Tudalen 4 o 4

Re: Timoedd Peldroed Cymru yn Ewrop

PostioPostiwyd: Mer 08 Gor 2009 9:39 pm
gan Hedd Gwynfor
Ti'n siwr? Dim ond rhai pethau sy'n modd gwylio yn fyw ar wefan S4C... :? Oes dolen gyda ti?

Re: Timoedd Peldroed Cymru yn Ewrop

PostioPostiwyd: Mer 08 Gor 2009 9:50 pm
gan Ari Brenin Cymru
Pob lwc i dimau Cymru nos fory!

Re: Timoedd Peldroed Cymru yn Ewrop

PostioPostiwyd: Mer 08 Gor 2009 10:03 pm
gan garynysmon
http://www.s4c.co.uk/c_press_level2.shtml?id=258

Sgorio: Llanelli v Motherwell, Nos Iau, 9 Gorffennaf, 6.45pm S4C, Isdeitlau Saesneg, Gwefan: s4c.co.uk/sgorio, Band llydan: s4c.co.uk/clic

Re: Timoedd Peldroed Cymru yn Ewrop

PostioPostiwyd: Iau 09 Gor 2009 5:32 am
gan CarwynLloyd
A tim o Albania rownd nesaf felly mae bosib mynd ymlaen!!!Yn wahanol i gyngrair Lloegr dwi eisiau timau erill gwneud yn dda fel cefnogwr o Bangor aye!!!!!!

Re: Timoedd Peldroed Cymru yn Ewrop

PostioPostiwyd: Sad 11 Gor 2009 10:52 am
gan dewi_o
Siom mawr yn y diwedd wrth i Lanelli a TNS colli. Efallai ein bod ni wedi codi obeithion Llanelli'n rhy uchel. Roedd Motherwell yn dim dipynyn well gyda'r bwlch rhwng y ddau dim yn amlwg.

Re: Timoedd Peldroed Cymru yn Ewrop

PostioPostiwyd: Sad 11 Gor 2009 12:49 pm
gan Josgin
TNS wedi colli yn y rownd gyntaf 11 o weithiau- heb erioed weld yr ail rownd. Oes yna wlad yn Ewrop gyda record waeth o ran ei chlybiau ?

Re: Timoedd Peldroed Cymru yn Ewrop

PostioPostiwyd: Maw 21 Gor 2009 6:46 pm
gan Hedd Gwynfor
Mae modd gwylio'r gêm rhwng Rhyl a Partizan yn fyw nawr wrth ddilyn y ddolen isod.

http://www.iraqgoals.net/ch5.html

Re: Timoedd Peldroed Cymru yn Ewrop

PostioPostiwyd: Maw 21 Gor 2009 7:11 pm
gan Hedd Gwynfor
20 munud wedi mynd, Partizan 3-0 Rhyl... :?

Re: Timoedd Peldroed Cymru yn Ewrop

PostioPostiwyd: Maw 21 Gor 2009 7:18 pm
gan CarwynLloyd

Re: Timoedd Peldroed Cymru yn Ewrop

PostioPostiwyd: Mer 22 Gor 2009 9:44 am
gan Hedd Gwynfor
Partizan 8-0 Rhyl yn y diwedd. 12-0 dros y ddwy gêm! :ofn: Y peth yw, galle Rhyl fod wedi chwarae'r ddwy gêm fel San Marino, 11 dyn tu ôl i'r bêl, a falle colli o hanner y sgor, ond wnaeth Rhyl chwarae yn ymosodol iawn, a cafwyd sawl cyfle da iawn i sgorio. Mae'n od dweud hyn, ond er colli o 8-0, fe wnaeth Rhyl chwarae'n weddol... :?

Roedd Dad a'r brawd bach mas yn Serbia yn cefnogi, gyda rhyw 30 o gefnogwyr eraill y Rhyl (Ann Jones AC yn eu plith mwy na thebyg!). Roedd gan fy mrawd faner anferth Cymru (un o'r baneri go iawn wedi gwnio, nid un o'r rhai plastig 'na). Rhedodd rhywun heibio a dwyn y faner. Welodd criw o gefnogwyr Partizan hyn, a daeth un ohonynt lan at Ioan, tynnu ei grys Partizan i ffwrdd a'i roi i Ioan fel anrheg gan fod rhywun wedi dwyn ei faner. Chwarae teg. 8)