6 Gwlad

Does dim rhieni gan y reffarî

Cymedrolwr: eusebio

Rheolau’r seiat
Croeso i chi drafod unrhyw chwaraeon o beldroed neu rygbi i didliwincs! Plîs peidiwch â chreu unrhyw edefyn pêl-droed v rygbi. Mae'r math yma o edefyn yn ddiflas tu hwnt ac wedi arwain yn y gorffenol at ffraeo a checru hurt. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Lloegr v Cymru

Postiogan Duw » Maw 09 Chw 2010 5:28 pm

Drato. Rhys Gill allan. Un o'n cyn-fyfyrwyr. Cooper - blydi ffars. AWJ - dylai fod ar gosb - blydi pen pop.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Lloegr v Cymru

Postiogan Cardi Bach » Mer 10 Chw 2010 11:31 am

Er mod i'n credu fod AWJ yn rhy werthfawr i'w golli, rhaid dweud mod i'n teimlo dros Charteris. Gas e ddim gem wael (ddim y gorau, ond ddim yn wael), ac mae'n cael y drop, tra fod AWJ wnaeth rhywbeth hynod dwp (greddfol, ond twp) yn cadw ei le. Pwy neges ma hwnna'n ei gyfleu?

Cyfle arall i gareth Williams? 20 munud ar y mwya weden i - os nad yw'r lein yn gweithio yn y chwarter cynta yna off ag e. yr un modd cooper. Galla i ddeall yr angen am brofiad ar lefel uchel, ond mae gan y mewnwr Ryan Jones o'i flaen a Stephen ar y tu fas iddo fe - mae e wedi ei amgylchynu a phrofiad! twt.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Re: Lloegr v Cymru

Postiogan Duw » Mer 10 Chw 2010 10:00 pm

Cardi Bach a ddywedodd:Er mod i'n credu fod AWJ yn rhy werthfawr i'w golli, rhaid dweud mod i'n teimlo dros Charteris. Gas e ddim gem wael (ddim y gorau, ond ddim yn wael), ac mae'n cael y drop, tra fod AWJ wnaeth rhywbeth hynod dwp (greddfol, ond twp) yn cadw ei le. Pwy neges ma hwnna'n ei gyfleu?

Cyfle arall i gareth Williams? 20 munud ar y mwya weden i - os nad yw'r lein yn gweithio yn y chwarter cynta yna off ag e. yr un modd cooper. Galla i ddeall yr angen am brofiad ar lefel uchel, ond mae gan y mewnwr Ryan Jones o'i flaen a Stephen ar y tu fas iddo fe - mae e wedi ei amgylchynu a phrofiad! twt.


Llygad yn ei le CB.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Lloegr v Cymru

Postiogan Madrwyddygryf » Gwe 12 Chw 2010 7:07 pm

Ryw foi newydd ollwng ei kilt ar BBC Wales Today!
Clwb Rhedeg Caerdydd. Clwb Rhedeg ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
Bob nos Lun 6:00pm tu allan i Athronfa Chwareon, Gerddi Sofia.|
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Lloegr v Cymru

Postiogan Hedd Gwynfor » Gwe 12 Chw 2010 9:50 pm

Genius!! :lol:

Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: 6 Gwlad

Postiogan Duw » Sad 13 Chw 2010 12:18 am

Gyda piclen seis 'ny, byddai'n well sa fe wedi cadw ei gilt ymlaen! :wps:

Be bynnag, llongyfarchiade i'r bois dan 20. Un o'm gyn-ddisgyblion arall, Macauley Cook (Ail Reng) yn osymm! Da iawn fe. Gobethio bo'r tim hy^n yn ware hanner cystal.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: 6 Gwlad

Postiogan Duw » Sul 14 Chw 2010 11:26 pm

Tim a hoffwn weld am y gêm yn erbyn Ffrainc mewn pythefnos:

1. Rhys Gill (Gethin ag anaf?)
2. Huw Bennett
3. Adam Jones
4. Ian Gough
5. AWJ (Bradley Davies ymlaen am y 20 olaf)
6. Jonathan Thomas
7. Martyn Williams (Warburton ymlaen am yr 20 olaf)
8. Ryan Jones
9. Ritchie Rees

Dim newid i weddill yr olwyr. Powell - gobeithio bydd yr helynt gyda'r golff bygi yn gwneud y penderfyniad yn un hawdd i Gatland.

//=============

Lloegr yn warthus. Iwerddon - ho ho ho.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: 6 Gwlad

Postiogan rygbigog » Llun 15 Chw 2010 10:31 am

Duw a ddywedodd:Tim a hoffwn weld am y gêm yn erbyn Ffrainc mewn pythefnos:

1. Rhys Gill (Gethin ag anaf?)
2. Huw Bennett
3. Adam Jones
4. Ian Gough
5. AWJ (Bradley Davies ymlaen am y 20 olaf)
6. Jonathan Thomas
7. Martyn Williams (Warburton ymlaen am yr 20 olaf)
8. Ryan Jones
9. Ritchie Rees

Dim newid i weddill yr olwyr. Powell - gobeithio bydd yr helynt gyda'r golff bygi yn gwneud y penderfyniad yn un hawdd i Gatland.


Cytuno Duw, ond mae Rhys G yn ei dymor gyntaf o chwarae rygbi professiynol, fellu Eifion i dechrau a Rhys ar y fainc.

Cooper allan o'r garfan a Peel ar y fainc?

Lloegr yn warthus. Iwerddon - ho ho ho.
rygbigog
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 76
Ymunwyd: Iau 11 Chw 2010 7:33 pm

Re: 6 Gwlad

Postiogan Cardi Bach » Llun 15 Chw 2010 5:22 pm

Er mod i'n cefnogi 'horses for courses' fel petai, dwi ddim yn deall yr arfer yma o roi chwaraewyr mas o safle pan fo rhywun gystal a nhw, ac sy'n gydnabyddedig yn y safle hwnnw, ar gael i chwarae!

ystyriwch tim Cymru ddydd sadwrn:

powell, sy'n wythwr naturiol, ar y flaen asgell dywyll
Jonathan thomas, sy'n flaen asgellwr tywyll rhagorol, yn yr ail reng
Bradley Davies, sy'n ail reng cydanbyddedig ac yn cael tymor arbennig i'r Gleision, ar y fainc

pam?
Pe byddai Powell yn cael y fflych (wedi neud o'r diwedd - oherwydd ei dwpdra meddw), a rhoi JT ar y flaen asgell a Bradley yn yr ail reng, byddai hynny wedi caniatau i JT wneud beth mae blaen asgellwr tywyll i fod iw wneud, sef taclo ac arafu pel y gwrthwynebwyr, yn hytrach na Powel yn pransan y gwmpas gyda'r cefnwyr, a gadael i Martin williams i fod yn ddolen gyswllt mwy effeithiol gyda'i gefnwyr. Byddai hyn yn ei dro wedi rhoi gwell amddiffyn i Cooper, ac yn gadael i Cooper setlo i rhythm y gem a dechrau chwarae mewn modd ry'n ni i gyd yn gwbod y mae'n gallu chwarae!

Am wn i pwynt y rant yma yw: Pam Uffarn Cael Powell yn agos i'r tim, heb son am ei roi yn rhif 6?!

Hefyd, ai fi yw e, yntau a ddechreuodd Cymru chwarae yn fwy rhydd a bygythiol pan ddechreuon nhw redeg y bel i bob cyfeiriad yn hytrach na chadw at redeg i un ochr o'r cae drwy'r amser hyd nes bod dim lle ar ol cyn ei symud hi am yr ochr arall? fi'n parchu Gatland - mae'n reolwr galluog a dawnus, ond galla i ddim yn fy myw a deall rhesymeg gorfodi y tim i gadw i basio'r bel i un ochr yn unig - mae'n golygu eu bod nhw'n hollol 'predictable' ac yn hawdd eu amddiffyn!

Beth newn ni mewn dwy flynedd pan fydd Shane bach yn ymddeol? :ofn:
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Re: 6 Gwlad

Postiogan Hedd Gwynfor » Llun 22 Chw 2010 11:00 pm

Beth chi'n meddwl o'r tîm i chwarae Ffrainc nos Wener. Falch i weld Deiniol Jones yn cael cyfle! 8)

Delwedd

Cymru: Lee Byrne (Gweilch); Leigh Halfpenny (Gleision), James Hook (Gweilch), Jamie Roberts (Gleision), Shane Williams (Gweilch); Stephen Jones (Scarlets), Richard Rees (Gleision); Paul James (Gweilch), Huw Bennett (Gweilch), Adam Jones (Gweilch), Bradley Davies (Gleision), Deiniol Jones (Gleision), Jonathan Thomas (Gweilch), Martyn Williams (Gleision), Ryan Jones (Gweilch - capten).
Eilyddion: Ken Owens (Scarlets), Rhys Gill (Saracens), Luke Charteris (Dreigiau), Sam Warburton (Gleision), Mike Phillips (Gweilch), Andrew Bishop (Gweilch), Tom Shanklin (Gleision).

http://www.bbc.co.uk/cymru/chwaraeon/sa ... 1305.shtml
http://www.golwg360.com/Chwaraeon/cat4/ ... 10111.aspx
http://news.bbc.co.uk/sport1/hi/rugby_u ... 521048.stm
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

NôlNesaf

Dychwelyd i Chwaraeon

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai