Yr oeddwn innau'n meddwl ei fod yn dangos dipyn o galon a hunan-barch ar ran tim Aber i ddod draw atom ni ar ddiwedd y gem.
Rhywbeth i bob tim ystyried gwneud mewn rownd derfynol.
Y gwahaniaeth oedd fod Aber eisiau cyrraedd y ffeinal, a Bangor eisiau ennill y ffeinal.
Dwi'n meddwl fod 11 chwaraewr Bangor wedi chwarae yn y ffeinal llynedd ( arwahan i Peter Hoy a wnaeth prin clywed y chwiban gyntaf ! )
Cae da i chwarae , ond stadiwm ddiflas eithriadol ar gyfer y peldroed - arwhana i'r sgrins a bars yn y cyntedd.
Hurt. Gyrru ni 150 milltir am fod yn hogia drwg, a wedyn gwerthu cwrw i ni !