Gruffo a ddywedodd:F***inel!!! Fel y gwelwch uchod, dwi di newid iaith default y bocs sky sy gyda fi o Saesneg i Gymraeg, a dwi'n watcho gem scarlets ar y teli nawr, a ma'r sylwebaeth yn Saesneg!!!!!!!! Dwi di edrych eto yn y setup, ac mae'n dweud mae Cymraeg yw fy iaith ddewisol, ond er hyn dwi'n cael sylwebaeth Saesneg!!! Yn waeth.....pan dwi'n gwasgu'r botwm coch sydd i fod i roi dewis iaith sylwebaeth i fi ar gyfer y gem, mae mond yn rhoi opsiwn i newid i 'sylwebaeth saesneg' i fi. Gan feddwl falle bo s4c wedi neud balls up o'r opsiyne iaith ar gyfer y gem ma, dwi'n gwasgu 'sylwebaeth saesneg' ar ol gwasgu'r botwm coch, i weld os naiff e newid i Gymraeg, ond na mae'n aros yn Saesneg!!!! Yr unig ffordd dwi'n gallu cael sylwebaeth Gymraeg ydy gwasgu'r botwm coch, ac yna gawsgu 'Isdeitlo'!! Dyw hyn ddim yn rhoi isdeitlau i fi, ond yn hytrach dwi'n cael sylwebaeth Gymraeg.
Oes unrhwyun arall yn cael y broblem 'ma? Ai bai S4C yw hyn, neu Sky??? Sai'n deall!!!! Ma hyn yn warthus!
Union run peth digwydd i mi. Wedi dethol 'Welsh' ar y DigiBox ac yn cael sylwebaeth Saesneg. Clicio ar y botwm coch, trio edrych am y dewis o sylwebaeth Cymraeg a dim ond yn gallu gweld 'sylwebaeth Saesneg'. Cliciais ar hwn a dal Saesneg i'w glywed. Daeth y Gymraeg wedi i mi wasgu'r botwm gwyrdd ar ôl yr holl gamau yma, a oedd yn rhoi'r dewis o 'change audio'.
Ar ol ffonio gwifren gwylwyr s4c i gwyno, mae'n debyg bod angen i fi newid dewis iaith y bocs sky nol i Saesneg fel default, er mwyn derbyn y sylwebaeth yn Gymraeg?!!! Ma hyn yn warthus ag yn embaras llwyr i S4C!!!! Beth yffarn sy mlan da nhw?!!
Ddim yn gwir. 'Welsh' oedd wedi ei ddewis yn wreiddiol. Nes i newid hi i 'English' i weld os oedd S4/C wedi newid y traciau sain o gwmpas ac yn dal i glywed sylwebaeth Saesneg.