Tudalen 1 o 2

Abertawe, Sousa a cyfnod newydd

PostioPostiwyd: Mer 24 Meh 2009 7:58 am
gan Rhods
Ar ol y devstation a ddigwyddodd ir clwb rhai wythnosau yn ol, falch gweld nawr ein bod wedi apwyntio rheolwr newydd, Paulo Sousa ac ein bod yn gallu edrych i'r dyfodol. Rhaid cyfadde , mi roeddwn yn ofni dyfodol y clwb, ond nawr rwyf yn obeithiol a yn edrych ymlaen i'r tymor newydd...

Gyda 3 neu 4 chwaraewyr yn gadael yn yr wythnosau nesaf...fydd yna digon o arian gan Paulo i wario ar chwaraewyr newydd.

Fe fydd Scotland shwr o fynd - byddai yn siomedig pe na bawn yn cael 2m+ amdano..a ma hynny yn arian gret i chwaraewr 30+ gydag ond blwyddyn o gytundeb yn weddill. Hefyd , mae'n bosib y bydd Bodde yn mynd i Bolton , felly dyna 2m arall, a Rangel o bosib i Wigan (£3m??)..Gyda'r 2m o compo a gafon ni gan Wigan am Roberto - potensiali fe fydd yna 6-8m yn y kitty !! (hynny heb cynnwys y 2m odd Huw Jenkings wedi addo yn barod am brynnu chwaraewyr newydd)..Yn naturiol, nid yw hynny awtomatagli yn meddwl bydd chwaraewyr newydd cystal ar chwaraewyr sydd yn gadael..ond cawn weld.....

Mae Abertawe ys dywed y sais, di bod yn 'victim of its own success' a mae gelynion/sgeptis y clwb yn chware ar y dadl o'r 2nd season symdrome.....(hynny yn dod o bobl sydd yn cefnogi clybiau a byth gafodd 2nd season syndrome gan ei bod wedi bod mor average tymor/tymhorau cyn!!!)...dyw hynny ddim yn boddran fi..

Fi yn falch gwled bod Paulo ddim di rhoi targets uniongyrchol leni. Fe wedodd bydd tua 10 tim yn ymladd am dyrchafiad, ac yn gobeithio bydd Abertawe yn un o'r clybiau hynny (a mae'r gobaith yna yn perthyn i bob clwb yn yr adran o Newcastle i Scunthorpe)....Fy nharged 'personnol' i ( :winc: )yw 52 pwynt (sef y nifer o bwyntiau fel arfer sydd angen i osgoi relegation) ac ma pwyntiau ychwanegol i hynny yn bonws. Rhaid cofio ble oeddwn ni 6 mlynedd yn ol a sylwi ein bod nawr yn y 5ed adran mwya poblogaidd (yn ol stats) yn y byd...ma chware y Newcasltes, Middelsboroughs, West Broms wytnos ar ol wythnos yn ffantastig.

Rwyn hynod o falch i weld Paulo yn dweud y bydd yn dilyn athronaieth or run brand o bel droed da ni wedi bod yn chware dros y blynyddoedd diwethaf. Dyna be sydd wedi neud ni yn unique i glybiau eraill dros y blynyddoedd diwethaf. Ie, roedd hynny yn bennaf lawr i Roberto Martinez, ond dyw hynny ddim yn meddwl na fyddwn yn llwyddo hebddo.

Dwi yn gwbod bydd pobl yn cynffrynto fi am be fi yn mynd i ddweud fan hyn - ond bydd yn lot well da fi gorffen yn 13th/14th yn chware pel droed yn y ffordd cywir na gorffen yn y top 6 yn chware Hoffball.

Walker Stadium ar Awst 8? Bring it on!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!

Re: Abertawe, Sousa a cyfnod newydd

PostioPostiwyd: Iau 27 Awst 2009 3:57 pm
gan Cynyr

Re: Abertawe, Sousa a cyfnod newydd

PostioPostiwyd: Gwe 28 Awst 2009 2:49 pm
gan Rhods
Cynyr a ddywedodd:OMG :ofn:


Wrth ddarllen gwefannu Abertawe a darllen y papurau, mae yn ymddangos fod y ran fwyaf hethol yn credu bod hwn yn camgymeriad ar ran y clwb. Mae gen i hyd yn oed peth amheuon, ond pa gyfle gwell sydd gan Trundle i brofi pobl yn rong? Cawn weld ...