Dwi'm yn hollol siwr os ti'n deall strwythr criced rhyngwladol Ray.
Petai Cymru yn cael statws tim cenedlaethol, dyma'r math o dimau fyddai'r tim yn chwarae fel rhan o'r World Cricket League (h.y. gwledydd nad oes gan statws gemau prawf): Iwerddon, Kenya, Holland, Afghanistan, Yr Alban, Canada, UAE, Namibia, Bermuda, Uganda, Oman, Denmark.
Falle byddai un o'r gwledydd sy'n tourio Lloegr yn fodlon cael gem undydd bob hyn a hyn hefyd.
Os fydde ti'n gwneud tim o Gymry rwan, fydde'r tim rhywbeth fel hyn:
Rees, Bragg, Powell, Maynard, O'Shea, Wallace, Croft, Harris, Harrison, Steffan Jones, Simon Jones
Dwi'n amau'n gryf y byddai na lawer o bobl yn troi fyny i weld y tim yna'n chwarae un o'r gwledydd uchod (7 o'r rheini yn chwarae'n rheolaidd i Forgannwg). Es i i wylio Iwerddon v Morgannwg yn Nulyn rhai blynyddoedd yn ol... cwpwl o gannoedd oedd yno (a 6 ohono ni o Gymru!).