Duw a ddywedodd:I ateb pam rygbi a nid pel droed, yn fy marn i, ni fydd y Llewod byth yn tanseilio annibyniaeth yr URC, RFU, IRFU, SFU, er ni allwn ddweud yr un peth am dim 'Prydeinig' Olympaidd a'r FAW. Mae traddodiad arbennig gan y Llewod.
Cytuno... dim ond llond llaw o wledydd sy'n chwarae rygbi fyddai ar ol wedyn!
Dwi'n cytuno hefyd mai hanes y Llewod sy'n ei wneud yn beth arbennig i gymaint o bobl - nid y ffaith ei fod yn gam i fyny o rygbi rhyngwladol neu'r cyfle i gynrychioli GB&IRE.
ee Os fyddai'r IRB yn dod allan gyda cynllun i gael gemau Ewrop v Awstralasia bob 4 mlynedd o hyn ymlaen, fyddai bobl ddim yn malio dim am y peth - er gwaetha'r ffaith byddai'r safon yn siwr o fod yn uwch na safon y Llewod.
Ond - mae hefyd angen cofio bod pob chwaraewr eisiau llwyddo ar y lefel uchaf un. Fyddai na yr un athletwr o Gymru yn swapio medal aur yn yr Olympics (tra'n cynrychioli GB&NI) am medal aur yng Ngemau'r Cymanwlad!