"Bro Gozh" yn "Strade de France"

Does dim rhieni gan y reffarî

Cymedrolwr: eusebio

Rheolau’r seiat
Croeso i chi drafod unrhyw chwaraeon o beldroed neu rygbi i didliwincs! Plîs peidiwch â chreu unrhyw edefyn pêl-droed v rygbi. Mae'r math yma o edefyn yn ddiflas tu hwnt ac wedi arwain yn y gorffenol at ffraeo a checru hurt. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

"Bro Gozh" yn "Strade de France"

Postiogan Ar Roue » Mer 13 Mai 2009 3:53 am

Fe glywid "Bro Gozh" anthem cenedlaethol Llydaw yn ystod gem terfynol cwpan peldroed Ffrainc yn Strade de France ac roedd baner Llydaw yn amlwg. Gwengamp a Roazhon dau dim o Lydaw oedd yn chware. Gwengamp enillodd.

Methodd yr Arlywydd fod yno i cyflwyno'r gwpan i'r tim buddigol am rhyw rheswm.

Gellir gweld fidio yma : http://www.agencebretagnepresse.com/index.php
Rhithffurf defnyddiwr
Ar Roue
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 30
Ymunwyd: Maw 23 Ion 2007 2:53 pm
Lleoliad: LLOEGR

Re: "Bro Gozh" yn "Strade de France"

Postiogan Gowpi » Mer 13 Mai 2009 10:03 am

Bro gozh va zadou - hen wlad fy nhadau yn cael ei chanu yn Stade de France? Anhygoel a gwych!
I'r rheiny nad sy'n credu bod y pethe bach yn neud gwa'niaeth, triwch rannu stafell gyda mosgito.
Rhithffurf defnyddiwr
Gowpi
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 580
Ymunwyd: Maw 16 Maw 2004 12:51 pm
Lleoliad: cadw cwmni cwn annwn

Re: "Bro Gozh" yn "Strade de France"

Postiogan Cawslyd » Mer 13 Mai 2009 11:20 am

Mi oedd tudalen flaen L'Equipe mewn Llydaweg ddwrnod y gêm, 'fyd. 'Goeul y Gelted' (ne' wbath felly) o'dd y pennawd.
Cawslyd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1832
Ymunwyd: Mer 09 Meh 2004 6:43 pm

Re: "Bro Gozh" yn "Strade de France"

Postiogan Ray Diota » Mer 13 Mai 2009 12:59 pm

ma da fi dudalen flaen l'equipe... dwi am 'i fframio fe. briliant!

ges i'n siomi gan y trefniadau o ran yr anthem... chware Bro Gozh ymhell cyn y gem wnaethon nhw yn hytrach na'i chwarae gyda'r Marseillaise reit cyn y gem...
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: "Bro Gozh" yn "Strade de France"

Postiogan Gwenci Ddrwg » Iau 14 Mai 2009 2:06 am

Tim o Lydaw di Gwengamp? Ahh cwl maen nhw'n mynd i chwarae yn erbyn OM ym Montréal. Gobeithio fydd y gêm ar y teledu fanyn hefyd.

http://www.radio-canada.ca/sports/socce ... redi.shtml

Eniwe llongyfarchiadau i Lydaw (dangoswch i'r frogs pwy ydy'r boss). Be ydy'r siawns i gael FA Cup Final rhwng Caerdydd ac Abertawe un dydd? Falle? :lol:
Rhybudd: Dysgwr hurt.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwenci Ddrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 354
Ymunwyd: Mer 12 Medi 2007 5:13 pm
Lleoliad: Toronto

Re: "Bro Gozh" yn "Strade de France"

Postiogan Josgin » Iau 14 Mai 2009 11:26 am

Rhyw 12 000 o bobl sy'n byw yn Gwengamp. Maent yn L2 (ail adran Ffrainc) . Mae hi'n dref rhyw hanner ffordd rhwng Sant Brieg/St Brieuc (gefeilldref Aberystwyth ) a Lannuon/Lannion (gefeilldref Caerffili) . Mae Stivell wedi recordio can o'r enw 'Jig Gwengamp' . Rennes yw'r prif elyn, felly 'roedd yn fuddugoliaeth felys iawn.
Cyn-chwaraewyr enwog - Stepahnae Guivarc'h , Jean-Pierre Papin (ei glwb olaf ) a Malouda a Drogba (ar yr un pryd , rhyw 6 mlynedd yn ol ) .
Rhyw 18 000 mae'r cae yn ddal, ond mae wedi newid yn anhygolel ers dechrau'r 90'au .
Josgin
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 360
Ymunwyd: Sad 17 Chw 2007 11:21 pm
Lleoliad: Gogledd pell

Re: "Bro Gozh" yn "Strade de France"

Postiogan Ray Diota » Iau 14 Mai 2009 3:15 pm

Josgin a ddywedodd:Rhyw 12 000 o bobl sy'n byw yn Gwengamp. Maent yn L2 (ail adran Ffrainc) . Mae hi'n dref rhyw hanner ffordd rhwng Sant Brieg/St Brieuc (gefeilldref Aberystwyth ) a Lannuon/Lannion (gefeilldref Caerffili) . Mae Stivell wedi recordio can o'r enw 'Jig Gwengamp' . Rennes yw'r prif elyn, felly 'roedd yn fuddugoliaeth felys iawn.
Cyn-chwaraewyr enwog - Stepahnae Guivarc'h , Jean-Pierre Papin (ei glwb olaf ) a Malouda a Drogba (ar yr un pryd , rhyw 6 mlynedd yn ol ) .
Rhyw 18 000 mae'r cae yn ddal, ond mae wedi newid yn anhygolel ers dechrau'r 90'au .


8,000 sy'n gwengamp medde nhw artho fi - y rheswm ma'r stadiwm gyment mwy na'r dref yw bod e'n dim i'r Cote d'Armor gyfan... ma hanes mowr yn perthyn i'r clwb. Cyrhaeddon nhw'r ffeinal yn 97. o'n i ar brofiad gwaith mas 'na bryd 'ny a ges i gyfweld a Marek Joswiak, pwyliad odd yn whare iddyn nhw ar y pryd... on nhw yn L1 bryd ny...

gyda llaw, dyden nhw ddim yn saff o relegation o L2 'to dwi ddim yn meddwl, fydde hynna'n catastrophe...

sai'n gwbod os mai rennes yw eu rivals mwya, chwaith... gallech chi neud cynghrair teidi mas o'r tims yn Llydaw:

Rennes
Nantes
Brest
Vannes (ffeinal y coupe de la ligue leni)
Guingamp
...
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: "Bro Gozh" yn "Strade de France"

Postiogan Josgin » Iau 14 Mai 2009 9:37 pm

Yr oedd Guingamp yn dra lwcus ynghanol y 90au . Tan hynny, roedd tim gweddol yn St Brieuc (St Brieuc Cotes d' Armor ) .
Tua 1995, tua'r cyfnod pan gododd Guingamp o'r National i D2 , a wedyn i D1 , aeth tim St Brieuc i'r wal. Maent yn CFA 1 neu CFA 2 yn awr , a fe ddiflannodd cystadleuaeth Guingamp dros nos. Mae'n wir dweud fod pobl yn dod i weld Guingamp o bob rhan o Gogledd Llydaw . Ar y ffordd o gem , mae traffig anhygoel yn mynd yn ol i gyfeiriad Lannion , neu i gyfeiriad Morlaix. Credaf fod rhai o bobl ardal Morlaix yn mynd i weld Brest a Guingamp bob yn ail.
Yn gwanwyn 1998 , pan roedd cwpan y byd y mynd ar daith o gwmpas Ffrainc, digwyddais mynd i weld Guingamp pan 'roedd y gwpan yno.
Yr oedd yna fechgyn yn cario'r gwpan o fewn 5 lathen i lle'r eisteddwn. Yr oedd yn deimlad rhyfedd meddwl nad oedd Ryan Giggs byth yn debyg o fod o fewn cyrraedd i'r gwpan yna. Nid yw Guingamp yn debyg o ddisgyn o'r ail adran, serch ei fod yn bosibl. Y melltith bob blwyddyn yw dechrau gwael iawn i'r tymor , gyda gobeithion uchel o flaen llaw . Tan i Eduardo ddechrau tanio , gwendid mawr Guingamp oedd anhawster sgorio .
Josgin
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 360
Ymunwyd: Sad 17 Chw 2007 11:21 pm
Lleoliad: Gogledd pell

Re: "Bro Gozh" yn "Strade de France"

Postiogan Josgin » Iau 14 Mai 2009 9:42 pm

Roedd Josiwak - cefnwr pwerus , yn chwedl yn Guingamp tua 10 mlynedd yn ol. Roedd yn chwaraewr medrus a caled .
Credaf fod llun ohono ar wefan swyddogol Guingamp , yn dal y gwpan y methodd ei hennill yn y 90 au .
Mae nantes mewn perygl o ddisgyn i D2 eto. Mae stadiwm nantes yn fendigedig-ond eisteddle anhygoel o serth.
Y tro diwethaf i Nantes ddisgyn i'r ail adran, dwy flynedd yn ol, fe wnaeth y cefnogwyr lifo ar y cae mewn gwrthdystiad yn erbyn y tim hyfforddi.
Josgin
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 360
Ymunwyd: Sad 17 Chw 2007 11:21 pm
Lleoliad: Gogledd pell


Dychwelyd i Chwaraeon

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai

cron