Tudalen 1 o 1

Ffindir v Cymru

PostioPostiwyd: Iau 08 Hyd 2009 11:00 pm
gan Hedd Gwynfor
Llwyth o chwaraewyr mas oherwydd anafiadau. Dyma'r garfan gall Toshack ddewis ohoni:

Wayne Hennessey (Wolves), Boaz Myhill (Hull), Lewis Price (Brentford, on loan from Derby), Gareth Bale (Tottenham), James Collins (Aston Villa), Neal Eardley (Blackpool), Chris Gunter (Nottingham Forest), Craig Morgan (Peterborough), Lewin Nyatanga (Bristol City), Ashley Williams (Swansea), David Cotterill (Sheffield United), David Edwards (Wolves), Aaron Ramsey (Arsenal), David Vaughan (Blackpool), Craig Bellamy (Manchester City), Simon Church (Reading), Rob Earnshaw (Nottingham Forest), Sam Vokes (Wolves).

Dyma'r tim fyswn i'n dewis 5-3-2:

...............................Wayne Hennessey...............................

..........James Collins.....Ashley Williams.....Lewin Nyatanga..........

Chris Gunter......................................................Gareth Bale

...........David Cotterill.....Aaron Ramsey.....David Edwards...........

.........................Sam Vokes.....Craig Bellamy........................

Re: Ffindir v Cymru

PostioPostiwyd: Gwe 09 Hyd 2009 8:51 am
gan Cynyr
Edrych yn lein yp digon teg Hedd. Y canol cae sy'n poeini fi!!
Ma wir angen 6 phwynt o'r ddwy gem yma. Jest gobeithio fod Tosh yn mynd i chwarae dau yn y blaen


O, ie. Dyma erthygl i godi calon
cylchgrawn Golwg, erthygl tud. 34 a ddywedodd:Gyda llai na 15,000 o ffyddloniaid wedi gwylio Cymru yn colli 3-1 gartref yn erbyn Rwsia ddechrau Medi, mae'n boenus meddwl faint o seddi gwag fydd yn Stadiwm y Mileniwm nos Fercher i groesawu Lichtenstein


hhhmmmmmm :? :ofn: :?

Re: Ffindir v Cymru

PostioPostiwyd: Gwe 09 Hyd 2009 10:12 am
gan Hedd Gwynfor
Bois bach, co ni off de!! :ofn: :?

BBC Cymru a ddywedodd:David Cotterill yw'r diweddaraf i orfod gadael carfan Cymru sy'n paratoi i wynebu'r Ffindir yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2010 ddydd Sadwrn.

A daeth rhagor o ofid i John Toshack fore dydd Gwener pan ni lwyddodd Robert Earnshaw i gwblhau sesiwn ymarfer oherwydd anaf i'w goes.

Mae ymosodwr Sheffield United, Cotterill, wedi hedfan yn ôl i Brydain oherwydd "rhesymau personol".

O ganlyniad, dim ond 17 chwaraewr sydd bellach ar ôl yng ngharfan Cymru a bydd dau o'r chwe eilydd fydd ar y fainc ar gyfer y gêm yn Helsinki yn gôl-geidwyr.


Dyma fy nhim i felly. Ddim yn anodd iawn, gan nad oes unrhyw chwaraewr canol cae arall ar ôl!!!

...............................Wayne Hennessey...............................

..........James Collins.....Ashley Williams.....Lewin Nyatanga..........

Chris Gunter......................................................Gareth Bale

...........Aaron Ramsey........David Edwards......David Vaughan.......

.........................Sam Vokes.....Craig Bellamy........................

Eilyddion: Glyn Myhill (Gol), Lewis Price (Gol). Neal Eardley (Amddiffyn), Craig Morgan (Amddiffyn), Simon Church (Ymosodwr) + falle Rob Earnshaw (Ymosodwr) os yw'n iach!!

Re: Ffindir v Cymru

PostioPostiwyd: Gwe 09 Hyd 2009 11:32 am
gan joni
Dwi'n credu dyle ni rhoi Dean Saunders ar y fainc. Deano! Deano! Deano!

Re: Ffindir v Cymru

PostioPostiwyd: Gwe 09 Hyd 2009 12:32 pm
gan Josgin
Hanner tim yr Alban wedi tynnu allan o'i gem ( wirion) yn Siapan.
Petai gem yfory'n gem ail-gyfle i fynd i gwpan y byd , mi fuasai yna ddwsinau'n troi fyny.
Pam bod chwaraewyr Cymru'n llai gwydn nac unrhyw un arall , dwch ?
Mae mympwy Ryan Giggs wedi fel petai dod yn 'norm' bellach.
Da gweld fod newyddiaduraeth 'Golwg' mor gywir
Nodweddiadol o'r rhacsyn.