Rownd derfynol cwpan Cymru 2009

Does dim rhieni gan y reffarî

Cymedrolwr: eusebio

Rheolau’r seiat
Croeso i chi drafod unrhyw chwaraeon o beldroed neu rygbi i didliwincs! Plîs peidiwch â chreu unrhyw edefyn pêl-droed v rygbi. Mae'r math yma o edefyn yn ddiflas tu hwnt ac wedi arwain yn y gorffenol at ffraeo a checru hurt. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Rownd derfynol cwpan Cymru 2009

Postiogan Josgin » Maw 05 Mai 2009 3:45 pm

Yr oeddwn innau'n meddwl ei fod yn dangos dipyn o galon a hunan-barch ar ran tim Aber i ddod draw atom ni ar ddiwedd y gem.
Rhywbeth i bob tim ystyried gwneud mewn rownd derfynol.
Y gwahaniaeth oedd fod Aber eisiau cyrraedd y ffeinal, a Bangor eisiau ennill y ffeinal.
Dwi'n meddwl fod 11 chwaraewr Bangor wedi chwarae yn y ffeinal llynedd ( arwahan i Peter Hoy a wnaeth prin clywed y chwiban gyntaf ! )

Cae da i chwarae , ond stadiwm ddiflas eithriadol ar gyfer y peldroed - arwhana i'r sgrins a bars yn y cyntedd.
Hurt. Gyrru ni 150 milltir am fod yn hogia drwg, a wedyn gwerthu cwrw i ni !
Josgin
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 360
Ymunwyd: Sad 17 Chw 2007 11:21 pm
Lleoliad: Gogledd pell

Re: Rownd derfynol cwpan Cymru 2009

Postiogan Ray Diota » Maw 05 Mai 2009 3:49 pm

Josgin a ddywedodd:Yr oeddwn innau'n meddwl ei fod yn dangos dipyn o galon a hunan-barch ar ran tim Aber i ddod draw atom ni ar ddiwedd y gem.
Rhywbeth i bob tim ystyried gwneud mewn rownd derfynol.
Y gwahaniaeth oedd fod Aber eisiau cyrraedd y ffeinal, a Bangor eisiau ennill y ffeinal.
Dwi'n meddwl fod 11 chwaraewr Bangor wedi chwarae yn y ffeinal llynedd ( arwahan i Peter Hoy a wnaeth prin clywed y chwiban gyntaf ! )

Cae da i chwarae , ond stadiwm ddiflas eithriadol ar gyfer y peldroed - arwhana i'r sgrins a bars yn y cyntedd.
Hurt. Gyrru ni 150 milltir am fod yn hogia drwg, a wedyn gwerthu cwrw i ni !


newch chi stopio mynd mlan am orfod teithio??? iesu grist, set ti'n meddwl bo chi di chware yn baghdad...

Y gwahaniaeth oedd fod Aber eisiau cyrraedd y ffeinal, a Bangor eisiau ennill y ffeinal.


:rolio:

jyst gobeithio newch chi jobyn teidi yn yr Europa...
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: Rownd derfynol cwpan Cymru 2009

Postiogan Josgin » Maw 05 Mai 2009 5:12 pm

Os dwi'n cofio'n iawn, 'roedd y rownd gyn-derfynol wreiddiol i fod yn llanelli, ond newidwyd y lleoliad i Hwlfordd er cysur i Aber.
Petai'r lleoliad yn cael ei gyhoeddi ar ddechrau pob tymor, popeth yn iawn.
Nid felly y bu. A fuasai gem e.e. Derwyddon Cefn v Aber wedi ei chwarae yn Llanelli ?
Josgin
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 360
Ymunwyd: Sad 17 Chw 2007 11:21 pm
Lleoliad: Gogledd pell

Re: Rownd derfynol cwpan Cymru 2009

Postiogan Josgin » Maw 05 Mai 2009 5:52 pm

Un peth arall. Mi oedd yna awyrgylch anhygoel yn y gem gwpan yn erbyn Rhyl, a tydwi heb weiddi a canu cymaint a wnes i ddoe ers talwm.
Dwi'n mynd i gemau Cymru hefyd, ond toes gan y gemau yna ddim chwarter awyrgylch gemau Ffordd Farrar, hyd yn oed. Yr un pobl sy'n mynd i'r gemau , a'r un math o bobl, ond mewn gemau Bangor , ti hefo ffrindiau oes, ti'n uniaethu gyda'r chwaraewyr , yr un ydi'r caneuon bob wythnos.
Sut ar wyneb y ddaear mae gwella awyrgylch Stadiwm y Mileniwm ? . Bydd yn ddiddorol gweld naws cae newydd Caerdydd.
Josgin
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 360
Ymunwyd: Sad 17 Chw 2007 11:21 pm
Lleoliad: Gogledd pell

Re: Rownd derfynol cwpan Cymru 2009

Postiogan garynysmon » Maw 05 Mai 2009 9:46 pm

I fod yn deg, dydi Ffordd Ffarrar ddim yn ffantastig bob gem. Ond ar gyfer gemau mawr, mae'r lle'n dod yn fyw. Roedd hni'n gret o awyrgylch yn ochr ni yn y gem oddi cartref yn erbyn Rhyl chydig wythnosa' nol hefyd.


Sgen i'm problem efo Parc y Scarlets, i ddeud y gwir, doedd y 1,200 ohonom oedd yna ddim yn swnio'n rhy bad ar y teledu. Dal i feddwl mai'r Cae Ras ddyla hi wedi bod, serch hynny (ar y Dydd Sul).
Rhithffurf defnyddiwr
garynysmon
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4232
Ymunwyd: Maw 01 Gor 2003 4:24 pm
Lleoliad: Ynys Mon

Re: Rownd derfynol cwpan Cymru 2009

Postiogan Ray Diota » Mer 06 Mai 2009 12:27 pm

garynysmon a ddywedodd:Dal i feddwl mai'r Cae Ras ddyla hi wedi bod, serch hynny (ar y Dydd Sul).


ti eriod 'di mynd i recsam o aberystwyth te...

wy'n gweld eich pwynt chi, wrth gwrs, ond chi newydd ennill y cwpan so caewch eich cege! fyddwch chi'n cwyno am daith i latvia ne be bynnag yn yr europa league...? :winc:
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: Rownd derfynol cwpan Cymru 2009

Postiogan garynysmon » Mer 06 Mai 2009 4:52 pm

Latvia?, gwell na hynny Ray...

Mae'r draw yn un agored 'leni, felly unrhyw un allan o, fel mae pethau'n sefyll:

Tromso (Norwy)
Sigma Olomouc (Weriniaeth Siec)
Young Boys Bern (Swistir)
CFR Cluj (Rwmania)
Sporting de Braga (Portiwgal)
Groningen, Feyenoord, NAC Breda or Utrecht (Iseldiroedd)
Dundee United (Alban)
Galatasaray (Twrci)
Metalurh Donetsk (Yr Wcrain)
Gent (Gwlad Belg)
PAOK, Panathinaikos, AEK Athens or Larissa (Groeg)
Cherno More Varna (Bwlgaria)
Brondby/Odense (Denmarc)
Rapid Vienna/Sturm Graz (Awstria)
Vojvodina/Red Star Belgrade (Serbia)
Maccabi Haifa (Israel)
Elfsborg (Sweden)
MŠK Žilina (Slovakia)
Wisla Krakow (Gwlad Pwyl)
Ujpest Dozsa (Hwngari)
Slaven Belupo (Croatia)
Omonia Nicosia(Cyprus)
Koper/ Interblock Ljubljana (Slovenia)

Ray Diota a ddywedodd:
garynysmon a ddywedodd:Dal i feddwl mai'r Cae Ras ddyla hi wedi bod, serch hynny (ar y Dydd Sul).


ti eriod 'di mynd i recsam o aberystwyth te...


Naddo, ond roedd dreifio i Lanelli o'r Gogledd drwy lonydd Diawledig Powys, a llefydd yng Nghaerfyrddin dwi ond wedi clywed amdant ym Mhobol y Cwm, yn daith a hanner! :D
Rhithffurf defnyddiwr
garynysmon
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4232
Ymunwyd: Maw 01 Gor 2003 4:24 pm
Lleoliad: Ynys Mon

Re: Rownd derfynol cwpan Cymru 2009

Postiogan Ray Diota » Mer 06 Mai 2009 5:51 pm

garynysmon a ddywedodd:Galatasaray (Twrci)


na beth fydde joio! sai'n gwbod pa ffans sy waetha, rhai bangor ne rhai galatasaray... :D
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Nôl

Dychwelyd i Chwaraeon

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai

cron