Sylwebaeth Saesneg yn cael blaenoriaeth ar S4C?

Does dim rhieni gan y reffarî

Cymedrolwr: eusebio

Rheolau’r seiat
Croeso i chi drafod unrhyw chwaraeon o beldroed neu rygbi i didliwincs! Plîs peidiwch â chreu unrhyw edefyn pêl-droed v rygbi. Mae'r math yma o edefyn yn ddiflas tu hwnt ac wedi arwain yn y gorffenol at ffraeo a checru hurt. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Sylwebaeth Saesneg yn cael blaenoriaeth ar S4C?

Postiogan Hedd Gwynfor » Sad 15 Awst 2009 5:45 pm

Wedi derbyn y cyfarwyddiadau yma ar twitter ar sut i newid gosodiadau Sky, ond freeview sydd gyda fi. :? Pam ddyle ni orfod 'dewis' y Gymraeg beth bynnag? Sianel Gymraeg yw S4C!

Ar Sky mae eisiau newid yr iaith i'r Gymraeg: Services -> 4 -> 3 -> Favourite Language = Welsh -> Save New Settings
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Sylwebaeth Saesneg yn cael blaenoriaeth ar S4C?

Postiogan dafydd » Sad 15 Awst 2009 6:12 pm

Ar fy mocs digidol Freeview (Topfield PVR), dwi'n cael Cymraeg yn ddiofyn. Dwi ddim wedi newid dim byd o ran dewis iaith sain. Cymraeg yw'r iaith gynta ar y rhestr a felly hwnna yw'r dewis awtomatig.

Mae'r teledu ei hun yn un Panasonic sy'n cynnwys Freeview yn fewnol (heb focs). Roedd hwnna yn darlledu'r sain saesneg. Roedd rhaid mynd i Menu ->Sound ->Preferred Multi Audio, a dewis Cymraeg.

Dyma'r broblem sy'n gwynebu S4C (fel yr unig ddarlledwr sy'n gwneud wir ddefnydd o draciau sain dwyieithog) - dyw gwahanol declynnau ddim yn delio gyda sain amlieithog yr un fath (ac o bosib yn delio gyda fe'n anghywir).
Rhithffurf defnyddiwr
dafydd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2146
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:21 pm
Lleoliad: Anfeidredd

Re: Sylwebaeth Saesneg yn cael blaenoriaeth ar S4C?

Postiogan huwwaters » Sad 15 Awst 2009 6:29 pm

Dylai S4/C ddim fod yn cynnig gwasanaeth Saesneg O GWBWL.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Re: Sylwebaeth Saesneg yn cael blaenoriaeth ar S4C?

Postiogan dafydd » Sad 15 Awst 2009 6:52 pm

huwwaters a ddywedodd:Dylai S4/C ddim fod yn cynnig gwasanaeth Saesneg O GWBWL.

Nage'r unig reswm gafodd S4C yr hawl i ddarlledu y gemau Cymreig oedd drwy gynnig rhyw ddarpariaeth yn saesneg? Fasen i'n ddigon hapus peidio cael unrhyw bêl-droed ar S4C a felly fyddai y BBC yn ei ddarlledu yn saesneg.
Rhithffurf defnyddiwr
dafydd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2146
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:21 pm
Lleoliad: Anfeidredd

Re: Sylwebaeth Saesneg yn cael blaenoriaeth ar S4C?

Postiogan Mr Gasyth » Sul 16 Awst 2009 4:01 pm

Ma hyn yn warthus
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Re: Sylwebaeth Saesneg yn cael blaenoriaeth ar S4C?

Postiogan Rhodri Nwdls » Llun 17 Awst 2009 1:18 pm

Newydd gwyno, a ges i alwad ffôn nôl yn syth yn fy nghysuro nad nam technegol mohono, a bod y broses o'i newid yn syml iawn.

Ond nid dyna'r pwynt.

Dywedodd y boi ei bod hi wedi bod un ai'n ddewis o wneud y system weithio y ffordd hyn, neu wyrdroi'r dewisiadau a rhoi'r trac sain Cymraeg ar gyfer y carrier 'Saesneg' a vice versa. Byddai hyn wedyn yn rhoi trac sain Cymraeg ar gyfer unrhyw un sydd a'u set wedi gosod i 'Saesneg' fel y default, ond byddai siwr o fod wedi conffiwsio/gwylltio pobol oedd a'u bocs wedi ei osod i'r Gymraeg yn barod.

Dwi'n deall taw dim ond un waith mae'n rhaid newid, ond ddylai neb orfod newid gosodiadau technegol eu bocs/teledu er mwyn cael y gwasanaeth Cymraeg. Ffwc o ots gen i os mae na drac sain opsiynol Saesneg, ond os mae'n amharu ar y trac Cymraeg mewn unrhyw ffordd, ddylai'r un Saesneg ddim cael ei ddarlledu. Ddylen nhw un ai sticio at fotwm coch, lle mae'n opsiynol i gael trac Saesneg (er nath y boi ar y ffôn ddeud wrtha i nad yw botwm coch yn gweithio ar Freeview (nacdi? - ma'n gweithio gen i ar deledu digidol Panasonic i ddewis sylwebaeth Radio Cymru ar gemau rhyngwladol)), neu beidio darlledu trac Saesneg o gwbl. Mae'n hollol annerbyniol bod posib cael trac Saesneg yn gyntaf ar S4C Digidol a hynny o ganlyniad i bolisi rhaglennu sy'n ymgais wan i ddenu mwy o wylwyr di-Gymraeg.
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Re: Sylwebaeth Saesneg yn cael blaenoriaeth ar S4C?

Postiogan dafydd » Llun 17 Awst 2009 2:31 pm

Mae S4C wedi gwneud tipyn o goc-yp ynglyn a'r gwasanaethau botwm coch. Ar ôl gwario miliynau ar y gwasanaeth (a'i lansio gwta ddwy flynedd nol ar Freeview) mae'n gorfod diflannu mis Medi oherwydd fod S4C yn newid i Mux 2 a fydd ddim lle ar gyfer y gwasanaeth testun digidol (dweud y gwir mae'n edrych fel petai e wedi mynd yn barod).

O ran y trac sain, efallai dylech chi gwyno i'r gwneuthurwyr setiau digidol sydd ddim wedi dilyn y canllawiau technegol, sydd wedi bod ar gael gan y DTG ers blynyddoedd? Dyw llawer o'r bocsys ddim yn gallu dangos acenion Cymraeg yn gywir chwaith er fod hynny'n rhan o'r safonau. Fel dwi'n dweud roedd e'n gweithio'n iawn i fi heb unrhyw newid.
Rhithffurf defnyddiwr
dafydd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2146
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:21 pm
Lleoliad: Anfeidredd

Re: Sylwebaeth Saesneg yn cael blaenoriaeth ar S4C?

Postiogan garynysmon » Llun 17 Awst 2009 4:46 pm

Dim un ohonoch yn arfer gwylio'r senedd ar S4C2 felly? Yr un system oedd yn boboli efo hwnnw hefyd.
Rhithffurf defnyddiwr
garynysmon
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4232
Ymunwyd: Maw 01 Gor 2003 4:24 pm
Lleoliad: Ynys Mon

Re: Sylwebaeth Saesneg yn cael blaenoriaeth ar S4C?

Postiogan darren edwards » Llun 17 Awst 2009 8:40 pm

Rhaid cytuno fod hyn yn ffycin warthus. Freeview sda fi hefyd - dim modd ffeindio'r opsiwn Cymraeg ar unrhyw fotwm coch. Oes rhywun yn mynd i gael y sac am hyn te?
Rhithffurf defnyddiwr
darren edwards
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 43
Ymunwyd: Gwe 06 Meh 2003 4:36 pm

Re: Sylwebaeth Saesneg yn cael blaenoriaeth ar S4C?

Postiogan eusebio » Iau 20 Awst 2009 8:57 am

Dyma gopi o ddatganiad ges i gan S4C y bore 'ma:
S4C a ddywedodd:Yn dilyn darllediad byw cyntaf Sgorio Cymru, fe gysylltodd nifer o wylwyr ag S4C am eu bod yn anfodlon gyda’r dull o ddewis sylwebaeth yn y Gymraeg yn ystod y rhaglen.

Rydym wedi ystyried barn a sylwadau’r gwylwyr ac rydym am gymryd y camau canlynol.

Dros yr wythnosau nesaf fe fydd S4C yn adolygu’r modd y cynigir opsiwn iaith y sylwebaeth, fel rhan o’r newidiadau digidol sydd ar y gweill, er mwyn sicrhau’r gwasanaeth gorau i’n cynulleidfa Gymraeg.

Yn y cyfamser, er mwyn gwarchod buddiannau’r gwylwyr Cymraeg eu hiaith, dim ond sylwebaeth Gymraeg fydd ar gael am y tro ar bob llwyfan digidol yn ystod y rhaglen.

Hoffai S4C ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra a achoswyd yn ystod y dyddiau diwethaf
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

NôlNesaf

Dychwelyd i Chwaraeon

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 11 gwestai

cron