Ger27 a ddywedodd:Yn anffodus mae popeth yn dod lawr i arian, felly does dim dwy waith y bydd Abertawe yn gwerthu chwaraewyr haf yma.
Does na yr un chwaraewr yn mynd i fod yn hapus yn chwarae am £4k yr wythnos i Abertawe os ydi nhw'n medru ennill tair gwaith hynny yn chwarae i glwb arall yn y Bencampwriaeth. Gyda torfeydd o dim ond 15,000, gwerthiant tocynnau tymor isel, a bil cyflogau sy'n codi tymor ar ol tymor, yr unig ffordd all Abertawe lenwi'r bwlch rhwng y turnover a costau ychwanegol ydi gwerthu chwaraewyr.
Dyna'r ffordd mae Caerdydd wedi bod yn cael ei redeg dros y 3 mlynedd diwethaf. Er mai dim ond £1m mae Caerdydd wedi ei wario ar transfer fees dros y blwyddyn diwethaf, bydd Ledley yn cael ei werthu am £5/6m er mwyn gwneud i fyny am y cyflogau uchel sydd wedi cael eu talu.
Y gwahaniaeth mawr rhwng Caerdydd a Abertawe ydi bod Caerdydd am weld cynnydd mawr yn eu incwm tymor nesaf. Dwi'n amcangyfrif bydd turnover Caerdydd am y flwyddyn ariannol 2009-10 yn agos I £20m - dwy waith un Abertawe.
Wrth gwrs mae chwaraewyr yn mynd i fynd am arian...ma Ger yn hollol iawn. Ond be sydd di cael ei profi yn y gorffennol yw pam ma chwaraewyr ni yn mynd dan Roberto fydd yna chwraewyr eraill, gwell yn dod hyd yn oed. Cawsom ni'r dadl ma o'r blan, ac fe gollwyd y ddadl gennych yn llwyr. Mae dyfodol Abertawe yn llewyrchus, ac mae ein sefyllfa ariannol y mwya llewyrchus a fydd hi erioed. Mae Roberto wedi dweud eisioes, mae ond am chwaraewyr sydd am chwarae i Abertawe, ac os ma nhw am fynd, ffein, ond da ni ishe gwerth ein arian..So, os eiff Rangel am 2m - profit 100%, (er enghraiift)..Briliant! A i topo hynny, fe fydd Roberto yn dod a right back arall mewn cystal os nad yn well....Watch this space!
Er yn cytuno da ti Ger bod chwaraewyr yn cael ei liwro da arian, ma dy bwynt di bod rhaid i ni werthu, wel, gallaf ddweud yn garedig yn rybish llwyr(wel yn ffeithiol anghywir)..wyt ti wedi clywed Roberto yn dweud bod dim angen i n i werthu chwaraewyr oherwydd rhesymau ariannol ? Ffaith. So ar y pwynt yna, mae arnai ofn dy fod yn siarad nonsens. Odi, ma bach iawn o golled ar llynnedd, ond or arian sydd da ni fel clwb, da ni mewn sefyllfa, cryf, a iachus (yn ol Roberto)
Ac i awgrymu ein bod yn cael torfeydd isel?? Wel cawn edrcy ar y ffeithiau..ond 18000 seddi sydd ar gael i 'Home' fans (ma 2000 ish ar gyfer away fans gyda cyfartlaedd yr away fans leniyn 700 a 14300 yn home fans) Amcangyfrif felly bod 79.4% o'r seddi sydd ar gael i ni yn y Liberty yn cael ei gwerthu i bob gem (+1500 ar gyfartaledd o ffans Abertawe sydd wedi bod i gemau oddi gartre)..Ffeithiau di rhain. Mae yn naturiol bod ffans sydd wedi cael los ar ol gweld ei tim yn gneud cock up mwya yn y byd, yn mynd i cal e mas ar ei brodyr!!! (Mae llyfrau therapi yn dweud hynny - sef bod person sydd yn grac neu mewn los yn cymryd ei dicter allan ar ei brawd neu aelod arall o'r teulu ) So dwi yn deall hynny, ond pidwch bod yn rhy touchy
Roedd Real Radio unwaith eto yn dangos pa mor ypset a depresd ma ffans caerydd , ac fel dwi wedi dweud eisioes, dwi yn cydymdeimlo. Roedd nifer yn son bod na turmoil enfawr yn y dressing room...Paul Parry ar boi na odd ar loan o Spartak Mosow yn cael yffarn o stwr da Dave Jones..hefyd mi roedd iw weld ar y cae, chwaraewyr yn cwympo mas dai gilydd yn ystod gem..dim fi yn dweud hyn, ond ffans Caerdydd.
Ga fi dy gywiro di Ger amy busnes 1m ma yn cael ei wario da Caerdydd ar transfer fees, beth am y £4m sub Chopra??? O pidwch dweud , ma hynny yn cael ei dalu mewn installments..hmm, fel ma'r 20m chi yn addo i Hamman a Langston and co...debts a debt ar diwedd dydd!!!!!!! Ac am y cyflogau? I mean 20,000 yr wythnos i chwaraewr odd methu hyd yn oed bod ar y subs bench, be am wages Eddie Johnson, Chopra and co??? Huge!
Dwi am roi bach o tyff lyf fan hyn i chi City bois (a dwi yn dweud hyn o ran caredigrwydd, achos dwi ddim am weld chi yn diodde mwy, na bod mewn denial...)..ond os i chi yn credu outlook Peter Risdale (un o crooks mwya erioed yn pel droed), ma hynny yn siriys delusion...da chi wir yr yn ei gredu?? Wel ma lot yn, ond ma rai wedi datgan ar radio fydd Caerdydd yn diweddu lan fath a Southampton ...
Fe nathon ni warno chi am Sam Hamman, a oedd yn arwr i chi...a wnath e neud real ffwl o Gaerdydd yn y diwedd (cofio adeg shambles Sam Hamman, ar teledu, ffan Caerdydd yn gwisgo t shirt gyda'r geiriau MUG a boi arall,boi mawr sef Gwyn Davies, sydd yn rhedeg un o'i supportres tryst yn Aberdar gyda tshirt ar geiriau BIGGER MUG)...Ie, championship football ond ar gost 0 £30m o dyled ar y pryd...fe fydd shambles yn digwydd da Risdale, mae arnai ofn........
O ran ein cyflogau ni, ma, mi wneiff Roberto ddim torri'r banc - and in Roberto we tryst!!!!
O ran chwaraewyr posib, ma Paul Anderson mae yn debyg yn mynd i ddod nol..(chwaraewr odd ar loan i ni llynnedd o Lerpwl)...winger briliant. Dyer? Byddwn ni yn meddwl ni...a ma fe a potensial enfawr...Ac ie, y chwaraewyr o Hearts a Queen of the South..Gallaf clywed rhai ohonnoch yn chwerthin, ond gwnaeth y run peth digwydd pam arwyddon ni J Scotland o St Johnstone a Rangel o dim random yn y 3ydd adran yn Sbaen...wel the rest as you say is history!!!Y gwahaniaeth yw nawr ma chwaraewyr AM ymuno a Abertawe achos y pel droed gwych da ni yn chware..Ma lot o genfigen tuag atom, a dwi yn joio hynny, achos ma hynny yn meddwl 'weve got something they havent got', fel dywed y saes!!! Plis, plis, datganiwch mwy o genfigen, mwy! mwy!Achos ma fe yn rhoi lot o fwynhad i fi gweld pobl yn cenfigennu hyd at poen o weld ein clwb ni yn llwyddo. Gwbod am rhai nath brolio dechrau tymor bod ni yn mynd i stryglan...wel , son am wy ar ei gwynebau!!! Wrong again!!!
Da ni yn glwb hapus, ffans hapus, chwaraewyr hapus...happy days!!
Fel dywedodd un ffan o Gaerdydd ar 606...
'As a bluebird it is difficult to admit that one of the best teams in the championship this year was Swansea'
Dyma'r linc..
http://www.bbc.co.uk/dna/606/A50886156 Ac wrth ymateb ir turnover o 20m Pob lwc , gobitho gewch chi fe!!! Arian yn gret, a gallwn gyd cytuno canylyniadau sydd yn cael ei gyfrif diwedd dydd.