CPD Dinas Caerdydd

Does dim rhieni gan y reffarî

Cymedrolwr: eusebio

Rheolau’r seiat
Croeso i chi drafod unrhyw chwaraeon o beldroed neu rygbi i didliwincs! Plîs peidiwch â chreu unrhyw edefyn pêl-droed v rygbi. Mae'r math yma o edefyn yn ddiflas tu hwnt ac wedi arwain yn y gorffenol at ffraeo a checru hurt. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

CPD Dinas Caerdydd

Postiogan Hedd Gwynfor » Sad 11 Gor 2009 3:16 pm

Siwd chi'n meddwl bydd Caerdydd yn perfformio tymor nesaf? Diddorol gweld bod Dave Jones wedi chwarae 2 dîm gwahanol ar gyfer 2 hanner y gêm yn erbyn Chasetown, a bod y ddau dîm yn edrych yn gryf, sy'n awgrymu bod gan Caerdydd garfan da ar gyfer tymor nesa':

Hanner 1af: D Marshall, K McNaughton, M Hudson (capt), G Gyepes, M Kennedy, R McCormack, M Klimpl, S McPhail, C Burke, J Bothroyd, M Chopra.

2il Hanner: P Enckelman, T Capaldi, P Quinn, A Gerrard, J Ledley, A Morris, P Whittingham, G Rae, P Parry, R McCormack (Matthews '62), J Magennis.

Mae gan Caerdydd 3 ymosodwr da iawn, ac mae Dave Jones wedi arwyddo sawl amddiffynnwr, rhaid aros i weld pa mor dda yw rhain tymor nesaf. Lot o chwaraewyr canol cae da hefyd, ond fi dal ddim yn hollol siwr am Rae a McPhail...
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: CPD Dinas Caerdydd

Postiogan Ger27 » Maw 14 Gor 2009 1:44 pm

Anodd iawn ydi darogan beth fydd tynged Caerdydd tymor nesaf. Mae dal dipyn o fynd a dwad i fod haf yma. Bydd Ledley yn gadael - does dim dwy waith am hynny. Hefyd, os oes rhywun yn cynnig £4m+ am McCormack, bydd o hefyd yn gadael.

Wedi dweud hynny, dwi'n meddwl bod amddiffyn cryf ganddom ni ac o hyn dwi wedi ei weld o Marshall, mae o'n edrych yn solid yn y gol. Bydd Chopra a Bothroyd hefyd yn bartneriaid da fyny ffrynt.

Yr hyn sydd angen gwella arno ydi ganol cae. Da ni'n eithaf cryf ar yr asgell ond dal yn methu 'playmaker' o safon yn ganol cae (yn enwedig hefo Ledley yn gadael). Koumas i ddychwelyd efallai?

Y stadiwm newydd yn edrych yn dda tu mewn a bydd o'n creu dipyn o awyrgylch. Dwi'n meddwl bydd cyfartaledd torfeydd City tymor nesaf o gwmpas 22k, felly mae pethau'n argoeli'n dda bethbynnag.
Rhithffurf defnyddiwr
Ger27
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 343
Ymunwyd: Maw 30 Mai 2006 3:01 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: CPD Dinas Caerdydd

Postiogan garynysmon » Maw 14 Gor 2009 5:08 pm

Rhithffurf defnyddiwr
garynysmon
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4232
Ymunwyd: Maw 01 Gor 2003 4:24 pm
Lleoliad: Ynys Mon


Dychwelyd i Chwaraeon

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 11 gwestai

cron