Tudalen 1 o 1

Crysau Duon

PostioPostiwyd: Llun 09 Tach 2009 9:40 pm
gan Duw
Rhywun arall fan hyn yn teimlo'n fflat ar ol dy' Sadwrn? Ffili credu perfformiad hanner awr ar ol y toriad. Ie, ie, deall bo NZ wedi ware'n well, ond bois bach.

Gatland yn conan am y reff. Mae gennyf lwyth o barch tuag atr WG, ond mae'r holl busens o gonan ar ol colli yn gadael blas cas yn y geg. Trueni sa fe'n gau'i drap a chanolbwyntio ar chwalu'r tim nesa. :rolio:

Re: Crysau Duon

PostioPostiwyd: Mer 11 Tach 2009 11:57 am
gan Doctor Sanchez
Odd y reff yn gachu dydd Sadwrn eto. Dwi jesd ddim yn dalld sud ma'r "cheating all black bastads" yn cael get awe efo mynd i fewn i'r sgarmesi o'r ochr, gorfadd ar ben y bel a rhoi eu dwylo drosti i slofi'r bel i lawr dro ar ol tro. Ma'r IRB wirion ma di stopio rycio go iawn, so elli di ddim sathru'r contiad o'r ffor ne chdi sy'n mynd i'r cell callio am ddeg munud.

Yr un mwya blatant oedd flwyddyn dwytha pan nath Stephen Jones neud y brec am y lein. Ddoth Richie McCaw i fewn odd ar i draed a slofi'r bel lawr ddigon i sdopio ni sgorio. Mi gathon ni y gic gosb am ymddygiad sinicaidd McCaw ond mi ddylia'r reff fod wedi gyrru'r cwd i'r gell am ddeg munud. Dyna be gafodd y cerdyn melyn ei ddyfeisio ar ei gyfer. Cosbi chwarae negyddol.

Er hyn doeddan ni ddim yn haeddu curo. Gormod o gicio gin Hook a troi'r bel drosodd.

Ymdrech lew.

Re: Crysau Duon

PostioPostiwyd: Mer 11 Tach 2009 11:34 pm
gan Duw
Ffili anghytuno 'da ti Sanch, er mae'r Cryse Duon yn 'streetwise' - os ydyn nhw'n cael getaway 'da fe, mae lan i'r bois eu hatal neu ware'r un gêm. Gallwch ond ware'r gêm mae'r reff yn ei ganiatau. Mae'r cryse duon pob amser yn gwthio'r ffinie ac yn edrych am 'edge'.

Dwi ddim ishe gweld ochre rygbu'n syrthio i'r 'lowest common denominator' ond, mae ishe defnyddio smarts. Stim pwynt conan ar ol y gem pan mae'n rhy hwyr i wneud unrhyw beth am y canlyniad. Ishe edrych am reolaeth yn ystod y gêm.

Y gwir amdani pelled dwi'n gweld odd methiant llwyr ar gadw meddiant a chicio digyfeiriad. Er yn ddadleuol, ro'n i'n meddwl roedd y sgrym yn shambls. Dyw'r rheng ol ddim yn gwthio'u pwyse. Ac ma ishe pen-tynn yn wael.