Cymru v Estonia, Parc y Scarlets, Nos Wener

Does dim rhieni gan y reffarî

Cymedrolwr: eusebio

Rheolau’r seiat
Croeso i chi drafod unrhyw chwaraeon o beldroed neu rygbi i didliwincs! Plîs peidiwch â chreu unrhyw edefyn pêl-droed v rygbi. Mae'r math yma o edefyn yn ddiflas tu hwnt ac wedi arwain yn y gorffenol at ffraeo a checru hurt. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Cymru v Estonia, Parc y Scarlets, Nos Wener

Postiogan Hedd Gwynfor » Mer 27 Mai 2009 9:53 pm

Pwy sy'n mynd draw i Barc y Scarlets yn Llanelli Nos Wener i weld Cymru yn erbyn Estonia? Gêm i gychwyn am 7.30pm.

Y garfan ar gyfer y gemau yn erbyn Estonia ac Azerbaijan yw:

Hennessey (Wolves), Myhill (Hull City), Price (Derby County)

Bale (Tottenham), Eardley (Oldham Athletic), Gunter (Tottenham), Morgan (Peterborough United), Nyatanga (Derby County), Ricketts (Hull City), A Williams (Abertawe)

Allen (Abertawe), Collison (West Ham United), D Edwards (Wolves), Tudur Jones (Abertawe), King (Caerlŷr), Ledley (Caerdydd), Ramsey (Arsenal)

Church (Reading), Earnshaw (Nottingham Forest), Evans (Manchester City), Vokes (Wolves)

Dyma'r tîm fyswn i'n hoffi gweld:

---------------Hennessey---------------

Gunter---Williams---Nyatanga---Bale

Allen----Collison----Ramsey---Ledley

-------------Vokes--Church-------------
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Cymru v Estonia, Parc y Scarlets, Nos Wener

Postiogan dewi_o » Iau 28 Mai 2009 3:54 pm

Mae'r tim yn un gryf os fydd pawb yn aros yn y garafan ac i feddwl bod y tymor wedi gorffen.

Dwi'n cytuno gyda dy dim heblaw fuaswn i'n hoffi gweld Ched Evans yn ymososd yn lle Church.
Gwyn fyd cefnogwyr pel droed Wrecsam a Chymru:
Gwyn eu byd y rhai sy'n disgwyl dim, ni chant eu siomi.
Rhithffurf defnyddiwr
dewi_o
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 213
Ymunwyd: Sul 13 Mai 2007 9:52 am
Lleoliad: Caerffili

Re: Cymru v Estonia, Parc y Scarlets, Nos Wener

Postiogan Dai dom da » Sul 31 Mai 2009 9:27 pm

Ar ol y perfformiad 'ma dwi di colli pob ffydd o'dd da fi yn Toshack, ma angen cal gwared ohono asap.
Rhithffurf defnyddiwr
Dai dom da
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3036
Ymunwyd: Gwe 05 Maw 2004 11:21 am
Lleoliad: Blaenffos / Caerfyrddin

Re: Cymru v Estonia, Parc y Scarlets, Nos Wener

Postiogan garynysmon » Llun 01 Meh 2009 5:06 pm

Mae bob gem Cymru jyst mor ddiflas yr olwg dyddia 'ma.
Rhithffurf defnyddiwr
garynysmon
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4232
Ymunwyd: Maw 01 Gor 2003 4:24 pm
Lleoliad: Ynys Mon

Re: Cymru v Estonia, Parc y Scarlets, Nos Wener

Postiogan Josgin » Llun 01 Meh 2009 9:44 pm

Diflas di'r gair . Mae perygl y bydd yr hogiau ifanc yn mynd i rigol o chwarae'n wael, a bydd holl waith da Brian Flynn yn mynd yn hen hanes .
Mae un edefyn ar 'Dragon soccer' yn rhestru chwaraewyr rhyngwladol Cymraeg ei hiaith. Mae 10 yno, gyda tua 4 ohonynt yn chwarae 'centre-forward ' !
Ni allaf, ar fy myw , feddwl am 11fed dyn. Y peth rhyfedd yw mai cymharol ddiweddar yw pob un, ac mai Wyn Davies (o'r 60/70au ) yw'r hynaf.
A oedd unrhyw un o ser '58 yn siarad Cymraeg ? . Tydwi ddim yn cofio unrhyw un arall o'r 60au a 70au na chynt yn siarad Cymraeg.
Peth rhyfedd, 'de . Y gymraeg yn edwino , ac eto mae 4 chwaraewr rhyngwladol presennol yn gallu siarad Cymraeg. Pob un yn gynnyrch ysgolion cyfrwng Cymraeg hefyd .
Josgin
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 360
Ymunwyd: Sad 17 Chw 2007 11:21 pm
Lleoliad: Gogledd pell


Dychwelyd i Chwaraeon

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 11 gwestai