Josgin a ddywedodd:Rhyw 12 000 o bobl sy'n byw yn Gwengamp. Maent yn L2 (ail adran Ffrainc) . Mae hi'n dref rhyw hanner ffordd rhwng Sant Brieg/St Brieuc (gefeilldref Aberystwyth ) a Lannuon/Lannion (gefeilldref Caerffili) . Mae Stivell wedi recordio can o'r enw 'Jig Gwengamp' . Rennes yw'r prif elyn, felly 'roedd yn fuddugoliaeth felys iawn.
Cyn-chwaraewyr enwog - Stepahnae Guivarc'h , Jean-Pierre Papin (ei glwb olaf ) a Malouda a Drogba (ar yr un pryd , rhyw 6 mlynedd yn ol ) .
Rhyw 18 000 mae'r cae yn ddal, ond mae wedi newid yn anhygolel ers dechrau'r 90'au .
8,000 sy'n gwengamp medde nhw artho fi - y rheswm ma'r stadiwm gyment mwy na'r dref yw bod e'n dim i'r Cote d'Armor gyfan... ma hanes mowr yn perthyn i'r clwb. Cyrhaeddon nhw'r ffeinal yn 97. o'n i ar brofiad gwaith mas 'na bryd 'ny a ges i gyfweld a Marek Joswiak, pwyliad odd yn whare iddyn nhw ar y pryd... on nhw yn L1 bryd ny...
gyda llaw, dyden nhw ddim yn saff o relegation o L2 'to dwi ddim yn meddwl, fydde hynna'n catastrophe...
sai'n gwbod os mai rennes yw eu rivals mwya, chwaith... gallech chi neud cynghrair teidi mas o'r tims yn Llydaw:
Rennes
Nantes
Brest
Vannes (ffeinal y coupe de la ligue leni)
Guingamp
...