Hedd Gwynfor a ddywedodd: Ni'n haeddu marw fel cenedl.
pwy wyt ti i benderfynnu 'ny de? a beth yw'n trosedd ni? mwynhau gem???
dwi byth yn mynd i fod hapus 'da cymru'n rhan o dim lloeger, a dwi'n poeni, braidd, bod tim undydd, sef y ffordd realistig ymlaen o'r sefyllfa bresennol, wedi mynd off yr agenda ar ol cael cwpwl o gemau tua dechrau'r ddegawd OND ma'r gem 'ma yn dangos twf dylanwad cymru ar lefel brydeinig, deos dim dwywaith am hynna...
y peth doniol yw na fydde un ohonoch chi bois y "sarhad cenedlaethol" wedi son am hyn heblaw bod y gem yng nghymru, chi fel petai'n gweud bo ni'n hurt i gynnal y gem 'ma achos bod sefyllfa criced yng nghymru'n anfoddhaol - cutting your nose off to spite your face yw hynna bois. Ma ishe i ni ddysgu shwt ma chware'r gem er ein budd ni... ydech chi wir yn meddwl bod y miloedd o awstraliaid odd yng nghaerdydd dros y penwthnos ddim yn sylwi 'u bod nhw yng nghymru'n hytrach na lloeger??
ta beth, sdim son ar y funud ond fydden i'n meddwl y bydd y ffaith bod stadiwm criced mowr yn annog trefnwyr i feddwl am sut i dynnu crowds draw 'na... a fydden i'n meddwl y bydd gemau cymru v lloeger yn un ffordd o neud hyn yn y dyfodol...