Tudalen 4 o 4

Re: Sylwebaeth Saesneg yn cael blaenoriaeth ar S4C?

PostioPostiwyd: Llun 07 Medi 2009 4:24 pm
gan Hedd Gwynfor
Newydd dderbyn hwn gan S4C:

Mae S4C yn ymddiheuro am y trafferthion a’r dryswch sydd wedi parhau i’n gwylwyr gyda’r dewis iaith ar y sylwebaeth chwaraeon.

Rydym ni’n gobeithio datrys y trafferthion hynny erbyn dydd Sadwrn nesaf. Yn y cyfamser, dim ond sylwebaeth Gymraeg fydd ar gael ar gêm Cymru v Rwsia nos Fercher.

Mae’n wir ddrwg gennym am yr hyn sydd wedi digwydd, a gallwn sicrhau’n gwylwyr ein bod ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i ddatrys y sefyllfa.

Garffild Lloyd Lewis, Cyfarwyddwr Cyfathrebu S4C