Ashes / Tîm Criced i Gymru

Does dim rhieni gan y reffarî

Cymedrolwr: eusebio

Rheolau’r seiat
Croeso i chi drafod unrhyw chwaraeon o beldroed neu rygbi i didliwincs! Plîs peidiwch â chreu unrhyw edefyn pêl-droed v rygbi. Mae'r math yma o edefyn yn ddiflas tu hwnt ac wedi arwain yn y gorffenol at ffraeo a checru hurt. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Ashes

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Iau 09 Gor 2009 2:46 pm

Hedd - heb edrych ar wefan y BBC, sut mae Morgannwg yn neud heddi?
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Re: Ashes

Postiogan Hedd Gwynfor » Iau 09 Gor 2009 4:26 pm

Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Hedd - heb edrych ar wefan y BBC, sut mae Morgannwg yn neud heddi?


Pam ti'n gofyn? :? Ai'r awgrym ti'n trio gwneud fan hyn (ac ar yr edefyn British Lions mae'n debyg) yw nad oes hawl cael barn oni bai eich bod yn rhan o griw dethol o hard-core fans (sydd wedi apwyntio eu hunan) sy'n gwrando ar y set radio bob munud o'r dydd?? Ddim yn gwybod sut mae nhw'n gwneud ar hyn o bryd, ond roedd Morgannwg yn gwneud yn dda amser cinio, yn ol newyddion BBC y teledu!!

Rhaid i fi gyfaddef nad criced yw fy hoff gamp yn y byd, ond byswn i'n sicr yn talu lot mwy o sylw pe byddai gan Gymru dîm cenedlaethol. Y peth yw, os nad yw'r 'cefnogwyr go-iawn' (yn dy dyb di) yn fodlon gwneud unrhyw beth am y sarhad cenedlaethol sy'n digwydd lawr yng Nghaerdydd wythnos 'ma, mae pobl erill yn mynd i drio codi stwr yn lle. Os ti'n hapus gyda Lloegr yn chwarae gemau cartref yng Nghymru, a bod rhaid i chwaraewyr o Gymru gynrychioli Lloegr, a gwisgo'r 3 llew ar eu crys, gyda'r dorf yn canu Jerusalem a Swing-Low (bob ochr i Delilah! :? ) digon teg, mater i ti yw hynny. Os nad wyt ti'n hapus, pam ddim trio gwneud rhywbeth am y peth??

Mae grŵp bach da ar facebook 'Tîm criced i Gymru - Wales Cricket Team' - http://www.facebook.com/group.php?gid=90316538651 yn galw am wneud Cymru yn Aelod Cyfrannog o’r I.C.C. Mae 3 neu 4 wedi cysylltu, un sy'n ymwneud yn uniongyrchol â chriced yng Nghymru, eisiau helpu, a'r bwriad yw cyflwyno deiseb i Bwyllgor Deisebau y Cynulliad yn y man yn gofyn i'r Cynulliad fel corff i gefnogi'r alwad yn swyddogol. Croeso i ti helpu os ti moyn...
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Ashes

Postiogan Ray Diota » Iau 09 Gor 2009 6:19 pm

Hedd Gwynfor a ddywedodd: yn fodlon gwneud unrhyw beth am y sarhad cenedlaethol


paid mynd dros ben llestri, hedd... dyw e ddim yn sarhad cenedlaethol... mae 'na ddwy wlad yn whare criced ac yn dod a digwyddiad mowr i'n prifddinas ni.

ma ishe tim undydd yng Nghymru, ond yn y cyfamser, ma hyn yn dipyn o sioe weden i...
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: Ashes

Postiogan Hen Rech Flin » Iau 09 Gor 2009 6:24 pm

Y ddadl dros geisio denu digwyddiadau rhyngwladol mawr i Gymru yw ei bod yn codi proffil Cymru ar lwyfan y byd ac yn gallu denu busnes a thwristiaid i'n gwlad. Hynny yw nid jyst gem o olff bydd Cwpan Ryder ond hysbyseb mawr rad ac am ddim i Gymru.

Os felly onid ydy gem y Lludw yn gwneud drwg i broffil rhyngwladol Cymru? Onid ydy o'n hysbyseb mawr sy'n cyfleu'r syniad i'r byd i gyd mae rhan fach o Loegr yw Cymru?
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Re: Ashes

Postiogan Hedd Gwynfor » Iau 09 Gor 2009 6:31 pm

Ray Diota a ddywedodd:
Hedd Gwynfor a ddywedodd: yn fodlon gwneud unrhyw beth am y sarhad cenedlaethol


paid mynd dros ben llestri, hedd... dyw e ddim yn sarhad cenedlaethol... mae 'na ddwy wlad yn whare criced ac yn dod a digwyddiad mowr i'n prifddinas ni.

ma ishe tim undydd yng Nghymru, ond yn y cyfamser, ma hyn yn dipyn o sioe weden i...


Dwi ddim yn credu fod 'sarhad cenedlaethol' yn mynd dros ben llestri o gwbwl. Petai'n fater o ddwy wlad (Cymru a Lloegr) yn chwarae gemau prawf ar y cyd, gyda'r 2 wlad yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, byddai'n un peth, h.y. i gydfynd gyda'r 'England & Wales Cricket Board' bod EWCB yn cael ei ddefnyddio, 'England & Wales' yn cael ei ddefnyddio fel enw'r tîm, y ddraig a'r 3 llew ar y crys ayb, ayb ond nid dyna'r sefyllfa. Mae Cymru jest yn ychwanegiad bach pathetig i dîm Lloegr, a fi wir methu credu sut ma' cenedlaetholwyr Cymreig yn gallu cefnogi, a gwneud esgusodion dros y fath drefniant... :? Ti'n gallu dychmygu yr Albanwyr yn derbyn y fath drefniant?!? Ie, sarhad cenedlaethol, ond dim mwy na ni'n haeddu mae'n debyg...

Ond dwi'n cytuno, mae tîm undydd i Gymru yw'r frwydr mae posib ei hennill yn y tymor byr...

(Ond 30awr wedi mynd, a Llanelli yn colli 0-2 yn erbyn Motherwell. :( )

Hen Rech Flin a ddywedodd:Y ddadl dros geisio denu digwyddiadau rhyngwladol mawr i Gymru yw ei bod yn codi proffil Cymru ar lwyfan y byd ac yn gallu denu busnes a thwristiaid i'n gwlad. Hynny yw nid jyst gem o olff bydd Cwpan Ryder ond hysbyseb mawr rad ac am ddim i Gymru.

Os felly onid ydy gem y Lludw yn gwneud drwg i broffil rhyngwladol Cymru? Onid ydy o'n hysbyseb mawr sy'n cyfleu'r syniad i'r byd i gyd mae rhan fach o Loegr yw Cymru?


Clywch, clywch!
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Ashes

Postiogan Hedd Gwynfor » Iau 09 Gor 2009 6:38 pm

Grwp bach diddordol ar facebook:

Its the England Cricket Team, NOT the England and Wales Team!

Political Correctness has gone mad, Over the past week on the run up to the Ashes, Radio and Tv sports presenters have been calling the England Cricket Team the England and Wales team!

This is rubbish (i can think of a stronger word).

If the Welsh want a Cricket Team I surgest they start one up, and not hijack ours, They should also consider them selves lucky to have a test in Cardiff.

And as for the argument that it is the English and Wales Cricket Board...well there are 3 welsh teams in the English football league but it dosen't make the England football team the England and Wales Football team.

GET YOUR OWN TEAM TAFFYS!


:lol:
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Ashes

Postiogan garynysmon » Iau 09 Gor 2009 7:12 pm

Ray Diota a ddywedodd:
Hedd Gwynfor a ddywedodd: yn fodlon gwneud unrhyw beth am y sarhad cenedlaethol


paid mynd dros ben llestri, hedd... dyw e ddim yn sarhad cenedlaethol... mae 'na ddwy wlad yn whare criced ac yn dod a digwyddiad mowr i'n prifddinas ni.

ma ishe tim undydd yng Nghymru, ond yn y cyfamser, ma hyn yn dipyn o sioe weden i...


Y ffordd orau i Gymru ddangos ei hun i'r byd ydi ar y meysydd chwarae. Mae pethau fel y Llewod, a tim Criced Lloegr yn atgyfnerthu'r ddadl mai rhan o Leogr ydi Cymru. Felly, wrth gwrs fod o'n sarhad cenedlaethol.
Rhithffurf defnyddiwr
garynysmon
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4232
Ymunwyd: Maw 01 Gor 2003 4:24 pm
Lleoliad: Ynys Mon

Re: Ashes

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Iau 09 Gor 2009 7:14 pm

Hedd Gwynfor a ddywedodd:
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Hedd - heb edrych ar wefan y BBC, sut mae Morgannwg yn neud heddi?


Pam ti'n gofyn?


Achos fi'n meddwl ei bod hi'n rhyfedd iawn bod rhywun sydd ddim yn hoffi rygbi na chriced yn mynd 'mlaen a 'mlaen a 'mlaen fel hyn yn rhyfedd.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Re: Ashes

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Iau 09 Gor 2009 7:20 pm

garynysmon a ddywedodd:
Ray Diota a ddywedodd:
Hedd Gwynfor a ddywedodd: yn fodlon gwneud unrhyw beth am y sarhad cenedlaethol


paid mynd dros ben llestri, hedd... dyw e ddim yn sarhad cenedlaethol... mae 'na ddwy wlad yn whare criced ac yn dod a digwyddiad mowr i'n prifddinas ni.

ma ishe tim undydd yng Nghymru, ond yn y cyfamser, ma hyn yn dipyn o sioe weden i...


Y ffordd orau i Gymru ddangos ei hun i'r byd ydi ar y meysydd chwarae. Mae pethau fel y Llewod, a tim Criced Lloegr yn atgyfnerthu'r ddadl mai rhan o Leogr ydi Cymru. Felly, wrth gwrs fod o'n sarhad cenedlaethol.


Sarhad cenedlaethol. Jesus Tittyfucking Christ.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Re: Ashes

Postiogan Hedd Gwynfor » Iau 09 Gor 2009 7:29 pm

Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:
Hedd Gwynfor a ddywedodd:
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Hedd - heb edrych ar wefan y BBC, sut mae Morgannwg yn neud heddi?


Pam ti'n gofyn?


Achos fi'n meddwl ei bod hi'n rhyfedd iawn bod rhywun sydd ddim yn hoffi rygbi na chriced yn mynd 'mlaen a 'mlaen a 'mlaen fel hyn yn rhyfedd.


Pam ti'n meddwl nad wy'n hoffi rygbi a chriced? :rolio:
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

NôlNesaf

Dychwelyd i Chwaraeon

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 17 gwestai