth 2 gol Caerdydd o chwarae da ar yr asgell dde. Y cyntaf yn cynnwys McNaughton yn rhedeg tua 100 llath hefo'r bel. Dwn i ddim ble ti'n cael y busnes 'long ball' ma!

Bydd dim point deduction. £3,000 o ffein gafodd Newport County pan cafodd y leinsman ei daro gan ceiniog yn fano cwpwl o flynyddoedd yn ol.
Yn anffodus mae'r pethau ma'n digwydd. Cafodd na flare ei daflu at in bys ni yn y Liberty cyn y 'Dolig hefyd.

Gem gyfartal yn ok i Gaerdydd. Da ni wedi rhoi stop ar unrhyw obeithion oedd gan Abertawe o gymryd ein lle ni yn y play-offs. 3 gem arall da' ni angen ei guro i selio ein lle yn y gemau ail-gyfle. Hefo 3 gem gartref ar ol, dylie ni fod yn iawn.

Gomez a De Vries yn cael 9 allan o 10 gan y Western Mail. Bydd Abertawe yn gweld hi'n anodd ffeindio chwaraewr i gymryd lle Gomez tymor nesaf... chwaraewr gorau ar y cae ddoe.


Mae yn edrych fel bod pethe yn fwy ddifrifol nag odd e yn wreiddiol. Mae'n debyg bod na coins di cael ei taflu at chwaraewyr Abertawe gan rai o ffans Caerdydd trwy gydol y gem . Odi mae'r pethe ma yn digwydd , yn anaml, ond yn digwydd. Mae yn rhaid roi stop i hyn, cyn i rhywun cael ei anafu yn ddifrifiol neu hyd yn oed ei lladd...ffyc, sa'r coin yna nath taro y ref di mynd 2 inches yn llai, bydd e wedi dal llygad y ref...mae'n rhaid neud rhywbeth. Mae yn rong i minimiso hyn. Gwnath Jason Perry ar real radio dwedu mai 'small incident' oedd hyn. Gwarthus o beth i ddweud gan ex-pro. Gwnath hyn rili weindio fyny Alan Curtis big time neithiwr ar y real radio!!! Sylweddolodd Perry bod e yn rong beth wedodd e a newid ei diwn.

Ond fel wedodd Ger, bydd dim point deduction probably. Rhaid cofio mai FA Cymru fydd yn penderfynnu ei tynged.

Mae yn warthus be ddigwyddodd i ffans Caerdydd gan rai o ffans Abertawe y llynnedd yn taflu pethe ar ei bws. Gwnath y run peth ddigwydd i ni dy sul gyda tear gas cael ei daflu atom gan Caerdydd, yn cynnwys at menywod a plant. Dylair culprits ma cael life ban hefyd ( a prosecution trwm). ...hynny i ffans y 2 clwb

Gosh, gyda'r holl coins yna yn cae ei talfu at chwaraewyr Abertawe trwy'r gem, maent wedi neud neud mor dda i cael cyfartal (ac ond munudau i ffwrdd o fuddugoliaeth)..mae hynny yn wyrthiol. Odd Caerdydd mewn domination am cyfnodau hir yn y gem ond gyda' rai oi ffans yn llythrennol yn chware y '12th man' gyda' taflu'r coins, roedd hynny bownd o wedi effeithio ar Monk & Co.

Ond ar y long ball Ger, ma lot o hyd yn oed eich ffans chi di bod yn mynegu ei rhwystredigaeth ers misoedd ar real radio am tactic y long ball. (a ehh, penalti oedd yr ail gol..ar gol gyntaf yn dod o ni yn rhoi y bel yn rhy rhwydd i chi...ac ie eich full back yn neud y run yna etc...ond hei, dim criticism yw hwn, mae'r root one yn amlwg yn gweithio i chi (odd cynnig Ledley ar y diwedd yn classic root one a dylse wedi sgorio ond am stop gwych De Vries)

Am dymor, ninnau ond wedi cael dyrchafiad llynnedd ac eto yn herio bron hyd y diwedd am y top 6 ar premiership play offs!. Rhaid cofio hefyd, da ni ond wedi gwario ciniogau ar chwaraewyr newydd oi gymharu ar milinynau ( ar wages astrinomical) ma'r clybiau eraill yn y top half wedi. Mae risgo stabilty y clwb ar posiblrwydd o mynd i ddyled enfawr o filynau o bunnoedd ddim yn opsiwn rydym yn fodlon cymryd.

Blaenoriaeth Roberto yw cadw core y sgwad. Wrth gwrs fydd rhai yn mynd fel sydd yn digwydd da pob clwb. Byddwn ni ddim yn poeni am Gomez Ger. Dwi yn gobeithio y bydd yn seinio i ni o Espanyol, ond os ddim bydd Roberto a plan B a plan C. :winc: ..Cofier hefyd, bydd Bodde yn dod nol fel seining newydd a wedyn bydd y full back Painter yn ol, chwaraewr a gafodd tymor wych cyn iddo cael anaf cas. Byddwm wedi dysgu lot or tymor yma..

Gwnath lot ar dechre tymor bychanu a chwethin ar siawnses Abertawe. Y realiti yw da ni di chware peth or pel droed gore yn y Championship a wedi cael sylw ar lefel genedlaethol yn y byd pel droed gyda canmoliaeth anhygoel gan rai o ledgends mwya y gem. Mae'r rheiny nath neud hwyl ar ein pennau a wy ar eu gwynebau nawr ac rhaid eu bod yn uffernnol o pisd off a grac gyda llwyddiant Abertawe. :lol: :lol:
Rhithffurf defnyddiwr
Rhods
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1266
Ymunwyd: Gwe 06 Ion 2006 2:17 pm

Re: Caerdydd v Abertawe ran 3

Postiogan Ger27 » Maw 07 Ebr 2009 7:40 pm

Rhods a ddywedodd:Ond fel wedodd Ger, bydd dim point deduction probably. Rhaid cofio mai FA Cymru fydd yn penderfynnu ei tynged.


:D Oedd gen i deimlad fydde hynny'n dod fyny!
Cafodd Abertawe ddim cosb am daflu ceiniogau at Ledley yn y gem gwpan, felly ffein yn unig gaiff Caerdydd. £20,000 dwi'n meddwl. Fel mae Dave Jones a PR wedi dweud heddiw, fyddai'r clwb ddim wedi gwneud llawer mwy i atal sefyllfa o'r fath.

Does dim dwy waith bod Abertawe wedi cael tymor lot gwell nag oedd pawb yn ei ddisgwyl. Fydd pethau'n anoddach tymor nesaf wrth gwrs ("second season syndrome") ond does sim angen poeni am hynny rwan!

Wrth wylio Wolves v Birmingham neithiwr, rhaid i mi ddweud mai'r unig tim dwi'n meddwl fyddai Caerdydd yn gweld hi'n anodd iawn yn eu herbyn yn y play-offs ydi Sheffield United. Mi oedd Wolves (a Hennessey yn enwedig :( ) yn rybish; gobeithio chwarae nhw yng ngemau cyntaf y play-offs!
Rhithffurf defnyddiwr
Ger27
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 343
Ymunwyd: Maw 30 Mai 2006 3:01 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Caerdydd v Abertawe ran 3

Postiogan Rhods » Maw 07 Ebr 2009 8:38 pm

Na'r tro cyntaf dwi di clywed am hynny fy hun (am Ledley hy)..nes i ddim darllen dim byd am hyn..ac odd dim byd ar y radio am hyn. Odd lot am be ddigwyddodd tu allan ond dim byd am Ledley . Od :? on d nai cymryd dy air di am hynny.

Clywed tho nawr fydd y football league yn neud investigation o bosib, dim jyst FA Cymru. Cawn weld be bydd yn digwydd.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhods
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1266
Ymunwyd: Gwe 06 Ion 2006 2:17 pm

Nesaf

Dychwelyd i Chwaraeon

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 17 gwestai

cron