Cymru v Rwsia
Postiwyd:
Mer 09 Medi 2009 6:02 pm
gan Hedd Gwynfor
Dyma'r garfan: Hennessey (Wolves), Myhill (Hull), Price (Brentford), Collins (Aston Villa), Eardley (Blackpool), Gabbidon (West Ham United), Gunter (Nottingham Forest), Morgan (Peterborough United), Ricketts (Bolton Wanderers), Williams (Abertawe), Ribeiro (Bristol City), Cotterill (Sheff Utd), Edwards (Wolves), Ledley (Caerdydd), Ramsey (Arsenal), Stock (Doncaster), MacDonald (Abertawe), Bellamy (Man City), Evans (Sheff Utd), Earnshaw (Nottingham Forest), Vokes (Wolverhampton Wanderers). Collison (West Ham) a Church (Reading) ddim yn debygol o chwarae ar ol colli eu Tadau.
Byswn i'n hoffi gweld Toshack yn chwarae 4-4-1-1 gyda'r chwaraewyr yma:
-----------------Hennessey-----------------
Ricketts----Collins----Williams----Gunter
Cotterill-----Ramsey-----Stock-----Ledley
---------------------------Bellamy-----------
---------------------Evans-------------------
Pa dim hoffech chi i Toshack ddewis?
Re: Cymru v Rwsia
Postiwyd:
Mer 09 Medi 2009 6:03 pm
gan Hedd Gwynfor
Mae dolenni ar y dudalen isod lle gellir gweld y gêm arlein. Derychwch am y rhai 'MediaPlayer'.
http://myp2p.eu/broadcast.php?matchid=48033&part=sports
Re: Cymru v Rwsia
Postiwyd:
Mer 09 Medi 2009 7:34 pm
gan Hedd Gwynfor
Dyma'r ddolen orau dwi wedi darganfod i weld y gêm:
http://www.justin.tv/sportstimeCymru yn chwarae yn wych chwarae teg, ond yn colli 0-1 hanner amser :-s
Re: Cymru v Rwsia
Postiwyd:
Mer 09 Medi 2009 8:43 pm
gan Ray Diota
jolch iti am y dlenni hedd!
Re: Cymru v Rwsia
Postiwyd:
Mer 09 Medi 2009 8:53 pm
gan Hedd Gwynfor
SIomedig iawn gyda'r canlyniad yn y diwedd. Roedd Cymru'n haeddu gêm gyfartal o leiaf. Yr un hen broblemau, neb sy'n gallu sgorio a camgymeriadau bach yn y cefn!
Re: Cymru v Rwsia
Postiwyd:
Mer 09 Medi 2009 10:00 pm
gan Josgin
Dyna'r broblem gyda system Toshack. Dim ymosodwr go iawn yn y blwch cosbi, a'r trydydd 'centre-back' yn gwneud camgymeriad.
Perfformiad gweddol, ond tydi hynny ddim yn cyfrif.Os gollith y tim yn erbyn y Ffindir, mae'n hen bryd i Toshack fynd . Canlyniadau uffernol ym mhobman arall .
Re: Cymru v Rwsia
Postiwyd:
Iau 10 Medi 2009 11:16 am
gan Mr Gasyth
Josgin a ddywedodd:Dyna'r broblem gyda system Toshack. Dim ymosodwr go iawn yn y blwch cosbi, a'r trydydd 'centre-back' yn gwneud camgymeriad.
Perfformiad gweddol, ond tydi hynny ddim yn cyfrif.Os gollith y tim yn erbyn y Ffindir, mae'n hen bryd i Toshack fynd . Canlyniadau uffernol ym mhobman arall .
A pwy i gymryd ei le Einstein?
Re: Cymru v Rwsia
Postiwyd:
Gwe 11 Medi 2009 1:03 pm

dwi'n
dechre cytuno... ma colli gatre 3-1 a chware 5-4-1 yn ddiflas. os na fyddwn ni'n gweld gwellianne yn y geme sydd i ddod, fydda i'n dechre meddwl bod ishe newid cyn yr ymgyrch nesa. Dwi jyst mor BORED, bois bach!
Re: Cymru v Rwsia
Postiwyd:
Gwe 11 Medi 2009 1:09 pm
gan Ray Diota
Mr Gasyth a ddywedodd:Josgin a ddywedodd:Dyna'r broblem gyda system Toshack. Dim ymosodwr go iawn yn y blwch cosbi, a'r trydydd 'centre-back' yn gwneud camgymeriad.
Perfformiad gweddol, ond tydi hynny ddim yn cyfrif.Os gollith y tim yn erbyn y Ffindir, mae'n hen bryd i Toshack fynd . Canlyniadau uffernol ym mhobman arall .
A pwy i gymryd ei le Einstein?
Brian Flynn yw'r dewis amlwg, er ei fod yn rhan o 'dim' Toshack. Dwi di arddel y ddadl 'sneb gwell i gal' yn y gorffennol ond, iesu, dyw e ddim yn lot o amddiffyniad, nagyw? Ma Tosh wedi gweddnewid y system ond ma'n rhaid dechre gofyn cwestiynau am ei dactegau ar y cae, does bosib... dwi dal yn meddwl mae'r ffordd gore o gal canlyniad yn erbyn y timau mawr megis Rwsia yw mynd amdanyn nhw ffwl ffacin pelt a gweld sht ma nhw'n handlo fe. Ma 5-4-1 gatre jyst yn gofyn am drwbwl.
Yr unig reswm, bron, dwi'n dal i gefnogi Tosh yw canlyniadau'r tim dan 21 ond ma'n rhaid dangos mwy mewn geme a hynny'n gloi fyd.