Timoedd Peldroed Cymru yn Ewrop

Does dim rhieni gan y reffarî

Cymedrolwr: eusebio

Rheolau’r seiat
Croeso i chi drafod unrhyw chwaraeon o beldroed neu rygbi i didliwincs! Plîs peidiwch â chreu unrhyw edefyn pêl-droed v rygbi. Mae'r math yma o edefyn yn ddiflas tu hwnt ac wedi arwain yn y gorffenol at ffraeo a checru hurt. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Timoedd Peldroed Cymru yn Ewrop

Postiogan Hedd Gwynfor » Mer 08 Gor 2009 9:39 pm

Ti'n siwr? Dim ond rhai pethau sy'n modd gwylio yn fyw ar wefan S4C... :? Oes dolen gyda ti?
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Timoedd Peldroed Cymru yn Ewrop

Postiogan Ari Brenin Cymru » Mer 08 Gor 2009 9:50 pm

Pob lwc i dimau Cymru nos fory!
Ari Brenin Cymru
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1037
Ymunwyd: Mer 20 Gor 2005 8:32 pm
Lleoliad: Porthmadog/Aberystwyth

Re: Timoedd Peldroed Cymru yn Ewrop

Postiogan garynysmon » Mer 08 Gor 2009 10:03 pm

http://www.s4c.co.uk/c_press_level2.shtml?id=258

Sgorio: Llanelli v Motherwell, Nos Iau, 9 Gorffennaf, 6.45pm S4C, Isdeitlau Saesneg, Gwefan: s4c.co.uk/sgorio, Band llydan: s4c.co.uk/clic
Rhithffurf defnyddiwr
garynysmon
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4232
Ymunwyd: Maw 01 Gor 2003 4:24 pm
Lleoliad: Ynys Mon

Re: Timoedd Peldroed Cymru yn Ewrop

Postiogan CarwynLloyd » Iau 09 Gor 2009 5:32 am

A tim o Albania rownd nesaf felly mae bosib mynd ymlaen!!!Yn wahanol i gyngrair Lloegr dwi eisiau timau erill gwneud yn dda fel cefnogwr o Bangor aye!!!!!!
CarwynLloyd
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 37
Ymunwyd: Maw 15 Mai 2007 3:20 am
Lleoliad: Arizona

Re: Timoedd Peldroed Cymru yn Ewrop

Postiogan dewi_o » Sad 11 Gor 2009 10:52 am

Siom mawr yn y diwedd wrth i Lanelli a TNS colli. Efallai ein bod ni wedi codi obeithion Llanelli'n rhy uchel. Roedd Motherwell yn dim dipynyn well gyda'r bwlch rhwng y ddau dim yn amlwg.
Gwyn fyd cefnogwyr pel droed Wrecsam a Chymru:
Gwyn eu byd y rhai sy'n disgwyl dim, ni chant eu siomi.
Rhithffurf defnyddiwr
dewi_o
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 213
Ymunwyd: Sul 13 Mai 2007 9:52 am
Lleoliad: Caerffili

Re: Timoedd Peldroed Cymru yn Ewrop

Postiogan Josgin » Sad 11 Gor 2009 12:49 pm

TNS wedi colli yn y rownd gyntaf 11 o weithiau- heb erioed weld yr ail rownd. Oes yna wlad yn Ewrop gyda record waeth o ran ei chlybiau ?
Josgin
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 360
Ymunwyd: Sad 17 Chw 2007 11:21 pm
Lleoliad: Gogledd pell

Re: Timoedd Peldroed Cymru yn Ewrop

Postiogan Hedd Gwynfor » Maw 21 Gor 2009 6:46 pm

Mae modd gwylio'r gêm rhwng Rhyl a Partizan yn fyw nawr wrth ddilyn y ddolen isod.

http://www.iraqgoals.net/ch5.html
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Timoedd Peldroed Cymru yn Ewrop

Postiogan Hedd Gwynfor » Maw 21 Gor 2009 7:11 pm

20 munud wedi mynd, Partizan 3-0 Rhyl... :?
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Timoedd Peldroed Cymru yn Ewrop

Postiogan CarwynLloyd » Maw 21 Gor 2009 7:18 pm

CarwynLloyd
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 37
Ymunwyd: Maw 15 Mai 2007 3:20 am
Lleoliad: Arizona

Re: Timoedd Peldroed Cymru yn Ewrop

Postiogan Hedd Gwynfor » Mer 22 Gor 2009 9:44 am

Partizan 8-0 Rhyl yn y diwedd. 12-0 dros y ddwy gêm! :ofn: Y peth yw, galle Rhyl fod wedi chwarae'r ddwy gêm fel San Marino, 11 dyn tu ôl i'r bêl, a falle colli o hanner y sgor, ond wnaeth Rhyl chwarae yn ymosodol iawn, a cafwyd sawl cyfle da iawn i sgorio. Mae'n od dweud hyn, ond er colli o 8-0, fe wnaeth Rhyl chwarae'n weddol... :?

Roedd Dad a'r brawd bach mas yn Serbia yn cefnogi, gyda rhyw 30 o gefnogwyr eraill y Rhyl (Ann Jones AC yn eu plith mwy na thebyg!). Roedd gan fy mrawd faner anferth Cymru (un o'r baneri go iawn wedi gwnio, nid un o'r rhai plastig 'na). Rhedodd rhywun heibio a dwyn y faner. Welodd criw o gefnogwyr Partizan hyn, a daeth un ohonynt lan at Ioan, tynnu ei grys Partizan i ffwrdd a'i roi i Ioan fel anrheg gan fod rhywun wedi dwyn ei faner. Chwarae teg. 8)
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Nôl

Dychwelyd i Chwaraeon

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 16 gwestai