Pwysigrwydd y Llewod

Does dim rhieni gan y reffarî

Cymedrolwr: eusebio

Rheolau’r seiat
Croeso i chi drafod unrhyw chwaraeon o beldroed neu rygbi i didliwincs! Plîs peidiwch â chreu unrhyw edefyn pêl-droed v rygbi. Mae'r math yma o edefyn yn ddiflas tu hwnt ac wedi arwain yn y gorffenol at ffraeo a checru hurt. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Pwysigrwydd y Llewod

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Sad 23 Mai 2009 12:21 am

Hedd Gwynfor a ddywedodd:Ydw, yn hytrach na Phrydain.

Y pwynt yw, fi'n hollol gyson fy marn (gweld pethau yn ddu a gwyn yn ôl eraill). Dwi ddim am gefnogi unrhyw beth sy'n defnyddio'r term Prydain, UK, DU, etc...

Dyw hynny ddim yn fy ngwneud yn fwy neu llai o Gymro na unrhyw un arall.

Croeso nôl i'r maes Gwahanglwyf. :D


Aye, ti angen hynna i gefnogi tim hiliol.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Re: Pwysigrwydd y Llewod

Postiogan ceribethlem » Sad 23 Mai 2009 7:14 pm

Hedd Gwynfor a ddywedodd:Y pwynt yw, fi'n hollol gyson fy marn (gweld pethau yn ddu a gwyn yn ôl eraill). Dwi ddim am gefnogi unrhyw beth sy'n defnyddio'r term Prydain, UK, DU, etc...
Ond mi wyt ti'n "cefnogi" tim sy'n chwarae yn erbyn tim sy'n cynnwys Cymry?
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Pwysigrwydd y Llewod

Postiogan Hedd Gwynfor » Sad 23 Mai 2009 8:52 pm

ceribethlem a ddywedodd:Ond mi wyt ti'n "cefnogi" tim sy'n chwarae yn erbyn tim sy'n cynnwys Cymry?


Sai'n 'cefnogi' De'r Affrig, jyst moyn iddyn nhw ennill yn erbyn y Llewod. Dyw'r bois o Gymru ddim yn cynrychioli Cymru pan yn chwarae dros y Llewod. Er hyn, licen ni eu bod nhw'n chwarae'n dda, a dysgu rhywbeth er lles Cymru.

Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Y pwynt yw, fi'n hollol gyson fy marn (gweld pethau yn ddu a gwyn yn ôl eraill


Pun bwriadol. O'n i'n itha chuffed da hwna. :D
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Pwysigrwydd y Llewod

Postiogan ceribethlem » Sul 24 Mai 2009 12:17 am

Hedd Gwynfor a ddywedodd:
ceribethlem a ddywedodd:Ond mi wyt ti'n "cefnogi" tim sy'n chwarae yn erbyn tim sy'n cynnwys Cymry?


Sai'n 'cefnogi' De'r Affrig, jyst moyn iddyn nhw ennill yn erbyn y Llewod.

Nagyw ishe i dim i ennill yr un peth a'i cefnogi nhw te?
Fi'n cefnogi Cymru, Sgarlets, Llewod a Chaerlyr (oni bai bod nhw'n chware tim o Gymru) achos bod fi ishe iddyn nhw ennill. :?
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Pwysigrwydd y Llewod

Postiogan ceribethlem » Sul 24 Mai 2009 12:22 pm

Hedd Gwynfor a ddywedodd: Y pwynt yw, fi'n hollol gyson fy marn (gweld pethau yn ddu a gwyn yn ôl eraill). Dwi ddim am gefnogi unrhyw beth sy'n defnyddio'r term Prydain, UK, DU, etc...

Ond mi wyt ti'n dethol a dewis pryd i beidio a chefnogi pethau "Prydeinig". Ti'n defnyddio pasport Prydeinig pan ei di ar dy wylie, ti'n gwylio'r BBC. Felly mi wyt ti'n "cefnogi" rhai pethau Prydeinig.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Pwysigrwydd y Llewod

Postiogan Duw » Sul 24 Mai 2009 4:57 pm

Ydy cefnogi'r Sgarlets yn wrth-Gymreig, gan adnabod sawl chwaraewr estron sy'n chwarae iddynt? Diflas yw egwyddorion anhyblyg ambell waith. :rolio:
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Pwysigrwydd y Llewod

Postiogan Hedd Gwynfor » Sul 24 Mai 2009 5:17 pm

ceribethlem a ddywedodd:Nagyw ishe i dim i ennill yr un peth a'i cefnogi nhw te?


Na.

ceribethlem a ddywedodd:Ond mi wyt ti'n dethol a dewis pryd i beidio a chefnogi pethau "Prydeinig". Ti'n defnyddio pasport Prydeinig pan ei di ar dy wylie, ti'n gwylio'r BBC. Felly mi wyt ti'n "cefnogi" rhai pethau Prydeinig.


Does dim dewis gyda fi ond defnyddio pasbort Prydeinig ar hyn o bryd, er byddai'n lot well gen i gael un Cymreig yn amlwg. Yn yr un modd, licen i weld darlledu yn cael ei ddatganoli'n llawn i Gymru, gyda sianel newydd Saesneg 'Cymreig' (WBC?) yn ogystal a S4C, a gyda'r Cynulliad/Senedd yng Nghymru yn cyllido'r holl beth, ac yn gyfrifol amdano. Ond tan bod Cymru'n annibynnol, a tan bod darlledu yn cael ei ddatganoli'n llawn i Gymru, dwi ddim am beidio defnyddio'r gwasanaethau yna. Dwi ddim yn 'cefnogi' pasbort Prydeinig na'r BBC, a dwi ddim yn cefnogi'r Llewod, ond byddai yn gwylio'r gemau.

Duw a ddywedodd:Ydy cefnogi'r Sgarlets yn wrth-Gymreig, gan adnabod sawl chwaraewr estron sy'n chwarae iddynt? Diflas yw egwyddorion anhyblyg ambell waith. :rolio:


Does gan hyn ddim byd i wneud â'r peth. Fi ddim yn cefnogi'r Llewod gan bod y tîm yn cynrychioli Prydeindod, nid oherwydd bod chwaraewyr o wledydd eraill yn chwarae i'r tîm.

Fi wedi dweud sawl tro, pe bai y tîm yn newid ei enw i'r "Lions" a'n cael gwared ar "God Save the Queen" fel yr 'anthem swyddogol', byddai dim problem gyda fi gefnogi'r tîm. Byddai cynnwys chwaraewyr o'r holl wledydd yng Nghystadleuaeth y 6 gwlad yn syniad da ac yn hytrach na chwarae yn erbyn un wlad hemisffer y de, beth am chwarae yn erbyn y 15 chwaraewr gorau o'r Tri-Nations?

Byddai'n ddiddorol gwybod os yw cefnogwyr y Llewod yn cefnogi Prydain yn y gemau Olympaidd hefyd, a beth am Lloegr yn y criced?
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Pwysigrwydd y Llewod

Postiogan Duw » Sul 24 Mai 2009 9:00 pm

Hedd Gwynfor a ddywedodd:Fi wedi dweud sawl tro, pe bai y tîm yn newid ei enw i'r "Lions" a'n cael gwared ar "God Save the Queen" fel yr 'anthem swyddogol', byddai dim problem gyda fi gefnogi'r tîm. Byddai cynnwys chwaraewyr o'r holl wledydd yng Nghystadleuaeth y 6 gwlad yn syniad da ac yn hytrach na chwarae yn erbyn un wlad hemisffer y de, beth am chwarae yn erbyn y 15 chwaraewr gorau o'r Tri-Nations?


Ger llaw Hedd, @ Ceri oedd hwnna.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Pwysigrwydd y Llewod

Postiogan ceribethlem » Llun 25 Mai 2009 7:49 pm

Duw a ddywedodd:Ydy cefnogi'r Sgarlets yn wrth-Gymreig, gan adnabod sawl chwaraewr estron sy'n chwarae iddynt? Diflas yw egwyddorion anhyblyg ambell waith. :rolio:

Eh? Ddim yn deall dy bwynt?
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Pwysigrwydd y Llewod

Postiogan ceribethlem » Iau 28 Mai 2009 1:21 pm

Cardi a Hedd, ma bach o broblem gyda chi dydd Sadwrn. Pwy chi ddim yn cefnogi? Ydych chi ddim yn cefnogi'r Llewod, neu ydych chi ddim yn cefnogi'r Royal XV?
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

NôlNesaf

Dychwelyd i Chwaraeon

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron