Siwd chi'n meddwl bydd Caerdydd yn perfformio tymor nesaf? Diddorol gweld bod Dave Jones wedi chwarae 2 dîm gwahanol ar gyfer 2 hanner y gêm yn erbyn Chasetown, a bod y ddau dîm yn edrych yn gryf, sy'n awgrymu bod gan Caerdydd garfan da ar gyfer tymor nesa':
Hanner 1af: D Marshall, K McNaughton, M Hudson (capt), G Gyepes, M Kennedy, R McCormack, M Klimpl, S McPhail, C Burke, J Bothroyd, M Chopra.
2il Hanner: P Enckelman, T Capaldi, P Quinn, A Gerrard, J Ledley, A Morris, P Whittingham, G Rae, P Parry, R McCormack (Matthews '62), J Magennis.
Mae gan Caerdydd 3 ymosodwr da iawn, ac mae Dave Jones wedi arwyddo sawl amddiffynnwr, rhaid aros i weld pa mor dda yw rhain tymor nesaf. Lot o chwaraewyr canol cae da hefyd, ond fi dal ddim yn hollol siwr am Rae a McPhail...