Newydd dderbyn hwn gan S4C:
Mae S4C yn ymddiheuro am y trafferthion a’r dryswch sydd wedi parhau i’n gwylwyr gyda’r dewis iaith ar y sylwebaeth chwaraeon.
Rydym ni’n gobeithio datrys y trafferthion hynny erbyn dydd Sadwrn nesaf. Yn y cyfamser, dim ond sylwebaeth Gymraeg fydd ar gael ar gêm Cymru v Rwsia nos Fercher.
Mae’n wir ddrwg gennym am yr hyn sydd wedi digwydd, a gallwn sicrhau’n gwylwyr ein bod ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i ddatrys y sefyllfa.
Garffild Lloyd Lewis, Cyfarwyddwr Cyfathrebu S4C