Josgin a ddywedodd: Mae rheolau yr ICC yn dweud fod angen i unrhyw un sy'n dymuno chwarae gem 5-diwrnod gael cyustadleuaeth dosbarth cyntaf mewnol (mae Zimbabwe wedi bod gyda hyn, hyd yn oed). Petai Morgannwg yn cael rhyw sir Fon neu sir faesyfed i'w herio, efallai y buasai yna obaith !
sentiment neis, ond mae profiad pel-droed Cymru yn rybudd amlwg na fydd hyn yn gweithio. Nath yr awdurdodau ein gorfodi i greu Cynghrair Cenedlaethol ac mae'r tyrfeydd wedi crebachu, clybia'n ei chael yn anodd teithio un pen o'r wlad i'r llall, a'r farn yn y gogledd orllewin ydi bod y safon yn uwch pan oedd C'fon a Bangor yn chwarae yn erbyn clybiau gogledd Lloegr.
ond, ers datganoli mae pethau wedi (ac yn mynd i) newid, felly mae angen galw'r tim criced Ingland yn Tim Criced Prydain i ddangos fod yn cynrychioli chwaraewyr pedair gwlad