gan joni » Iau 03 Medi 2009 8:06 am
TNS yn edrych yn gryf iawn - sai'n gwbod os bydd unrhywun yn gallu dal nhw. Falle Llanelli os yw Legg yn sorto ei hunan mas fel rheolwr.
Er bod hi dal gynnar, o'n i'n disgwyl mwy gan Castell Nedd leni wedi buddsoddiad.
Dwi'n meddwl hefyd bydd Port Talbot yn cael tymor da leni.
Dwi'n poeni braidd am Aber (fy nghlwb i) leni. O'n nhw'n warthus dydd sadwrn. Ma 'na si ar led bod gwrthdaro yna ers i Jake King dod mewn fel cynorthwy-ydd i Brian Coyne.