Cymru v Ariannin

Does dim rhieni gan y reffarî

Cymedrolwr: eusebio

Rheolau’r seiat
Croeso i chi drafod unrhyw chwaraeon o beldroed neu rygbi i didliwincs! Plîs peidiwch â chreu unrhyw edefyn pêl-droed v rygbi. Mae'r math yma o edefyn yn ddiflas tu hwnt ac wedi arwain yn y gorffenol at ffraeo a checru hurt. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Cymru v Ariannin

Postiogan Hedd Gwynfor » Maw 17 Tach 2009 6:30 pm

Be chi'n meddwl am y tîm mae Gatland wedi'i ddewis?

Cymru: James Hook (Gweilch); Halfpenny (Gleision), Shanklin (Gleision), J Roberts (Gleision), S Williams (Gweilch); S. Jones (Scarlets), Cooper (Gleision); Jenkins (Gleision), Rees (Scarlets), P James (Gweilch), A W Jones (Gweilch), Charteris (Dreigiau), Powell (Gleision), M Williams (Gleision), R Jones (Gweilch, capt).
Eilyddion: Bennett (Gweilch), D Jones (Gweilch), Davies (Gleision), Lydiate (Dreigiau), Peel (Sale), Bishop (Gweilch), James (Gleision).

Poeni am Paul James. Odd e'n weddol yn erbyn Seland Newydd, ond cafodd y sgrym bach o chwalad yn erbyn Samoa. Dwi ddim am weld Gethin Jenkins yn symud i fod yn brop pen-tynn felly does dim lot o ddewis ond Paul James (oni bai bod Gatland yn gwneud SOS am Eifion Lewis-Roberts, ond dwi ddim yn gweld hynny'n digwydd!!)

Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Cymru v Ariannin

Postiogan Duw » Maw 17 Tach 2009 8:59 pm

Nid yw Paul James lan i'r safon, fel dwi wedi dweud ar byst cynt - wel dim 'to beth bynnag. Ti'n meddwl gwnaeth wneud jobyn gweddol erbyn y Kiwis, dwi'n meddwl cafodd grasfa. Cafodd waeth grasfa yn erbyn y Samoa. Dwi'n disgwyl iddo cael crasfa ei fywyd yn erbyn yr Archentwyr. Bydd yn b'nawn hir uffernol iddo. Yn anffodus, bydd hyn yn tynnu ar egni'r ail-rheng ac atal y blaenasgellwyr/wythwr rhag torri'n gyflym ac amddiffyn yn effeithiol.

Os nac oes sgrym cadarn, ffradach ydyw. Ychydig o feddiant o safon caiff 9 a 10 felly. Gorfod cymhennu pêl anniben a suddo i gêm yr ymwelwyr.

Bydd yr Archetwyr yn cadw'i dynn neu cicio i wthio camgymeriade, yn edrych ymlaen i bob sgrym, sugno egni'r bois mewn coch.

Ni fydd yn bert.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Cymru v Ariannin

Postiogan Duw » Sad 21 Tach 2009 4:57 pm

Crist o'r nef! Cymru'n ennill! Ware lot yn well, er dal digon o walle. Paul James wedi gwneud yn well hefyd, ware teg iddo. 33-16 ddim rhy ffol.

Wyndran beth bydd yn digwydd i'r rankings nawr, gweld ein bod y sefyllfa bresennol:
rankings.png
rankings.png (157.52 KiB) Dangoswyd 3364 o weithiau
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Cymru v Ariannin

Postiogan dewi_o » Sad 21 Tach 2009 6:18 pm

Dylai'r cais gyntaf wedi cael ei ganiatau. Os wnaeth y reffari gyrru'r Arianin yn ol dyla fe wedi rhoi mwy o amser iddyn nhw ?
Gwyn fyd cefnogwyr pel droed Wrecsam a Chymru:
Gwyn eu byd y rhai sy'n disgwyl dim, ni chant eu siomi.
Rhithffurf defnyddiwr
dewi_o
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 213
Ymunwyd: Sul 13 Mai 2007 9:52 am
Lleoliad: Caerffili


Dychwelyd i Chwaraeon

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron