URC am gefnogi'r RFU

Does dim rhieni gan y reffarî

Cymedrolwr: eusebio

Rheolau’r seiat
Croeso i chi drafod unrhyw chwaraeon o beldroed neu rygbi i didliwincs! Plîs peidiwch â chreu unrhyw edefyn pêl-droed v rygbi. Mae'r math yma o edefyn yn ddiflas tu hwnt ac wedi arwain yn y gorffenol at ffraeo a checru hurt. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

URC am gefnogi'r RFU

Postiogan ceribethlem » Gwe 01 Mai 2009 7:15 am

Newyddion i ddanfon Hedd yn apoplectic :winc: Mae URC wedi cadarnhau y byddant yn cefnogi cais yr RFU yn Lloegr i fod yn hosts ar gyfer Cwpan y Byd (yr un ar ol Seland Newydd fi'n credu).
Mae'r SRU wedi penderfynnu peidio a chynnig, sdim cadarnhad eto p'un ai'r ddau dyn neu'r ci oedd yn absennol o'r cyfarfod.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: URC am gefnogi'r RFU

Postiogan Hedd Gwynfor » Gwe 01 Mai 2009 8:47 am

Dim problem gyda fi weld cydweithio rhwng Undebau, dim problem o gwbwl gyda'r RFU, na thîm Lloegr. Prydeindod dwi'n gwrthwynebu, nid Lloegr!
Syniad digon da, ond mae'n od nad yw Lloegr yn teimlo eu bod yn gallu ymgeisio ar gyfer Cwpan y Byd ar ben eu hunan gyda'r holl stadia sydd gyda nhw, a'r miliynau sy'n byw yn y wlad... :?
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: URC am gefnogi'r RFU

Postiogan Mr Gasyth » Gwe 01 Mai 2009 10:00 am

Hedd Gwynfor a ddywedodd:Dim problem gyda fi weld cydweithio rhwng Undebau, dim problem o gwbwl gyda'r RFU, na thîm Lloegr. Prydeindod dwi'n gwrthwynebu, nid Lloegr!
Syniad digon da, ond mae'n od nad yw Lloegr yn teimlo eu bod yn gallu ymgeisio ar gyfer Cwpan y Byd ar ben eu hunan gyda'r holl stadia sydd gyda nhw, a'r miliynau sy'n byw yn y wlad... :?


Ie, ond pleidleisiau'r IRB sy'n bwysig de cofia
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Re: URC am gefnogi'r RFU

Postiogan Hogyn o Rachub » Gwe 01 Mai 2009 10:33 am

Oni fyddai o'n well tasa fo'n mynd i wlad lle nad yw rygbi mor boblogaidd, fel yr Eidal neu Siapan? Be dachi'n feddwl? Mae gan y ddwy wlad honno y seilwaith a'r arian i gynnal y gystadleuaeth, ac mi fyddai'n well i ledu rygbi.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: URC am gefnogi'r RFU

Postiogan Cardi Bach » Gwe 01 Mai 2009 11:13 am

Hogyn o Rachub a ddywedodd:Oni fyddai o'n well tasa fo'n mynd i wlad lle nad yw rygbi mor boblogaidd, fel yr Eidal neu Siapan? Be dachi'n feddwl? Mae gan y ddwy wlad honno y seilwaith a'r arian i gynnal y gystadleuaeth, ac mi fyddai'n well i ledu rygbi.


Cytuno, ond mae'r corff rhyngwladol angen yr arian a ddaw yn sgil hysbysebion.
Er gwaethaf yr holl siarad am ddatblygu y gem yn rhyngwladol, pan fo'n dod i hynny neu arian, arian fydd yn ennill y dydd.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Re: URC am gefnogi'r RFU

Postiogan Macsen » Gwe 01 Mai 2009 11:21 am

Yn anffodus mae angen iddo fynd i rywle sy'n mynd i roi lot o dosh i'r IRB bob yn ail gwaith. Dyw Seland Newydd ddim yn mynd i fod yn Gwpan y Byd wneith lot o arian, oherwydd effaith yr amser bydd y gemau'n cael ei chwarae ar hysbysebu ayyb. Felly dydi nhw'm yn debygol o roi Cwpan y Byd i Japan tan 2019. Ond mae'r Eidal yn bosibilrwydd.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: URC am gefnogi'r RFU

Postiogan ceribethlem » Gwe 01 Mai 2009 11:53 am

Trueni na gafodd yr Eidal un grwp a gem go gyn derfynol (neu'n well rownd gyn derfynol) pan oedd Cwpan y Byd yn Ffrainc.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: URC am gefnogi'r RFU

Postiogan ceribethlem » Gwe 01 Mai 2009 11:53 am

ceribethlem a ddywedodd:Trueni na gafodd yr Eidal un grwp a gem go gyn derfynol (neu'n well rownd gyn derfynol) pan oedd Cwpan y Byd yn Ffrainc.

Galle Sbaen fod wedi cael ambell i gem wedi meddwl.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: URC am gefnogi'r RFU

Postiogan Macsen » Gwe 01 Mai 2009 12:23 pm

Dwin credu bod gan Lloegr ar Eidal yr un broblem - mae eu stadiwms mwya' yn berchen ar bel-droed a dyw'r clybiau rheini ddim eisiau rygbi yn corddi eu meysydd yn bwll mwdlyd yn ystod y tymor. Bydd y Liberty, Parc y Sgarlets a stadiwm newydd Caerdydd yn dioddef o rygbi beth bynnag felly waeth i rai o'r gemau gael eu cynnal fan hyn.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: URC am gefnogi'r RFU

Postiogan Duw » Gwe 01 Mai 2009 9:03 pm

Mae buddsoddiad sylweddol (arian/amser ac ati) yn gorfod cael ei wneud wrth drefnu Cwpan y Byd. Mae undebau 'aeddfed' wedi cael llawer o brofiad o hyn ac wedi 'tyfu lan' yn gyflym yn yr oes proffesiynol. A fydde undebau'r Eidal/Sbaen lan i'r dasg o drefnu CYB? Bydde'n wych i weld yr Eidal yn gwesteio'r peth, er dwi ddim yn meddwl bydd hwnna'n digwydd am sbel 'to.

Lloegr gyda chefnogaeth Cymru - gret, pam lai? Mae'n gwneud synnwyr. Faint o bobl yn Lloegr a fydde'n mynd i weld Wrwgwai vs. Siapan (e.e.)? Gall Stadiwm y Mileniwm (SM) sicrhau torf deche - llawer mwy na eiff i weld geme pel droed ryngwladol Cymru. Ching ching. Mae'r stadiwm ei hunan yn denu cefnogwyr - bydd nifer yn mentro i ddweud eu bod wedi bod 'na - hyd yn oed i weld gem nad oedd eu tim yn chwarae ynddo. Wrth glywed cymaint o enwogion y gem yn dweud taw SM oedd y lle gore'n y byd i ware, dwi'n meddwl bod y mesur hwn yn win-win.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco


Dychwelyd i Chwaraeon

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 22 gwestai

cron