http://news.bbc.co.uk/sport1/hi/rugby_u ... 042216.stm
Mae hwn yn coup enfawr i'r Gweilch chwarae teg. Os am arwyddo chwaraewyr o dramor, rhaid anelu am y gore, a mae Collins yn sicr gyda'r gore.
Cymedrolwr: eusebio
Duw a ddywedodd:Ydy hyn yn peth da? Gret i'r Gweilch yn y byr dymor. Braidd yn pissed off o ran yr holl agwedd at adeiladu tim cenedlaethol gyda 4 tim rhanbarthol i ddewis ohonynt. Sawl chwaraewr estron sydd yn y setup nawr? Wel, dim ots, gallwn wastod pigo bois o Lanelli a Chastell Nedd (jest fel ein tim pel-droed), dewis y gorau o'r ail/trydydd gynghrair.
Dwi wedi'm hollti'n llwyr - cefnogi Gweilch a hapus i weld chwaraewr mor dawnus pob wythnos, ond anhapus dros ben i weld bo eisie mynd i wledydd estron am 'ddatrysiad'.
ceribethlem a ddywedodd:Duw a ddywedodd:Ydy hyn yn peth da? Gret i'r Gweilch yn y byr dymor. Braidd yn pissed off o ran yr holl agwedd at adeiladu tim cenedlaethol gyda 4 tim rhanbarthol i ddewis ohonynt. Sawl chwaraewr estron sydd yn y setup nawr? Wel, dim ots, gallwn wastod pigo bois o Lanelli a Chastell Nedd (jest fel ein tim pel-droed), dewis y gorau o'r ail/trydydd gynghrair.
Dwi wedi'm hollti'n llwyr - cefnogi Gweilch a hapus i weld chwaraewr mor dawnus pob wythnos, ond anhapus dros ben i weld bo eisie mynd i wledydd estron am 'ddatrysiad'.
Y ddadl yw, bydd bois ifanc (Tom Smith gyda'r Gweilch er enghraifft) yn buddio llawer trwy ddysgu wrth un o gewri'r gem. Wy'n siwr fod yna wirionedd yn hynny o beth. Ochr arall y geiniog yw, bydd cael Tiatia, Collins a Holah yn rheng ol y Gweilch yn golygu bydd llai a llai o quality game time ar gyfer bois sgwad Cymry, megis Ryan Jones a Jonathan Thomas. Fi'n credu fod Ryan Jones wedi dioddef o gael ei symud o wythwr i flaenasgellwr gyda dyfodiad Tiatia, ac fod hyn wedi effeithio ar ei berfformiadau yn y chwe Gwlad.
ceribethlem a ddywedodd:Y ddadl yw, bydd bois ifanc (Tom Smith gyda'r Gweilch er enghraifft) yn buddio llawer trwy ddysgu wrth un o gewri'r gem. Wy'n siwr fod yna wirionedd yn hynny o beth.
Duw a ddywedodd:Dyw oedran yn ddim i mercenaries Seland Newydd - dal ymlaen nes eu bod wedi sugno pob ceiniog allan o'r tîm.ceribethlem a ddywedodd:Y ddadl yw, bydd bois ifanc (Tom Smith gyda'r Gweilch er enghraifft) yn buddio llawer trwy ddysgu wrth un o gewri'r gem. Wy'n siwr fod yna wirionedd yn hynny o beth.
Cytuno - yn sicr mae ware gyda'r goreuon yn gwella dy gêm, ond pa fantais sydd i'r bois sydd ar y fainc pob wythnos. Gydag enwe fel Collins - byddant yn ei ware ar bob cyfle.
Mae'n warth o beth bod aelod o garfan Cymru'n mynd i fethu gemau rhanbarthol oherwydd 'enwe mawrion'. A fydd chwaraewyr fel RJ, JT yn cael 'free transfer' i dimoedd a fydde angen eu chwarae?
AIl Reng/Rheng Ol eleni (15 chwaraewr estron):
Molitika, Rush, Tito, White, Holah, Levi, Tiatia, Maling, Easterby, Lyons, Bearman, Hall, Webb, Tomes, MacDonald.
Digon i lenwi 3 tim allan o 4 ar ben eu hunain!
Dyna'r rhai dwi'n cofio, falle bo rhagor.
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 27 gwestai