ceribethlem a ddywedodd:Nagyw ishe i dim i ennill yr un peth a'i cefnogi nhw te?
Na.
ceribethlem a ddywedodd:Ond mi wyt ti'n dethol a dewis pryd i beidio a chefnogi pethau "Prydeinig". Ti'n defnyddio pasport Prydeinig pan ei di ar dy wylie, ti'n gwylio'r BBC. Felly mi wyt ti'n "cefnogi" rhai pethau Prydeinig.
Does dim dewis gyda fi ond defnyddio pasbort Prydeinig ar hyn o bryd, er byddai'n lot well gen i gael un Cymreig yn amlwg. Yn yr un modd, licen i weld darlledu yn cael ei ddatganoli'n llawn i Gymru, gyda sianel newydd Saesneg 'Cymreig' (WBC?) yn ogystal a S4C, a gyda'r Cynulliad/Senedd yng Nghymru yn cyllido'r holl beth, ac yn gyfrifol amdano. Ond tan bod Cymru'n annibynnol, a tan bod darlledu yn cael ei ddatganoli'n llawn i Gymru, dwi ddim am beidio defnyddio'r gwasanaethau yna. Dwi ddim yn 'cefnogi' pasbort Prydeinig na'r BBC, a dwi ddim yn cefnogi'r Llewod, ond byddai yn gwylio'r gemau.
Duw a ddywedodd:Ydy cefnogi'r Sgarlets yn wrth-Gymreig, gan adnabod sawl chwaraewr estron sy'n chwarae iddynt? Diflas yw egwyddorion anhyblyg ambell waith.
Does gan hyn ddim byd i wneud â'r peth. Fi ddim yn cefnogi'r Llewod gan bod y tîm yn cynrychioli Prydeindod, nid oherwydd bod chwaraewyr o wledydd eraill yn chwarae i'r tîm.
Fi wedi dweud sawl tro, pe bai y tîm yn newid ei enw i'r "Lions" a'n cael gwared ar "God Save the Queen" fel yr 'anthem swyddogol', byddai dim problem gyda fi gefnogi'r tîm. Byddai cynnwys chwaraewyr o'r holl wledydd yng Nghystadleuaeth y 6 gwlad yn syniad da ac yn hytrach na chwarae yn erbyn un wlad hemisffer y de, beth am chwarae yn erbyn y 15 chwaraewr gorau o'r Tri-Nations?
Byddai'n ddiddorol gwybod os yw cefnogwyr y Llewod yn cefnogi Prydain yn y gemau Olympaidd hefyd, a beth am Lloegr yn y criced?