Ashes / Tîm Criced i Gymru

Does dim rhieni gan y reffarî

Cymedrolwr: eusebio

Rheolau’r seiat
Croeso i chi drafod unrhyw chwaraeon o beldroed neu rygbi i didliwincs! Plîs peidiwch â chreu unrhyw edefyn pêl-droed v rygbi. Mae'r math yma o edefyn yn ddiflas tu hwnt ac wedi arwain yn y gorffenol at ffraeo a checru hurt. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Ashes

Postiogan Darth Sgonsan » Mer 15 Gor 2009 11:57 am

Josgin a ddywedodd: Mae rheolau yr ICC yn dweud fod angen i unrhyw un sy'n dymuno chwarae gem 5-diwrnod gael cyustadleuaeth dosbarth cyntaf mewnol (mae Zimbabwe wedi bod gyda hyn, hyd yn oed). Petai Morgannwg yn cael rhyw sir Fon neu sir faesyfed i'w herio, efallai y buasai yna obaith !


sentiment neis, ond mae profiad pel-droed Cymru yn rybudd amlwg na fydd hyn yn gweithio. Nath yr awdurdodau ein gorfodi i greu Cynghrair Cenedlaethol ac mae'r tyrfeydd wedi crebachu, clybia'n ei chael yn anodd teithio un pen o'r wlad i'r llall, a'r farn yn y gogledd orllewin ydi bod y safon yn uwch pan oedd C'fon a Bangor yn chwarae yn erbyn clybiau gogledd Lloegr.

ond, ers datganoli mae pethau wedi (ac yn mynd i) newid, felly mae angen galw'r tim criced Ingland yn Tim Criced Prydain i ddangos fod yn cynrychioli chwaraewyr pedair gwlad
He who makes a beast of himself gets rid of the pain of being a man
Darth Sgonsan
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 736
Ymunwyd: Llun 23 Mai 2005 9:43 am
Lleoliad: yn pesgi ar farwolaeth mamwlad dlawd

Re: Ashes

Postiogan Josgin » Mer 15 Gor 2009 12:21 pm

O son am beldroed - mae timau criced a pheldroed Bae Colwyn yn dewis chwarae o fewn strwythyr Lloegr yn hytrach nac un Cymru.
Bradwyr x 2 .
Josgin
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 360
Ymunwyd: Sad 17 Chw 2007 11:21 pm
Lleoliad: Gogledd pell

Re: Ashes

Postiogan finch* » Mer 15 Gor 2009 12:31 pm

Dwi'n casau Cardiff City a ddywedodd:os dwi'n cofio yn iawn a wnaeth...Jacques Kallis cael ei dewis i chwarae i Gymru yn ystod y gemau yma? Bach yn fake really oedd hyn neu ydw i'n bod yn rhy 'cynical'? Dwim yn gwbo . . . .


Ma'i famgu e'n dod o Hermon, wedd hi'n dysgu mam i whare piano!
Jeff Tarango - There must be two, three thousand people here!
Michael Stich - Well is it two or three?
Rhithffurf defnyddiwr
finch*
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2090
Ymunwyd: Gwe 03 Medi 2004 12:38 pm
Lleoliad: Yn cuddio

Re: Ashes

Postiogan Hedd Gwynfor » Sul 02 Awst 2009 1:26 pm

Eitem ar rhaglen Hacio S4C yn sôn am dîm Criced i Gymru. Mae modd gweld y rhaglen am rhyw 20 diwrnod arall yma - http://www.s4c.co.uk/clic/c_level2.shtm ... =329868556

Mae'r eitem yn cychwyn am rhyw 11.20munud i mewn i'r rhaglen.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Ashes / Tîm Criced i Gymru

Postiogan Ray Diota » Gwe 21 Awst 2009 12:23 am

dwi'n amal yn gweld pethe o'r maes yn beni lan yn Golwg... ond ma'r edefyn ma di cal i throi'n erthygl ar dudalen 35 o Golwg heddi :rolio:

gyda llun o rhyw byrfyrt ar waelod y dudalen :ofn: :lol:
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: Ashes / Tîm Criced i Gymru

Postiogan Nanog » Llun 24 Awst 2009 7:26 pm

A glywoch chi'r drafodaeth heddi. Gellir gwrando arno drwy'r linc isod. Mi roedd y drafodaeth yn ystod yr hanner awr ddiwethaf sef y cwarter olaf ar ol y nwyddion. Amlwg fod Edward Bevan a Jason Mohamed yn gefnogol iawn i dim Lloegr. Yn wahanol oedd y galwadai i'r rhaglen. Gellwch glywed hefyd pam fod Bevan yn gwrthod cefnogi tim Criced Cymreig......neu'r rheswm mae e'n fodlon rhoi i'r plebs. Mwynhewch. :x


http://www.bbc.co.uk/programmes/b00m9hk1
Nanog
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 708
Ymunwyd: Llun 26 Rhag 2005 9:13 pm

Re: Ashes / Tîm Criced i Gymru

Postiogan Ger27 » Maw 25 Awst 2009 9:34 am

Nanog a ddywedodd:Amlwg fod Edward Bevan a Jason Mohamed yn gefnogol iawn i dim Lloegr. Yn wahanol oedd y galwadai i'r rhaglen.


Dwi'm yn synnu. Fyddwn i'n awgrymu bod y rhan fwyaf o bobl sy'n ymwneud a chriced yng Nghymru yn erbyn sefydlu tim criced i Gymru.

Faint o'r rheini a ffoniodd y rhaglen sydd erioed wedi bod i gem griced ac wedi dangos eu cefnogaeth i Forgannwg sgwn i? O ystyried mai dim ond cwpwl o gannoedd sy'n mynd i wylio Morgannwg, dim lot! Dwi'n ofni mai Cenedlaetholwyr, yn hytrach na cefnogwyr criced, ydi llawer o'r rheini sy'n galw am dim criced i Gymru.

Fel rhywun sy'n dilyn criced (a ddim yn cefnogi Lloegr), mi ydw i'n agored i'r syniad o gael tim criced i Gymru. Fodd bynnag, ni fyddwn i am weld unrhyw fygythiad i ddyfodol Morgannwg chwaith. Dwi'm yn meddwl bod y gefnogaeth na'r arian yng Nghymru i gynnal tim criced sirol a tim cenedlaethol.
Rhithffurf defnyddiwr
Ger27
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 343
Ymunwyd: Maw 30 Mai 2006 3:01 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Ashes / Tîm Criced i Gymru

Postiogan Ray Diota » Mer 26 Awst 2009 12:26 pm

Ger27 a ddywedodd:Dwi'm yn meddwl bod y gefnogaeth na'r arian yng Nghymru i gynnal tim criced sirol a tim cenedlaethol.


rybish. dod ag arian mewn i'r gem yng nghymru fydde tim cenedlaethol undydd yn gneud - fydde mwy yn troi lan i watsho tim cymru yn erbyn lloeger nag unrhyw 20ugain sirol...
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: Ashes / Tîm Criced i Gymru

Postiogan Ger27 » Mer 26 Awst 2009 12:46 pm

Ray Diota a ddywedodd:rybish. dod ag arian mewn i'r gem yng nghymru fydde tim cenedlaethol undydd yn gneud - fydde mwy yn troi lan i watsho tim cymru yn erbyn lloeger nag unrhyw 20ugain sirol...


Rybish. Mi fydde Cymru yn lwcus i gael un diwrnod o griced un erbyn Lloegr bob 2/3 mlynedd (Dyna be' ma'e Alban ac Iwerddon yn ei gael). Wyt ti wir yn meddwl byddai hynny'n ddigon i arianu tim i Gymru? No chance.

Mae'r rhan fwyaf o chwaraewyr Iwerddon a'r Alban yn amaturs gan na all cymdeithasau criced y 2 wlad ariannu timau proffesiynol. Mae eisoes tim amatur (gan gynnwys rhai chwaraewyr proffesiynol) yng Nghymru - Wales Minor Counties. Does neb yn myd i wylio nhw.

Os all rhywun ddod fyny hefo system ble allwn gael Tim Cenedlaethol a cynal tim Morgannwg yng Nghymru, yna gret. Dwi'n ofni bod logisteg yr holl beth yn amhosibl.
Rhithffurf defnyddiwr
Ger27
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 343
Ymunwyd: Maw 30 Mai 2006 3:01 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Ashes / Tîm Criced i Gymru

Postiogan Ray Diota » Mer 26 Awst 2009 12:59 pm

Ger27 a ddywedodd:
Ray Diota a ddywedodd:rybish. dod ag arian mewn i'r gem yng nghymru fydde tim cenedlaethol undydd yn gneud - fydde mwy yn troi lan i watsho tim cymru yn erbyn lloeger nag unrhyw 20ugain sirol...


Rybish. Mi fydde Cymru yn lwcus i gael un diwrnod o griced un erbyn Lloegr bob 2/3 mlynedd (Dyna be' ma'e Alban ac Iwerddon yn ei gael). Wyt ti wir yn meddwl byddai hynny'n ddigon i arianu tim i Gymru? No chance.

Mae'r rhan fwyaf o chwaraewyr Iwerddon a'r Alban yn amaturs gan na all cymdeithasau criced y 2 wlad ariannu timau proffesiynol. Mae eisoes tim amatur (gan gynnwys rhai chwaraewyr proffesiynol) yng Nghymru - Wales Minor Counties. Does neb yn myd i wylio nhw.

Os all rhywun ddod fyny hefo system ble allwn gael Tim Cenedlaethol a cynal tim Morgannwg yng Nghymru, yna gret. Dwi'n ofni bod logisteg yr holl beth yn amhosibl.


rybish.

1) dim lloeger yw'r unig ffacin tim yn y byd, ife? galle unrhyw wlad sy ar daith chware gem yn ein herbyn ni. A fydde'e ecseitment yn hiwj se ni yng Nghwpan y Byd rhwbryd...
2) pam fydde unrhyw un yn mynd i watsho cymru'n y ffacin minor counties?? Odd yn athro maths i'n whare iddyn nhw, ag odd e'n shit.
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

NôlNesaf

Dychwelyd i Chwaraeon

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 25 gwestai

cron