Druan o Caerdydd

Does dim rhieni gan y reffarî

Cymedrolwr: eusebio

Rheolau’r seiat
Croeso i chi drafod unrhyw chwaraeon o beldroed neu rygbi i didliwincs! Plîs peidiwch â chreu unrhyw edefyn pêl-droed v rygbi. Mae'r math yma o edefyn yn ddiflas tu hwnt ac wedi arwain yn y gorffenol at ffraeo a checru hurt. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Druan o Caerdydd

Postiogan Dwi'n casau Cardiff City » Iau 07 Mai 2009 3:05 pm

Newydd sylwi fod y pwynt ddim mor sydyn ag o ni wedi meddwl eu gwneud hi!!

Ymddiheuriadau!!

:D :lol: :D :D
Rhithffurf defnyddiwr
Dwi'n casau Cardiff City
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 138
Ymunwyd: Gwe 15 Hyd 2004 10:52 am
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Druan o Caerdydd

Postiogan Rhods » Iau 07 Mai 2009 3:18 pm

Ger27 a ddywedodd:
Rhods a ddywedodd:HY llynnedd o ti yn convinced ein bod ni yn mynd i fod yn relegated ond nawr ma fe yn 'ddim cystal a llynnedd'

Nes i erioed tipio Abertawe am relegation. Hanner isaf oedd fy narogan i.



Ar Awst 4 y llynedd fe wedes ar y maes, wrth son am Abertawe (quote)

" Sori, fyddaim yn cynryd llawer o sylw o fixtures timau fydd yn brwydro ar waelod y tabl" :winc:

Gwbod bydde ti yn ceiso dod mas ohonni trwy ddweud bod ti heb denfyddio y gair 'relegation' , ond
ma gwaelod y tabl = relegation (ddim yn rocket science!)...a paid a trio fod fel politican yn ceisio dod mas ohonni :lol:

Tynnu dy goes eniwei Ger............ :winc:

Cytuno tho, lot o fynd a dod.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhods
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1266
Ymunwyd: Gwe 06 Ion 2006 2:17 pm

Re: Druan o Caerdydd

Postiogan Aibi » Gwe 08 Mai 2009 9:43 am

Lot o fynd a dwad o ran chwaraewyr o'r ddau ochr - ond dwi'n ama na problem fwya Abertawe fydd cadw gafael ar eu rheolwr. Efo gymaint o reolwyr yn colli eu swyddi yn gynnar yn y tymor ma Martinez yn mynd i fod ar dop nifer o restrau clybiau'r brif adran dwi'n meddwl.
Aibi
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 129
Ymunwyd: Iau 06 Hyd 2005 9:02 am
Lleoliad: Gwaith

Re: Druan o Caerdydd

Postiogan Shon » Gwe 08 Mai 2009 1:36 pm

Pwynt da gyda Martinez yn denu diddordeb. Ond mae'n fy nharo fi fel gwr gwerth ei air, a gyda'r ffaith fod Abertawe wedi dod mor agos a wedi creu cymaint o stwr yn yr adran, dwi'n ffyddiog y bydd yn teimlo fod yno lawer iawn mwy i ddod o Abertawe fel tim a ni fydd eisiau gadael mewn cyfnod mor gyffrous yn hanes y clwb.

Ond mae'r ddau dim gyda dyfodol agos disglair iawn. Mae Abertawe wedi dod mor agos i'r gemau ail gyfle, maen't wedi profi eu bod yn dim sydd yn gallu cystadlu gyda'r gorau, a fydd hyn yn ddaioni mawr yr haf 'ma pan yn denu chwaraewyr newydd. Dwi'n siwr y bydd hi'n lot haws i Martinez werthu'r clwb i bobl ar ôl tymor mor llwyddiannus.

Mae'r run sefyllfa efallai ychydig yn fwy gwir am Gaerdydd, pythefnos yn ôl mi roeddent yn edrych yn gryf iawn wrth iddynt naddu eu ffordd am yr ail safle, dim ond ffwl meddent fuasai wedi betio yn eu herbyn i fynd i fyny yn awtomatig. Ond mae Caerdydd wedi profi fod y strwythur a'r meddylfryd yno (am 90% o'r tymor beth bynnag), a dim ond ychydig o bolish sydd angen i fynd dros y llinell orffen a cyrraedd yr Uwch Gyngrair, yn union fel Wolves flwyddyn diwethaf y mae ganddynt gyfle i ddod yn ôl yn gryfach tymor nesaf. Ychwanegwch i hynny y stadiwm newydd a mae gennych becyn deniadol iawn i chwaraewyr newydd.

Mae DJ wedi cryfhau ei dim a'i safle terfynnol bob tymor ers iddo gael y swydd, a wedi ei dymor mwyaf llwyddiannus fel rheolwr, does dim rheswm i honi ni fydd yn medru'r run peth tymor nesaf. Y poen o ddod mor agos cyn methu sy'n peri i'r wasg a nifer o'r cefnogwyr alw am ei ben, ond penderfyniad ffol iawn fuasai cael gwared arno nawr.

Dwi'n edrych ymlaen i'r haf 'ma, mi ddyliai fod yn un difyr iawn o ran pwy y byddent yn ei brynu. Gobeithio y caiff chwaraewyr Cymreig ifanc fel McDonald, Blake a Morris dorri drwodd y tymor nesaf fel y gwnaeth Allen y tymor hon.
Shon
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 9
Ymunwyd: Gwe 26 Medi 2008 10:11 am

Re: Druan o Caerdydd

Postiogan Josgin » Sul 10 Mai 2009 7:10 pm

Druan o Rennes ! Ei taith yr un mor ofer a rhai Caerdydd ac Aberystwyth .
Kop Rouge v Farrar End yn yr Europa Cup flwyddyn neasf !
Josgin
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 360
Ymunwyd: Sad 17 Chw 2007 11:21 pm
Lleoliad: Gogledd pell

Re: Druan o Caerdydd

Postiogan Ray Diota » Llun 11 Mai 2009 10:36 am

Josgin a ddywedodd:Druan o Rennes ! Ei taith yr un mor ofer a rhai Caerdydd ac Aberystwyth


dwi'n cal hunllef! 3 ffeinal 3 colled!
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: Druan o Caerdydd

Postiogan garynysmon » Llun 18 Mai 2009 4:52 pm

All rywyn esbonio pam fod Caerdydd wedi osgoi cosb am y geiniog golledig ychydig wythnosau yn ol? Ddaru Casnewydd dderbyn cosb drom (ddim fod ots yn y byd gen i am y ffycars yna cofiwch). Os fysa Bangor wedi gwneud ffasiwn beth byddai bob gem am 10 mlynedd tu ol i ddrysau caeedig a dirwy o £100,000 mashwr. :rolio:

Fysa hen sinig fel fi yn credu mai ymgais i gadw Caerdydd yn 'sweet' ydi hyn i gyd.
Rhithffurf defnyddiwr
garynysmon
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4232
Ymunwyd: Maw 01 Gor 2003 4:24 pm
Lleoliad: Ynys Mon

Re: Druan o Caerdydd

Postiogan Ray Diota » Maw 19 Mai 2009 12:09 am

stori fan hyn: http://www.golwg360.com/UI/News/ViewNew ... domainID=0

ma fe wir yn anghredadwy, rili!
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: Druan o Caerdydd

Postiogan Ceiliog65 » Maw 19 Mai 2009 9:00 am

garynysmon a ddywedodd:All rywyn esbonio pam fod Caerdydd wedi osgoi cosb am y geiniog golledig ychydig wythnosau yn ol? Ddaru Casnewydd dderbyn cosb drom (ddim fod ots yn y byd gen i am y ffycars yna cofiwch). Os fysa Bangor wedi gwneud ffasiwn beth byddai bob gem am 10 mlynedd tu ol i ddrysau caeedig a dirwy o £100,000 mashwr. :rolio:


Y prif rheswm yw fod Caerdydd wedi gwneud gymaint a oedden nhw'n gallu i gosbi'r diawl. Edrych amdano ar y CCTV, cal e wedi ei arestio a gwahardd y boi am byth. Nath Casnewydd ddim byd a bydde Gwyn Pierce Owen siwr o fod wedi amddiffyn unrhywun o Fangor!! :winc:
Ceiliog65
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 7
Ymunwyd: Gwe 27 Maw 2009 9:57 am

Re: Druan o Caerdydd

Postiogan Rhods » Maw 19 Mai 2009 1:53 pm

garynysmon a ddywedodd:All rywyn esbonio pam fod Caerdydd wedi osgoi cosb am y geiniog golledig ychydig wythnosau yn ol? Ddaru Casnewydd dderbyn cosb drom (ddim fod ots yn y byd gen i am y ffycars yna cofiwch). Os fysa Bangor wedi gwneud ffasiwn beth byddai bob gem am 10 mlynedd tu ol i ddrysau caeedig a dirwy o £100,000 mashwr. :rolio:

Fysa hen sinig fel fi yn credu mai ymgais i gadw Caerdydd yn 'sweet' ydi hyn i gyd.



Falle bod e rhywbeth i neud a bod season ticket holder Caerdydd yn eistedd ar panel disgyblu yr FAW i benderfynnu ffawd Caerdydd? :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Rhods
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1266
Ymunwyd: Gwe 06 Ion 2006 2:17 pm

NôlNesaf

Dychwelyd i Chwaraeon

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 23 gwestai