Tudalen 1 o 1

Samoa Mawr

PostioPostiwyd: Gwe 13 Tach 2009 10:27 pm
gan Duw
Be ddiawl oedd hwnna heno? Samoa bron ennill ar ol 3 diwrnod gyda'i gilydd?
Mae'r bois yn cymryd y pis.
Wedes i wthnos dwetha - ishe prop pen-tynn. Chwalfa ar ochr pella'r sgrym - dim siap arno.
Hook - probleme gweledigaeth pan fydd angen cael gwared o'r bel - nid yw spoto bwlch yn ddigon gwd boi.
Powell - ishe cropo'i goese - fel ffowlyn gyda'i ben wedi torri off - fflaren

Tsinc o ole - Jonathan Davies (nid y sylwebydd!) a Warburton (er cachodd lan cwpwl o withe). Peel yn iawn hefyd. Bydd Gatland yn cachu brics cyn gêm yr Ariannin.

Re: Samoa Mawr

PostioPostiwyd: Sul 15 Tach 2009 2:48 pm
gan Gowpi
Nes i edrych ar ran fwyaf o'r gem drwy fy mysedd - pan odd Samoa gyda'r bel, odd gwirioneddol siawns gyda nhw, ac o'n nhw ar dan, pan odd y bel gyda 'ni', rhygnu ymlaen dro ar ol tro...

Re: Samoa Mawr

PostioPostiwyd: Sul 15 Tach 2009 4:32 pm
gan Duw
Sori mynd off piste ychydig, ond dwi'n gwylio Iwerddon/Awstralia - ar LivePause ar y funud. Meddwl o'n i bo Paul O'Connell yn edrych fel Mean Machine o'r ffilm Judge Dredd! Cytuno?
mean.png
mean.png (370.81 KiB) Dangoswyd 2350 o weithiau
paul.png
paul.png (126.38 KiB) Dangoswyd 2350 o weithiau